Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 10fed Chwefror, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.C. Morgan.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad dilynol o fuddiant:

Cynghorydd W. Hodgins – Eitem Rhif 6 Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 323 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 6 Ionawr 2021 pdf icon PDF 187 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o cyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 6 Ionawr,

 

Blaenraglen Gwaith (Truck Shop, Tredegar)

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Adfywio y cafwyd cytundeb ‘mewn egwyddor’ gan CADW i ddymchwel rhannau o’r adeilad.

 

TVR

 

Mewn ymateb i gwestiwn arall, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu y byddai adeilad y Bwrdd Technoleg yn cael ei ailwampio beth bynnag. Deallai fod TVR yn ceisio cyllid ychwanegol o’r sector preifat a byddai’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn ailwampio adeilad y Bwrdd Technoleg yn rhoi rhywfaint o hyder i gyllidwyr sector preifat. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Swyddog y cafodd cryn dipyn o ddiddordeb ei fynegi yn yr adeilad pe na bai’r TVR yn dod i ffrwyth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel pdf icon PDF 710 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Datblygu Sgiliau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Datblygu Sgiliau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Sgiliau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar berfformiad y rhaglen Anelu’n Uchel ac ymgysylltu allanol cysylltiedig â busnes, a’r wybodaeth perfformiad ar raglen prentisiaeth fewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo. Hyd yma mae Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel wedi:

 

·         Recriwtio a chefnogi 84 prentis a gafodd eu lleoli mewn dros 20 o gwmnïau gweithgynhyrchu ar draws Blaenau Gwent yn ogystal â chyflogi 10 prentis o fewn adrannau’r Cyngor.

·         Mae 51% o brentisiaid o fewn Cohortau 1 a 2 (2015 a 2016) wedi symud ymlaen i addysg uwch/HNC.

·         Cafodd 100% o’r prentisiaid yn Cohort 1 eu cyflogi, gyda 67% wedi eu cadw gan y cyflogwr a’u noddodd.

·         Fframwaith a gwblhawyd: Cohort 1 – 83%, Cohort 2 – 79%.

·         Cafodd 100% o brentisiaid yng nghohortau 1-5 gyfle i symud i gwmni arall i gyflawni bylchau sgiliau.

 

Yn 2020, cafodd 17 prentis eu rhoi ar ffyrlo oherwydd Covid. Hwn oedd y nifer uchaf ar unrhyw amser gyda rhai prentisiaid yn cael eu rhoi yn hirach na rhai eraill. Y flaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn oedd cefnogi’r prentisiaid a’u helpu i barhau eu dysgu drwy’r coleg, fel arfer wersi rhithiol a pharhau â gwaith NVQ lle’n bosibl. Yn ychwanegol, mae Tîm Anelu’n Uchel yn eu cefnogi gyda’u hiechyd a’u llesiant i’w llywio drwy gyfnodau ansicr gydag anogaeth a chyfathrebu agored.

 

Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw brentisiaid ar raglen Anelu’n Uchel wedi colli eu swyddi yn ystod y cyfnod hwn a’u bod i gyd wedi dychwelyd i’w gweithleoedd. Teimlwyd fod y gefnogaeth a roddwyd i brentisiaid gan dîm rhaglen Anelu’n Uchel ynghyd â chyflogwyr wedi hwyluso’r deilliant hwn.

 

Canmolodd Aelod yr adroddiad a dywedodd ei bod yn dda gweld Anelu’n Uchel yn cael cydnabyddiaeth ledled Cymru. Gofynnodd wedyn os oedd Tai Calon wedi cymryd unrhyw brentisiaid.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog y cynhaliwyd trafodaethau gyda Tai Calon ar y rhaglen Hyfforddeiaeth Gorfforaethol. Dywedodd i Anelu’n Uchel gael ei sefydlu i ddechrau i hwyluso prentisiaethau gweithgynhyrchu a pheirianneg, ac mae llawer o’r sgiliau a gynigir gan Tai Calon yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu. Fodd bynnag, gwyddai fod 2 neu 3 o bobl ar y Rhaglen Hyfforddeiaeth Genedlaethol wedi symud ymlaen i brentisiaeth drwy’r llwybrau hynny. Byddid hefyd yn ymgysylltu gyda Rhaglen Hyfforddiaethau Prentisiaeth Sir Fynwy gan fod ganddynt y sgiliau gyda CITB i hwyluso’r maes hwnnw o ddysgu. Yn nhermau prentisiaethau eraill o safbwynt mewnol, cynhaliwyd trafodaethau gyda ALT i dynnu sylw at unrhyw gyfleoedd a all godi.

 

Cyfeiriodd Aelod at y ffaith mai gwrywod yw 91% o’r 30 prentis, a 9% yn fenywod, a gofynnodd sut mae hyn yn cymharu gyda’r sefyllfa ledled Cymru.

 

Esboniodd y Swyddog ei fod yn dibynnu ar y sector. Dynion yw’r rhan fwyaf o ddigon o’r gweithwyr mewn gweithgynhyrchu a pheirianneg ac mae Blaenau Gwent yn debyg i awdurdodau lleol eraill. Yn nhermau prentisiaethau ar draws Cymru mae dull gweithredu mwy cytbwys gyda phrentisiaethau i  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Cynnydd; Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi pdf icon PDF 598 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diwedddariad ar waith Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cadarnhaodd y cynhaliwyd ail gyfarfod o’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar 20 Ionawr 2021 pan gafodd y Gr?p gyflwyniad ar Gr?p Ymgynghori Tredegar sy’n cynnwys manylion sut y sefydlwyd y Gr?p Ymgynghori, sut y gweithredai a’i sut yr oedd wedi cefnogi Swyddogion Aelodau i gydweithio ar adfywio Tredegar.

