Agenda and minutes

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Mercher, 28ain Gorffennaf, 2021 2.30 pm

Lleoliad: Virtually Via Microsoft Teams (if you would like to attend this meeting live via Microsoft Teams please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk)

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Deddf Trwyddedu 2003 – Trwydded Safle Newydd – 58 Glyn Terrace, Tredegar, Gwent. pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Ymgeisydd a Chyfreithiwr yr Ymgeisydd ynghyd â mynychwyr eraill i Swyddogion ac Aelodau’r Is-bwyllgor.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y galwyd y cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol i ystyried cais am drwydded safle newydd yn unol â Deddf Trwyddedu 2003. Cyflwynwyd y cais gan Mr. Jegathees Thevarasa yng nghyswllt 58 Glyn Terrace, Tredegar, Gwent, yn unol â Deddf Trwyddedu 2003. Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu nad oes unrhyw drwydded mewn grym ar hyn o bryd yng nghyswllt y safle a bod yr Ymgeisydd wedi gwneud cais am y gweithgareddau ac amserau dilynol:-

·         Cyflenwi alcohol – dydd Llun i ddydd Sadwrn -
7.00 am i 11.00 pm

·         Oriau agor - 6.00 am i 11.00 pm

 

Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, mae’r Ymgeisydd wedi rhoi copïau o’r cais i’r awdurdodau cyfrifol a dangoswyd hysbysiad yn y safle am 28 diwrnod i alluogi pobl eraill i wneud sylwadau. Cafodd hysbysiad o’r cais hefyd ei roi yn y Gwent Gazette a’i hysbysebu ar wefan Cyngor Blaenau Gwent am gyfnod o 28 diwrnod.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu mai’r unig sylwadau a gafwyd oedd rhai gan Heddlu Gwent, a bod yr ymgeisydd wedi cytuno i ddiwygio’r cais i gynnwys yr amodau dilynol a gyflwynwyd gan Heddlu Gwent:-

 

·         Caiff CCTV ei osod a bydd yn gweithio gan fodloni’r Heddlu a’r Awdurdod Trwyddedu. Byddid yn cadw recordiadau am o leiaf 28 diwrnod. Rhaid i’r recordiadau fod ar gael ar unwaith ar gais unrhyw swyddog gydag awdurdod a enwyd dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Os yw’r offer CCTV yn methu, hysbysir yr Heddlu a’r Swyddog Trwyddedu cyn gynted ag sydd modd a chymerir camau ar unwaith i atgyweirio’r offer. Bydd y DPS yn hyfforddi nifer o staff priodol i ddefnyddio’r system CCTV i hwyluso gweithrediad effeithiol gyda golwg ar ddarparu tystiolaeth ar gais swyddog gydag awdurdod a enwyd dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Caiff yr amser a’r dyddiad cywir ei roi ar y recordiad a’r sgrin delwedd amser real.

 

·         CCTV i fod yn weithredol yn yr holl ardal drwyddedig o’r safle, ac i fod o ansawdd y gellid ei ddefnyddio fel tystiolaeth. Bydd arwyddion clir yn dweud fod offer CCTV yn cael ei ddefnyddio a’i recordio yn y safle.

 

·         Mabwysiadu, gweithredu a hysbysebu cynllun a gymeradwywyd ar gyfer tystiolaeth o oedran o fewn y safle tebyg i ‘Her 25’, lle byddir yn gofyn am ffurf gydnabyddedig o adnabyddiaeth ffotograffig cyn gwerthu alcohol i unrhyw berson sy’n ymddangos i fod dan 25 oed. Bydd tystiolaeth dderbyniol o oedran yn cynnwys adnabyddiaeth gyda ffotograff y cwsmer, dyddiad geni a marc holograffig cyfannol neu fesur diogelwch.

 

Byddai dulliau addas o adnabod yn cynnwys cerdyn tystiolaeth oedran a gymeradwywyd gan PASS, trwydded yrru gyda cherdyn llun a phasbort.

 

·         Caiff pob gwrthodiad ei gadw mewn llyfr gwrthodiad yn rhoi manylion yr amser, y dyddiad, y nwyddau, yr aelod o staff ac enw’r person a geisiodd brynu. Os na roddir enw, yna mae’n rhaid rhoi disgrifiad da. Dylai’r ddogfen fod ar gael i swyddog gydag awdurdod o’r Awdurdod Trwyddedu  ...  view the full Cofnodion text for item 4.