Agenda and minutes

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Mawrth, 25ain Mai, 2021 11.00 am

Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Deddf Troseddu 2003 – Trosglwyddo Trwydded Safle ac Amrywio Goruchwyliwr Safleoedd Dynodedig (DPS) – Scarretts, 23 Greenfield Crescent, Beaufort, Glynebwy

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu sy’n amlinellu cais a dderbyniwyd yng nghyswllt cais i drosglwyddo trwydded safle ac amrywio’r DPS yn Scarretts, 23 Greenfield Crescent, Beaufort, Glynebwy yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

Amlinellodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr adroddiad a chadarnhaodd, yn unol â’r broses ymgynghori a nodir yn Neddf Trwyddedu 2003, y cafodd copi o’r ceisiadau eu rhoi i Heddlu Gwent a gafodd 14 diwrnod i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Nodwyd y derbyniwyd sylwadau gan Heddlu Gwent a atodir i’r adroddiad yn Atodiad 1.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig ar gyfer y ceisiadau hyn ar gyfer Trosglwyddo Trwydded Safle ac amrywio DPS yn Scarretts, 23 Greenfield Crescent, Glynebwy fel y’u cyflwynir yn adroddiad y Swyddog, ynghyd â sylwadau llafar i’w derbyn ar ran yr Ymgeisydd a Heddlu Gwent.

 

Hysbyswyd yr Is-bwyllgor am y gwrthwynebiad a gafwyd gan Heddlu Gwent a gynhwysir yn Atodiad 1 adroddiad y Swyddog a hysbyswyd Aelodau am y problemau difrifol yn yr ardal yn ymwneud â phersonau yn defnyddio’r safle trwyddedig yn y gorffennol.

 

Ar y pwynt hwn, dymunai Cyfreithiwr yr Ymgeisydd nodi mai dim ond yng nghyswllt trosglwyddo trwydded yr oedd y cais i gael ei ystyried gan yr Is-bwyllgor gan na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan Heddlu Gwent yng nghyswllt amrywio’r DPS i’r Ymgeisydd.

 

Dilynodd trafodaeth gyfreithiol fanwl ar y mater hwn gan ganolbwyntio ar wahaniaeth barn gyfreithiol rhwng Cyfreithiwr yr Awdurdod a Chyfreithiwr yr Ymgeisydd. Hysbyswyd y Pwyllgor y bu’r mater hwn yn destun gohebiaeth rhwng y Tîm Trwyddedu, Heddlu Gwent a Chyfreithiwr yr Awdurdod ac roedd Cyfreithiwr yr Awdurdod yn fodlon y gellid ystyried y sylwadau a gafwyd gan Heddlu Gwent yng nghyswllt y ddau gais.

 

Gofynnodd Cyfreithiwr yr Ymgeisydd am gael gweld y negeseuon e-bost yn cadarnhau’r manylion hyn. Caniatawyd hyn a chafodd Cyfreithiwr yr Ymgeisydd gopïau o’r negeseuon e-bost rhwng yr Awdurdod Lleol a Heddlu Gwent. Cytunodd y Cadeirydd y gallai Cyfreithiwr yr Ymgeisydd ddarllen y negeseuon e-bost yma i’r Is-bwyllgor.

 

Cadarnhaodd Cyfreithiwr yr Awdurdod bod ei chyngor yn parhau heb newid ac yn ei barn hi fod y sylwadau yn ymwneud â’r ddau gais ac mai yn y pen draw fod hwn yn fater i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Felly, dywedodd y Cadeirydd y dylai’r mater barhau a gwahoddodd yr Ymgeisydd i annerch yr Is-bwyllgor.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd na fyddai gan staff blaenorol unrhyw ymwneud â rhedeg y dafarn o ddydd i ddydd. Byddai’r aelodau staff newydd yn cael eu cyfarwyddo gan yr Ymgeisydd. Ychwanegodd Cyfreithiwr yr Ymgeisydd fod y dafarn yn ganolbwynt cymunedol ac yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.