 

Teimlai Aelodau y byddai’n fanteisiol ymchwilio posibilrwydd dyblygu’r dull gweithredu  yn Nhredegar ar draws pob tref arall o fewn y Fwrdeistref a chytunodd Swyddogion i gefnogi Aelodau i ystyried yr opsiynau hyn a sefydlu’r grwpiau.

 

Diolchodd Aelod i’r Swyddog am ei gwaith ar y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a dywedodd y teimlai fod y Gr?p yn sicrhau cynnydd. Yng nghyswllt yr argymhellion i ddod â diweddariad yn ôl bob chwarter, awgrymodd y dylid dod â’r rhain i’r Pwyllgor Craffu lle mae angen.

 

Dilynodd trafodaeth fer am amseriad y diweddariadau a roddir i’r Pwyllgor Craffu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi cynnydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a bod diweddariadau pellach yn cael eu derbyn fel sy’n briodol.

 

8.

Defnyddio Ymgynghorwyr pdf icon PDF 666 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol/Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth y gofynnodd Aelodau amdani yng nghyswllt gwariant a wnaed yn ystod 2018/2019 a 2019/2020 ar ddefnydd ymgynghorwyr i gefnogi, atodi ac ategu gwaith Swyddogion ar draws y Cyngor.

 

Dywedodd y caiff ymgynghorwyr eu defnyddio’n helaeth ar draws yr holl sector cyhoeddus yn cynnwys Llywodraeth Cymru ar gyfer nifer o wahanol ddibenion a defnyddir ymgynghorwyr ym Mlaenau Gwent mewn nifer o ffyrdd, h.y.

 

·         Rhoi cymorth mewn meysydd arbenigol lle nad oes fawr neu ddim arbenigedd neu brofiad o fewn y Cyngor

·         Rhoi cyngor annibynnol a safbwynt gwahanol (her)

·         Ategu adnoddau lle nad oes capasiti digonol i ymgymryd â thasg benodol a ddynodwyd e.e. oherwydd y  daeth y gwaith i’r Cyngor yn annisgwyl neu lle bod angen datblygu’r gwaith o fewn cyfnod penodol/cyfyngedig.

·         Rhoi hyfforddiant i staff Blaenau Gwent i wella eu harbenigedd eu hunain e.e. newidiadau i ddeddfwriaeth

·         Roedd swm sylweddol o gostau ymgynghorwyr yn gysylltiedig gyda chyflenwi prosiectau ac yn cael eu cyllido drwy grantiau allanol.

 

Dywedodd mai mantais  cyflogi ymgynghorwyr hefyd oedd mai dim ond am gyfnod byr mae eu hangen gan alluogi sefydliad i dalu am y sgil honno ar alw dim ond pan fo’i hangen. Roedd hyn yn aml yn ddefnydd effeithlon o adnoddau’r Cyngor ac yn osgoi/disodli’r angen i gyflogi staff ychwanegol, gyda gwybodaeth a sgiliau arbenigol, ar sail barhaol.

 

Yn ystod 2018/19 a 2019/20 roedd y Cyngor wedi gwario cyfanswm o £0.7m a £1.1m ar ymgynghorwyr ar draws pob gwasanaeth. Mae’r Atodiad  yn dynodi’r ymgynghorwyr hynny, y costau a’r rheswm dros eu cyflogi yng nghyswllt portffolio’r Economi.

 

Cymeradwyodd Aelod yr esboniad a roddodd y Cyfarwyddwr Cymunedol am ddefnyddio ymgynghorwyr.

 

Tanlinellodd Aelod arall bwysigrwydd defnyddio ymgynghorwyr yn ddoeth a dim ond pan oedd yn hollol hanfodol, gan y gwyddai am nifer o achosion lle cyflogwyd ymgynghorwyr ac na chafodd yr adroddiadau dilynol eu defnyddio. Cyfeiriodd hefyd at  y costau ymgynghorwyr a gafwyd fel canlyniad i gynlluniau trac profi ac Adfywio a Ffynnu.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn nhermau’r darpar safle trac profi a’r cyfle posibl i Flaenau Gwent, y byddai angen mwy o arbenigedd allanol i gefnogi’r prosiect sydd yn brosiect mawr gyda nifer o agweddau a fyddai angen gwybodaeth arbenigol a gwybodaeth o’r diwydiant. Gobeithir y byddai defnydd pellach o ymgynghorwyr ar y prosiect hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth gyda’r awdurdodau lleol sy’n bartneriaid i ni sydd hefyd yn gefnogol i fynd â’r prosiect ymlaen a’r gwaith ychwanegol i ymchwilio cyfleoedd. Fodd bynnag, tanlinellodd mai dim ond am arbenigedd arbenigol neu gapasiti ychwanegol y defnyddid ymgynghorwyr.

 

Yn nhermau’r cynllun Adfywio a Ffynnu, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu y cafodd y cwmni ei ddefnyddio i helpu sefydlu cynnig ar gyfer Rasa a hefyd Tafarnaubach a bod y gwaith hwn yn awr wedi’i orffen.

 

Wrth edrych ar y ffigurau dros y 2 flynedd diwethaf, dywedodd Aelod y teimlai fod cyfiawnhad da dros y 17.5% y flwyddyn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 562 KB

Ystyried yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a gynhelir  ar 24 Mawrth 2021.

 

Dywwedodd y Swyddog Craffu y byddid yn tynnu’r adroddiad Buddion Cymunedol a rhoi’r adroddiad Academi Sgiliau yn ei le.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn  amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad.