Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 312 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 15 Tachwedd 2021 PDF 105 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021, yn cynnwys:
Gorfodaeth Parcio Sifil
Gofynnodd Aelod am ddiweddariad hyd at ddiwedd Chwefror 2022 ar gyfer Nantyglo, a chadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r Swyddog yn rhoi diweddariad i bob Aelod ar gyfer eu ward.
Holodd Aelod arall os oes nifer ddigonol o Swyddogion Gorfodaeth yn y Fwrdeistref.
Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol mai nifer staff llawn swyddogion gorfodaeth oedd dau. Fodd bynnag, mae un Swyddog Gorfodaeth wedi gadael yn ddiweddar ac mae’r broses recriwtio yn mynd rhagddi i lenwi’r swydd wag. O ran os oedd y nifer yn ddigonol, cadarnhaodd y Swyddog y daethpwyd â’r adroddiad blynyddol i’r Pwyllgor a’i fod yn gyfle i Aelodau adolygu’r gwasanaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad diwethaf ym mis Tachwedd 2021 a chytunwyd i’r trefniadau cyfredol.
Dalen Weithredu – 4 Hydref (diweddariad ar Catch 22)
Dywedodd Aelod yr adroddwyd yn y cyfarfod diwethaf fod Catch 22 yn ystyried Trosglwyddo Ased Cymunedol o naill ai Ganolfan Adnoddau Rasa neu Ganolfan Gymuned Drenewydd. Mae’r nodyn ar y Ddalen Weithredu yn dweud fod y sefydliad yn ystyried TAC ar gyfer darparu Canolfan Anawsterau Cymdeithasol Emosiynol ac Ymddygiadol, fodd bynnag dywedodd yr Aelod fod Prif Weithredwr Catch 22 wedi dweud mewn adroddiad diweddar yn y wasg ei fod ar gyfer dibenion Canolfan Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gofynnodd yr Aelod am eglurhad ar y mater. Mynegodd bryder hefyd am y cynigion a dywedodd y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Swyddog perthnasol yn bresennol. Fodd bynnag, dywedodd y byddai’r defnydd a gynigir ar gyfer yr adeilad yn dod dan orchwyl y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.
Soniodd yr Aelod y cafodd y TAC ei drafod yn y cyfarfod diwethaf ac y daethpwyd â gwybodaeth yn ôl i’r Pwyllgor. Fodd bynnag, cytunodd y dylai’r mater fod wedi ei gyfeirio at y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gofynnodd i hynny cael ei wneud ac i ddiweddariad gael ei roi i Aelodau.
Teithio Llesol a Llwybrau Diogel i Gymunedau (Llwybr Cebl)
Cododd Aelod bryderon fod y llwybr cebl yn dal ar gau oherwydd cyfyngiadau Covid. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y cynhelir asesiad risg. Fodd bynnag, dywedodd y byddai’n rhaid i unrhyw benderfyniad i agor y llwybr cebl fod yn gydnaws gyda pholisi gweithle ehangach y Cyngor sy’n dal i fod dan gylch gorchwyl gweithgareddau hanfodol yn unig.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 204 KB Derbyn cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Gweithgaredd Gorfodaeth Tipio Anghyfreithlon 2021/22 PDF 529 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Tîm Gwasanaethau Gorfodaeth Rheng Flaen.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Gwasanaeth Gorfodaeth Rheng Flaen yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar weithgareddau gorfodaeth yr Awdurdod yng nghyswllt tipio anghyfreithlon a throseddau rheoli gwastraff eraill a lefel y gweithgaredd tipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent am y flwyddyn 2021/22.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod os oedd y system archebu a weithredir ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn cael effaith niweidiol ar dipio anghyfreithlon.
Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod y system archebu, a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig Covid, yn cael ei hadolygu ac opsiynau’n cael eu hymchwilio. Fodd bynnag dywedodd fod yr adroddiad yn dangos fod tipio anghyfreithlon wedi gostwng yn y 12 mis diwethaf.
Gofynnodd Aelod os y gellid defnyddio CCTV mewn ardaloedd problem.
Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Gorfodaeth Rheng Flaen fod nifer o leoliadau yn cael eu hystyried a’u blaenoriaethu, ond y byddai’n hapus i gael mewnbwn gan Aelodau.
Mynegodd Aelod arall bryder am nifer isel yr hysbysiadau cosb sefydlog a gyhoeddwyd ar gyfer tipio anghyfreithlon.
Esboniodd y Swyddog y cafodd 424 cwyn am dipio anghyfreithlon eu hymchwilio gan Wardeniaid Gorfodaeth. Fodd bynnag nid yw mwyafrif y deunyddiau a gaiff eu tipio yn cynnwys unrhyw dystiolaeth i’r Wardeiniaid Gorfodaeth weithredu arno. Yn y dyfodol caiff yr Hysbysiadau Cosb Sefydlog eu rhoi ar lefel is o dystiolaeth felly rhagwelir y byddai’r ffigurau’n cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog fod y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Stad Dug Beaufort am dipio anghyfreithlon a hefyd gyda phartneriaid a pherchnogion tir preifat arall i gael gwastraff wedi ei symud cyn gynted ag oedd modd.
Dilynodd trafodaeth pan eglurodd Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau.
Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar gasgliadau lon gefn.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth y cafodd rhai casgliadau lon gefn eu hadfer ond fod gwaith yn dal i’w wneud.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogi’r gwaith parhaus ar reoleiddio gwastraff a datblygu’r Gwasanaeth Gorfodaeth Rheng Flaen (Opsiwn 1).
|
|
Addasiadau i’r Anabl – Cynnig Diwygio Polisi i ddileu prawf modd PDF 540 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd a Rheolwr Tîm Datrysiadau Tai a Chydymffurfiaeth.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad sy’n gofyn am farn Aelodau yng nghyswllt y diwygiad polisi arfaethedig a fyddai’n dileu’r prawf modd presennol ar gyfer grantiau ar gyfer addasiadau i’r anabl ym Mlaenau Gwent.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.
Dilynodd trafodaeth faith yng nghyswllt y prawf modd ar gyfer addasiadau mawr.
Cafodd opsiwn 1 ei gynnig gan Aelod gyda’r diwygiad dilynol, sef ‘cadw’r prawf modd ar gyfer addasiadau mawr ar raddfa lithro’.
Eiliwyd y cynnig.
Cafodd Opsiwn 2 ei gynnig gan Aelod arall, ac eiliwyd hynny.
Mewn pleidlais, CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n cefnogi’r diwygiad polisi arfaethedig fyddai’n tynnu’r prawf modd presennol ar gyfer grantiau ar gyfer addasiadau i’r anabl ym Mlaenau Gwent o 1 Ebrill 2022 a chadw’r prawf modd ar gyfer addasiadau mawr ar raddfa lithro (Opsiwn 1).
|
|
Ymestyn Contract – Gwasanaeth Triniaeth Rheoli Pla hyd 31 Rhagfyr 2023 PDF 499 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y gwasanaeth triniaeth rheoli pla a ddarperir gan Rentokil ar hyn o bryd. Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod os y cafodd cwmnïau lleol eu hystyried ar gyfer y contract.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog y gweithredwyd fframwaith caffael y Cyngor. Dywedodd y gallai cwmni cenedlaethol hefyd fod â gwytnwch o fewn y gweithlu na fyddai efallai gan gwmni lleol llai.
Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelod.
Cynigiodd Aelod Opsiwn 2 gydag argymhelliad i’r Pwyllgor Gweithrediaeth y dylid cynnal gwaith caffael lleol ar gyfer y gwasanaeth ar ddiwedd y contract (31 Mawrth 2023).
Eiliwyd y cynnig.
Fe wnaeth Aelod arall gynnig Opsiwn 1 ac eiliwyd hynny.
Mewn pleidlais, CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n nodi perfformiad y gwasanaeth a pharhad y contract gyda Rentokil tan 31 Mawrth 2023, pan y byddai’n cael ei adolygu a’i ail dendro, fel sydd angen, yn unol â rheolau corfforaethol ar Gaffael (Opsiwn 1).
|