Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 233 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodon er pwyntiau cywirdeb yn unig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu - 7 Mehefin 2021 PDF 201 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2021.
Rhaglen Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2021-22
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y trefnwyd Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar gyfer 2.00pm ar 29 Gorffennaf 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Newid Trefn yr Agenda Cofnodion: Cytunwyd i drafod eitem rhif 9 yn nesaf ar yr agenda.
|
|
Blaenraglen Gwaith: 4 Hydref 2021 PDF 398 KB Derbyn yr adroddiad
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod sydd ar yr amserlen ar gyfer 4 Hydref 2021.
Gofynnodd Aelod am adroddiad ar Lwybrau Diogel i’r Ysgol ddod gerbron y Pwyllgor cyn gynted ag sy’n bosibl, yn cynnwys y Bws Hyblyg.
Dilynodd trafodaeth fer pan esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y cafodd cwmpas Llwybrau Diogel i Ysgolion ei ehangu ac roedd yn awr yn ‘Llwybrau Diogel i Gymunedau’ ac y byddir yn dod ag adroddiad ar y meini prawf ar gynigion i’r Pwyllgor.
Awgrymodd Aelod arall y dylid adolygu polisi cynnal a chadw y gaeaf yng ngoleuni’r datblygiadau tai newydd o fewn y Fwrdeistref.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod y prif ddatblygiadau tai newydd sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd eisoes ar yr amserlen cynnal a chadw gaeaf. Fodd bynnag, caiff yr amserlen ei hadolygu i roi ystyriaeth i unrhyw ddatblygiadau newydd yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach cadarnhaodd y Swyddog fod darpariaeth ar gyfer biniau halen ar gyfer unrhyw adeiladau nad ydynt ar y prif lwybr graeanu, ac y caiff y meini prawf ar eu cyfer eu hystyried ar gyfer datblygiadau newydd pan fydd pobl yn byw ynddynt.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gytuno ar y Flaenraglen Gwaith.
|
|
Cynllun Rheoli Risg Llifogydd (2016- 2022) PDF 475 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol/Arweinydd Tîm Amgylchedd Naturiol.
Cyflwynodd yr Uwch Beiriannydd Draeniad Tir yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar gynnydd wrth gyflwyno Cynllun Rheoli Llifogydd 2016-22 Blaenau Gwent. Mae Atodiad 2 yn rhoi’r sylw i’r cynnydd a wnaed ers y mabwysiadwyd y Cynllun ym mis Rhagfyr 2015 a’r cynnydd a wnaed ers yr adolygiad blynyddol diwethaf yn 2020.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnodd sylw at y pwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at adran 2.2 yr adroddiad a gofynnodd pa waith sy’n cael ei wneud gyda phartïon eraill i sefydlu cyfrifoldeb am ddraeniad.
Cadarnhaodd y Swyddog fod y Cyngor wedi gweithio gyda phartïon eraill yn cynnwys D?r Cymru a Tai Calon. Fodd bynnag, roedd weithiau’n anodd dynodi cyfrifoldeb, yn neilltuol pan gafodd anheddau Tai Calon eu gwerthu.
Gofynnodd Aelod arall os oes rhaglen dreigl ar waith i lanhau draeniau er mwyn osgoi llifogydd fflach.
Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd y derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru y llynedd i wneud gwaith glanhau gwliau ychwanegol ar draws y seilwaith priffyrdd. Roedd rhestr waith yn ei lle ac mae rhai gwliau yn cael eu harchwilio bob 2 wythnos a rhai bob 6 wythnos.
Gofynnodd Aelod os oes systemau yn eu lle i wirio a chynnal cwlfertau ar dir preifat ac os oedd tirfeddianwyr yn gyfrifol am gynnal a chadw ac yn y blaen.
Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd fod y Cyngor yn cynnal ymchwiliadau CCTV helaeth ar gwlfertau, sy’n cyfrif am gyfran fawr o gyllid grant. Yn nhermau tir mewn perchnogaeth breifat, y rheol gyffredinol oedd y byddai’r tirfeddianwyr yn gyfrifol am unrhyw gyrsiau d?r sy’n rhedeg drwy eu tir.
