Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Adroddwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr M. Cross a J.P. Morgan.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiad dilynol o fuddiannau. Cynghorydd W. Hodgins – Eitem Rhif 6 Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2020/21 Ch4
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 258 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.
(Dylid nodi y cyflwynwyd y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 24 Mawrth 2021 Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2020/21 Ch4 PDF 479 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu adolygiad perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am chwarter 4, yn erbyn prosiectau yn ymwneud â buddsoddiad ym Mlaenau Gwent yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i raglenni allweddol gwaith ym Mlaenau Gwent a chynnydd y rhaglen ar y targedau allweddol a ddynodwyd o fewn Cynllun Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2020/21.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at adran 2.15 yr adroddiad a gofynnwyd os y cysylltwyd gyda chwmnïau tacsi, ac os felly os y dangoswyd unrhyw ddiddordeb mewn manteisio ar y cyfle i dreialu tacsi trydan.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog y cafodd y tacsis eu derbyn yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, dywedodd y byddai’n gwirio os oedd Tîm Trwyddedu Tacsis y Cyngor wedi cylchredeg gohebiaeth i gwmnïau tacsi.
Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y trefnwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu rhithiol, ac mae’r Tîm Trwyddedu yn cysylltu â gyrwyr tacsi yn yr ardal. Hefyd, fel rhan o hyrwyddiad ehangach, byddai lansio’r cynllun tacsi newydd yn cyd-daro gyda lansiad gorsaf bysus newydd Merthyr a gwelliannau i’r safle tacsi ar ddiwedd mis Mai 2021.
Cyfeiriodd Aelod arall at y gwelliannau i’r ddolen rheilffordd a’r benthyciad o £70m, a dywedodd fod yr adroddiad yn awgrymu y cafodd peth o’r arian ei wario eisoes. Deallai y bwriedir cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol eraill am gyfraniad posibl. Dywedodd hefyd y byddai dolen rheilffordd o Frynmawr i Bontyp?l yn fwy manteisiol i breswylwyr Blaenau Gwent, gan roi dolen i Gwmbrân a Chasnewydd, a gofynnodd os gwnaed unrhyw gynnydd yng nghyswllt hyn.
Esboniodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod y £70m yn gyllid ar wahân a gaiff ei rannu rhwng pob awdurdod lleol i gynnal prosiectau ychwanegol, wrth ochr adnewyddu rheilffyrdd. Yn nhermau dolen reilffordd rhwng Brynmawr a Phontyp?l, nid oedd gan y swyddog unrhyw wybodaeth ond cyfeiriodd y Pwyllgor ar adran 2.16 yr adroddiad sy’n dweud bod gwasanaethau i Gaerdydd a Chasnewydd yn cael eu profi yn fanwl ar hyn o bryd, fel y byddai dolen i Gasnewydd yn y dyfodol.
Nododd Aelod fod adran 2.6 yn dweud bod y gwaith dylunio ar gyfer Abertyleri yn dod o gyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fodd bynnag, gofynnodd pwy fyddai’n talu am y gwaith am y cynnydd yn y gwasanaeth i Lynebwy ac os y byddai hyn yn dod o’r benthyciad £70m.
Esboniodd y Swyddog fod y benthyciad £70m ar gyfer gwaith gwella llinell. Nid yw’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar y rhwydwaith ar hyn o bryd, h.y. gwelliannau Crymlyn, yn rhan o’r £70m; fodd bynnag, mae peth o’r gwaith dylunio yn rhan o gyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r £70m ar gyfer gwaith penodol ar reilffordd Cwm Ebwy i gynyddu’r gwasanaeth i 2 drên yr awr i ddechrau, ac yna gysylltu gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru y dylai Blaenau’r Cymoedd gael 4 trên yr awr.
Mewn ymateb, gofynnodd yr Aelod am ddadansoddiad o’r gwahanol ffrydiau cyllid. Gofynnodd hefyd os ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Her Catalydd GovTech PDF 438 KB Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd prosiect Catalydd GovTech, sy’n gronfa £20m gan Wasanaethau Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio gyda chyflenwyr i ddatrys problemau sector cyhoeddus yn defnyddio technoleg ddigidol flaengar
Cyflwynodd Adran Adfywio y Cyngor nifer o syniadau prosiect i dîm Catalydd GovTech ac yn 2018 gwahoddwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gydweithio ar hyn gyda Chyngor Swydd Durham ar brosiect dan y teitl “Data deallus i drawsnewid darpariaeth gwasanaethau cyngor”. Byddai’r prosiect yn edrych sut y gellid defnyddio asedau presennol, tebyg i gerbydau’r Cyngor, i gefnogi a gwella sut ydym yn darparu ein gwasanaethau.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm y gellid defnyddio’r dechnoleg mewn unrhyw gerbyd, yn cynnwys cerbydau ailgylchu a sbwriel y Cyngor.
