Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cydymdeimlad – EUB Y Tywysog Philip, Dug Caeredin Cofnodion: Soniodd y Cadeirydd am y newyddion trist am farwolaeth EUB Y Tywysog Philip, Dug Caeredin a cynhaliodd y Pwyllgor funud o dawelwch fel arwydd o barch.
|
|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 317 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 1 Mawrth 2021 PDF 105 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.
Cyfeiriodd Aelod at drafodaethau yn y rhag-gyfarfod a gofynnodd am nodi ei anghytundeb yng nghyswllt dyfarniad y Cadeirydd am nifer y cwestiynau a ganiateir i Aelodau ar unrhyw un amser.
Diweddariad Cynnydd ar Silent Valley
Cafwyd trafodaeth fer pan ddywedodd y Swyddog Craffu a Democrataidd fod blaenraglen gwaith yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac y bwriadwyd cyflwyno Adroddiad Cynnydd Silent Valley i gyfarfod cyntaf y cylch newydd ym mis Mehefin.
Adolygu Trefniadau gyda Chyngor Sir Powys
Yn dilyn cwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Diogelu’r Amgylchedd fod Aelod wedi gofyn am adolygiad o drefniadau’r Cyngor gyda Chyngor Sir Powys yng nghyswllt lles anifeiliaid.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon PDF 599 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Strydlun.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Neil Greenhalgh o Red & White Resource i’r cyfarfod.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Strydlun yr adroddiad sy’n ceisio cefnogaeth ar gyfer mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Tipio Anghyfreithlon newydd ar gyfer 2021-2026. Dywedodd mai dim ond un Awdurdod heblaw Blaenau Gwent sydd wedi llunio strategaeth o’r fath hyd yma.
Cadarnhaodd y gwnaed cais llwyddiannus i Caru Cymru am £30,000 flwyddyn dros gyfnod o dair blynedd yn dechrau yn 2019/20. Mae cynllun Caru Cymru yn cefnogi prosiectau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol o fewn ardaloedd preswyl drwy ddatblygu buddion i bobl, busnesau a’u cymunedau. Nod y prosiect yw gwella ansawdd yr amgylchedd gyda’r pwyslais ar newid ymddygiad hirdymor yn hytrach na pharhau i ddibynnu ar lanhau yn unig. Mae’r cais am gyllid yn cynnwys penodi Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) a grwpiau, a hefyd gysylltu gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth, addysgu a hyrwyddo materion ansawdd yr amgylchedd lleol o fewn y fwrdeistref. Yn anffodus cafodd y gwaith hwn ei ohirio oherwydd pandemig Covid.
Dywedodd y Swyddog y dynodwyd er mwyn i’r Cyngor gael effaith mwy effeithlon a chadarnhaol ar y cynllun y byddai angen strategaeth a pholisïau cefnogi perthnasol i gefnogi rheolaeth y prosiect. Fel canlyniad, mae’r cais am gyllid yn cynnwys penodi Ymgynghorydd LEQ arbenigol i gynnal adolygiad o’r gwasanaeth glanhau strydoedd a llunio Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Blaenau Gwent. Dechreuwyd ar broses dendro ym mis Tachwedd 2019 a dyfarnwyd y contract i Red & White Resource Ltd.
Cadarnhaodd y Swyddog y cynhaliwyd adolygiad a dadansoddiad trwyadl o’r gwasanaeth glanhau a bod yr adborth o gyfarfodydd rhanddeiliaid a chyfarfodydd wedi galluogi’r ymgynghorydd i ddrafftio Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon annibynnol a gwrthrychol ar gyfer y Cyngor. Fodd bynnag, oherwydd pandemig Covid, ni fedrodd ymweliadau safle ychwanegol a gweithdai dilynol gyda rhanddeiliaid fynd yn eu blaen, ond teimlwyd fod yr wybodaeth a’r data a gafwyd hyd at 20 Mawrth 2021 yn ddigon i gwblhau drafft strategaeth i gael ei mabwysiadu gan y Cyngor.
Yn nhermau’r Strategaeth, a roddir yn Atodiad 1, sefydlwyd nifer o amcanion allweddol a fyddai’n cyflawni’r gwelliannau amgylcheddol cydnabyddedig a chaiff y rhain eu hamlygu yn adran 2.3.3 yr adroddiad. Mae’r Strategaeth hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu (Atodiad 2) gyda chamau gweithredu allweddol i’w cynnal yn ystod cyfnod oes 5 mlynedd y Strategaeth ac amserlenni cysylltiedig.
Cyfeiriodd Aelod at waith ardderchog Hyrwyddwyr Sbwriel, ond dywedodd y dylai gwneud y proses a weithredir i gofrestru fel hyrwyddwr sbwriel yn haws.
Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Tîm Strydlun fod ymhell dros 200 o Hyrwyddwyr Sbwriel wedi cofrestru yn y Fwrdeistref yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor. Ar ôl iddynt gofrestru, gallant roi adroddiad ar eu casgliadau sbwriel drwy’r system ac mae ganddynt hefyd fynediad uniongyrchol i Swyddogion. Fodd bynnag, cytunodd y gellid symleiddio a chydlynu’r broses yn well, ac y byddai hyn yn ffurfio rhan o waith y Swyddog LEQ pan y’i penodir.
Cyfeiriodd Aelod arall at yr amcanion allweddol a fanylir yn adran 2.3.3 yr adroddiad a gofynnodd ... view the full Cofnodion text for item 7. |