Gofynnodd Aelod os byddai tirfeddianwyr preifat yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosid oherwydd nad oedd cwlfertau yn cael eu cynnal a chadw.
Dywedodd y Swyddog y caiff pob achos ei farnu ar ei haeddiant; fodd bynnag ni wyddai am unrhyw achosion lle mae’r Cyngor wedi ailgodi tâl ar breswylwyr am unrhyw waith a wnaethpwyd fel canlyniad i lifogydd. Prif ffocws y Cyngor yw datrys y broblem a gwneud unrhyw waith sydd ei angen. Caiff hyn ei gyllido gan y gyllideb bresennol neu drwy gyllid grant.
Manteisiodd Aelodau ar y cyfle i ddiolch i’r tîm am eu gwaith yn delio gyda nifer o ddigwyddiadau llifogydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Aelod fod llawer o’r cwlfertau o fewn y Fwrdeistref yn hen iawn ac mewn risg yn neilltuol gyda’r nifer cynyddol o stormydd mewn blynyddoedd diweddar a dywedodd y dylai’r Cyngor ystyried sefydlu cronfa i ymateb i sefyllfaoedd llifogydd argyfwng.
Cyfeiriodd hefyd at y llifogydd yn Sgiwen a achoswyd gan hen byllau glo a gofynnodd os yw’r Cyngor yn gweithio gyda’r Awdurdod Glo i ganfod cyflwr hen byllau glo yn y Fwrdeistref.
Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog fod y Cyngor yn gweithio’n dda gyda’r Awdurdod Glo, fodd bynnag mae dyddiad pryd y byddent yn peidio bod yn gyfrifol am hen byllau. Hefyd, oherwydd y ddeddfwriaeth sydd yn ei lle, roeddent yn gyfyngedig o ran pa gamau gweithredu ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Anifeliaid Crwydrol PDF 562 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol / Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o broblem anifeiliaid crwydrol o fewn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r adroddiad yn amlinellu maint y broblem, yn cynnwys dynodi lleoliadau daearyddol lle caiff y broblem ei hadrodd yn aml a chyflwynwyd cynllun gweithredu i ddatrys digwyddiadau. Mae’r adroddiad yn adroddiad aml-adrannol ac mae’r cynllun gweithredu’n nodi’n glir y rhai sy’n gyfrifol am bob gweithred.
Mynegodd Aelod bryder bod yr arolwg o dir a gwaith i ddynodi cyfrifoldeb am ffensio yn dal heb ei orffen. Dywedodd fod clwydi’n cael eu gadael ar agor ac nad y ffermwyr oedd ar fai am ddifrod i ffensys, ond yn y pen draw nhw sy’n gyfrifol am wirio eu hanifeiliaid a’u crynhoi pan maent yn crwydro.
Dywedodd y Swyddog fod datblygu rhestr hollol gyfredol o ffermwyr i gysylltu â nhw pan wneir adroddiadau am broblemau anifeiliaid crwydrol yn rhan o’r cynllun gweithredu. Dywedodd fod mwyafrif y ffermwyr yn ymateb yn gyflym iawn ond roedd nifer fach yn cymryd mwy o amser, yn neilltuol y rhai sydd â swyddi eraill. Mae gwaith yn ymwneud â meithrin perthynas gyda ffermwyr i weld beth fedrwn ei wneud i’w cefnogi a hefyd weithio gyda’r heddlu i sicrhau y caiff anifeiliaid eu symud ymlaen yn gyflym.
Cyfeiriodd Aelod at adran 2.5 a gofynnodd pryd oedd y tro diwethaf i’r Cyngor archwilio ei llinellau ffens. Er ei bod yn croesawu’r cynllun gweithredu, dywedodd ei fod yn debyg iawn i’r gwaith a wnaed yn flaenorol gan y Fforwm Anifeiliaid Crwydrol. Mynegodd bryder hefyd am faint o amser y mae’n ei gymryd i’r Cyngor ymateb i faterion difrod i ffensys.
Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Stadau fod y Cyngor yn dirfeddiannwr sylweddol ac nad oedd ganddo’r adnoddau i gynnal archwiliadau rheolaidd o’i ffensys terfyn. Caiff ei wneud ar sail ymateb pan dderbynnir adroddiadau am ddifrod i ffensys.
Yng nghyswllt yr amserau ymateb dywedodd y Swyddog fod nifer o ffactorau yn arafu’r broses. Dim ond un Swyddog Gweithredoedd Tir sydd ar gael ar hyn o bryd i ddynodi perchnogaeth tir. Roedd swyddogion hefyd yn ei chael yn anodd dynodi union leoliad ffensys oedd wedi’u difrodi ac awgrymodd y gallai fod yn fwy manteisiol yn y dyfodol i Aelodau gwrdd â swyddogion ar safle i ddangos lle’r oedd angen atgyweiriadau. Hefyd dim ond un contractwr ffensio sydd gan y Cyngor ar hyn o bryd, gan yr ymddengys fod diffyg awydd ar gyfer y math hwn o waith ac roedd hefyd oedi gyda chyflenwi deunyddiau.
Dywedodd mai rhan o’r cynllun gweithredu oedd dynodi’r ardaloedd problemau mwyaf ar y cynllun, a dynodi cyfrifoldeb am gynnal a chadw’r ardaloedd hynny. Bwriedir hefyd wneud gwaith caffael ar gyfer contractwyr ffensio ychwanegol.
Cyfeiriodd Aelod at y ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr preifat i gynnal ffensio llinellau yn ymyl tir comin, a gofynnodd pwy sy’n gyfrifol am weithredu’r ddeddfwriaeth honno.
Cadarnhaodd y Rheolwr Stadau y byddid yn rhoi blaenoriaeth yn y ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Gwaith Ychwanegol Cynnal a Chadw Priffyrdd 2021 - 22 PDF 407 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol/Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd yr adroddiad sy’n rhoi opsiynau ar gyfer gwaith ychwanegol arfaethedig i ddelio gyda materion cynnal a chadw arferol priffyrdd, megis tyllau yn y ffordd a gwaith clytio ym mlwyddyn ariannol bresennol 2021/22.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Swyddog y bwriedir cwrdd gydag Aelodau Ward yn yr wythnosau nesaf i ddynodi gwaith o fewn eu wardiau.
Gofynnodd Aelod os y gellid ychwanegu’r gwaith matrics at y contract presennol a dywedodd y Swyddog y byddai’n rhoi adroddiad yn ôl ar y mater hwn.
Croesawodd Aelodau yr adroddiad a dweud eu bod yn edrych ymlaen at y cyfarfodydd ward.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a dynodi’r gwaith angenrheidiol ym mhob un o’r 16 ward a thendro i gontractwr preifat, a chynnal tendr i sicrhau cost gwaith clytio priffyrdd fesul metr sgwâr, gan dargedu tua 400 metr sgwâr o atgyweiriadau priffyrdd ym mhob ward yn cynnwys ffyrdd preswyl ym mhob un o’r 16 ward (Opsiwn 2).
|
|
Canolfan Gweithrediadau - Diweddariad Prosiect ac Achos Busnes Amlinellol Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r eitem gael ei heithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra trafodir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol/Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar ddatblygu canolfan gweithrediadau newydd, a chyflwynodd yr achos busnes amlinellol ar gyfer y cyfleusterau newydd.
Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a bod Aelodau yn: · Cydnabod y cynnydd ar y prosiect strategol allweddol hwn hyd yma; · Cefnogi’r achos busnes amlinellol sydd ynghlwm yn atodiad 1, yn amodol ar ddynodi adnoddau cyfalaf a chyflwyno ceisiadau am gyllid i gyrff cyllido allanol, tebyg i Lywodraeth Cymru, i sicrhau’r cyllid ar gyfer y prosiect; a · Symud ymlaen i’r cam achos busnes terfynol ar gyfer ystyriaeth.
|