Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 7fed Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar hyn o bryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd T. Sharrem.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNWYD y byddai cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol yn parhau i gael eu cynnal am 10.00 a.m.

 

5.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 229 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Nid oes unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2021

 

7.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 386 KB

Cytuno ar adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Flaenraglen Gwaith arfaethedig y Pwyllgor Craffu ar gyfer 2021-22.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cynnydd yn y targedau ailgylchu a mynegodd gonsyrn am yr effaith ar gapasiti o fewn y gwasanaeth. Awgrymodd y dylid adolygu’r cynlluniau wrth gefn mewn rhai rhannau o’r system a hefyd adolygiad o  waith trwsio tyllau ym mhriffyrdd y Fwrdeistref.

 

Gofynnodd Aelod arall am ddiweddariad ar bori anghyfreithlon a dod â’r diweddariad ar orfodaeth parcio sifil ymlaen o fis Tachwedd.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y rhoddir diweddariad ar strategaeth ailgylchu y Cyngor i’r Pwyllgor Craffu maes o law ac y gallai hyn o bosibl gynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer y gwasanaeth.

 

Soniodd Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth hefyd y caiff darn o waith ei wneud gyda WRAP a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn edrych ar gynnydd y Strategaeth ac oes angen unrhyw addasiadau. Yn nhermau capasiti o fewn y gwasanaeth, dywedodd y bu cynnydd sylweddol wrth gasglu gwastraff gwyrdd oherwydd tywydd gwael diweddar a chadarnhaodd y defnyddiwyd criwiau ychwanegol i ateb y galw hwnnw.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar risg rheoli llifogydd yng ngoleuni’r llifogydd a gafwyd yn Llanhiledd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod arall am  adeiladu’r Depot Canolog newydd, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Strydlun y cyflwynir adroddiad llawn ar yr achos busnes amlinellol i’r Pwyllgor Craffu ar 19 Gorffennaf 2021.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn siomedig gyda’r Flaenraglen Gwaith. Cyfeiriodd at gais Aelod am ddiweddariad ar risg rheoli risg a dywedodd fod angen adroddiad mwy manwl ar gyflwr cwlfertau a draeniau yn y Fwrdeistref. Cyfeiriodd hefyd at gau’r Ganolfan Ddinesig a theimlai y dylai’r Pwyllgor Craffu ystyried adleoliad yr Adran Gwasanaethau Technegol a chynlluniau a chofnodion cysylltiedig. Cytunodd hefyd fod angen adroddiad ar waith ar dyllau yn y ffyrdd a hefyd adroddiad ar dipio’n anghyfreithlon.

 

Daeth i ben drwy ddweud fod angen brys am adolygiad o bolisi’r Cyngor yng nghyswllt tai aml-feddiannaeth.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd Aelod fod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau ynghylch canllawiau ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer tai amlfeddiannaeth. Gofynnodd Aelod am eglurhad ar gontract rheoli pla y Cyngor a chadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Diogelu’r Amgylchedd y byddai’r contract presennol yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2022.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y caiff yr holl faterion a godwyd gan Aelodau eu trafod gyda Swyddogion.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gytuno ar Flaenraglen Gwaith 2021/22.

 

8.

Rhaglen Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2021 – 2022 pdf icon PDF 546 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd y rhaglen gwaith cyfalaf priffyrdd 2017/2021 a chyflwynodd opsiynau o amgylch rhaglen gwaith y dyfodol 2021/22.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau allweddol ynddo.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad am y ffigur o £405k ar gyfer seilwaith bysus a amlygir yn adroddiad 2.12 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Peirianneg y defnyddid tua £250k o’r arian mewn ymateb i raglen Trafnidiaeth Ymatebol Integredig Llywodraeth Cymru, a defnyddir tua £150k i uwchraddio’r seilwaith safleoedd bws presennol, sy’n barhad o raglen eleni. Anogodd Aelodau i gysylltu â Swyddogion gydag unrhyw broblemau yn gysylltiedig â safleoedd bws o fewn eu wardiau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod am y Gronfa Trafnidiaeth Lleol, dywedodd y Swyddog fod y grantiau a restrir yn adran 2.12 yr adroddiad yn grantiau Llywodraeth Cymru gyda meini prawf penodol ar gyfer cyllid. Esboniodd fod y Grant Teithio Llesol yn gynllun cyllido gwahanol i annog pobl i gerdded/seiclo i’r ysgol neu waith ac yn y blaen.

 

Gofynnodd Aelod os oes unrhyw arian yn ddyledus gan yr Adran Addysg fel canlyniad i’r gwaith priffyrdd a wnaed fel rhan o ddatblygu’r ysgol newydd yn Six Bells.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Technegol y cafodd yr arian ei ad-dalu’n llawn a’i roi yn y gyllideb cyfalaf wrth gefn. Cadarnhaodd hefyd y cafodd y Cyngor ei ad-dalu’n llawn am y gwaith yn gysylltiedig gyda’r difrod storm.

 

Cyfeiriodd Aelod at y rhestr o ffyrdd preswyl blaenoriaeth yn adran 3.1 (opsiwn 1) a dywedodd y credai fod ffyrdd yn ei ward mewn cyflwr gwaeth.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Technegol fod y matrics yn galluogi adolygiad annibynnol a gwrthrychol o ffyrdd yn defnyddio tystiolaeth a data, yn hytrach na barn bersonol. Fodd bynnag, byddai’n hapus i gael trafodaeth bellach gydag Aelodau os teimlent fod ffyrdd oedd yn haeddu eu hystyried ymhellach, cyhyd â bod y ffyrdd hynny o werth tebyg ac yn gyson gyda’r ethos o sgorio matrics.

 

Holodd Aelod arall am ddosbarthiad rhai ffyrdd a dywedodd, er ei fod yn derbyn y matrics, y teimlai ei fod ychydig yn wallus ac y dylid ei adolygu wrth symud ymlaen yn nhermau dirprwyo pwyntiau ar wahanol ffyrdd o fewn y Fwrdeistref.

 

Cytunodd Aelod gyda sylwadau’r Aelod am ddosbarthiad ffyrdd a dywedodd y byddai esboniad o’r dull yn fanteisiol. Dywedodd hefyd y cafodd nifer o ffyrdd o fewn y Fwrdeistref wyneb newydd nifer fawr o weithiau dros y blynyddoedd a mynegodd gonsyrn am ‘grynhoi’. Cyfeiriodd yr Aelod wedyn at ddiogelwch priffyrdd ac awgrymodd y dylid ymchwilio cyllid posibl o Llwybrau Diogel i’r Ysgol, ac y dylid cynnwys hyn yn y Flaenraglen Gwaith. Fodd bynnag, teimlai’r Aelod fod y gwaith a gynigir yn yr adroddiad yn rhoi gwerth am arian.

 

Gofynnodd Aelod arall os y byddai’n fwy effeithlon o ran cost rhoi troshaen wyneb ar rai ffyrdd yn hytrach na rhoi wyneb newydd llawn.

 

Mewn ymateb esboniodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd, er fod troshaen wyneb yn gorchuddio  ...  view the full Cofnodion text for item 8.