Dilynodd trafodaeth fer pan gadarnhaodd y swyddog y byddai cyfle i fireinio’r dechnoleg yn y dyfodol i drin materion eraill.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi cynnydd y prosiect, a darparu adroddiad pellach ar ganlyniad y prosiect.
|
|
Diweddariad Cynnydd Parc Busnes Rhodfa Calch a Boxworks PDF 508 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Prosiectau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Prosiectau Cyfleoedd Adfywio.
Cyflwynodd Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad cynnydd ar Uned Fusnes Rhodfa Calch a chynllun Boxworks ar hen safle’r Gweithfeydd.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod os y gallai’r Cyngor ad-hawlio’r gwariant o gronfa cymorth Covid a hefyd os oes gwarant y bydd y Cyngor yn adennill yr arian a wariwyd yn ystod cyfnod oes 15 mlynedd yr unedau.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y ddau brosiect a chaiff pob opsiwn eu hymchwilio ar ran y gorwariant.
Dywedodd Aelod y dylid cynnwys y galw am holl unedau’r Cyngor ar flaen-raglen waith y Pwyllgor Craffu, gan iddi dderbyn cwynion am gyflwr rhai o’r unedau a’r cynnydd mewn rhent.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y caiff portffolio unedau diwydiannol y Cyngor ei gynnwys ar y Flaenraglen Gwaith.
Esboniodd yr Arweinydd Tîm, pan gaiff y datblygiadau ar gyfer y ddau brosiect eu cyflwyno, y cynhelir dadansoddiad galw yn yr ardal o ran yr unedau sydd eisoes yn eu lle, y lefel o ddiddordeb a lle gallem ateb y galw. Mae unedau Boxworks yn ddarpariaeth wahanol i unrhyw beth arall yn y Fwrdeistref ac o’r dadansoddiad galw rydym yn rhagweld galw yn seiliedig ar ymholiadau a gawsom ac na fu modd i ni eu diwallu.
Cyfeiriodd y Swyddog at adroddiad y ‘Parc Cyflogaeth’ ar yr agenda blaenorol a chadarnhaodd yr edrychwyd eto ar y dadansoddiad o’r galw fel rhan o’r gwaith hwnnw, a bod tystiolaeth yn dangos galw am unedau llai tebyg i Boxworks.
Gofynnodd Aelod arall os sefydlwyd unrhyw gostau rhent a ph’un a fyddai unrhyw derfyn amser ar rent yr unedau.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio ei bod yn bwysig i gynnig hyblygrwydd o ran hyd y cyfnod rhentu. Datblygwyd opsiynau o amgylch trefniant trwydded 6 mis ac opsiwn estynedig, a rhagwelir cynnydd yn y galw fel canlyniad i’r newid mewn trefniadau gwaith oherwydd pandemig Covid.
Yn nhermau costau rhent ac yn y blaen, dywedodd fod hyn yn seiliedig ar asesiadau cyfradd marchnad ac y byddai’n cynnwys costau parhaus ar gyfer yr unedau.
Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bwriedir darpariaeth hyblyg ar gyfer yr unedau blwch i alluogi busnesu newydd bach i rentu ar sail tymor byr, ond hefyd i ddatblygu dilyniant a rhoi cefnogaeth i alluogi’r busnesau hynny wrth iddynt dyfu a’u bod angen mwy o ofod, i symud i unedau presennol mwy o fewn y Fwrdeistref.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn r adroddiad a:
i. Nodi’r cynnydd a wnaethpwyd hyd yma gydag Uned Fusnes Rhodfa Calch a hefyd Boxworks, gyda disgwyl cwblhad terfynol ym Mehefin 2021; a
ii. Nodi y cyflwynir adroddiad cau manwl i’r Pwyllgor Craffu yn ddiweddarach eleni, hefyd yn cynnwys canfyddiadau o adroddiad ymgynghoriaeth Wavehill, sy’n amod cyllid WEFO.
|