Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Iau, 28ain Hydref, 2021 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd M. Day.

Cynghorydd T. Smith

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Deddf Gamblo 2005 – Adolygu Datganiad Polisi Gamblo pdf icon PDF 505 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor Trwyddedu Statudol i Ddeddf Gamblo 2005 - Datganiad Polisi Trwyddedu. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trwyddedu Statudol i’w ystyried cyn cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cyngor llawn a’i hysbysebu mewn papur newydd lleol cyn dod i rym ar 31 Ionawr 2022.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y cynhaliwyd yr ymgynghoriad statudol ar y drafft bolisi rhwng 3 Medi a 1 Hydref 2021 gyda chwech deiliad trwydded perthnasol dan y Ddeddf sy’n cynnwys 12 safle gamblo trwyddedig yn cynnwys tair canolfan hapchwarae i oedolion ac wyth safle betio. Nodwyd fod gan rhai trwyddedigion fwy nag un trwydded. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng Awdurdodau Cyfrifol, Aelodau a grwpiau a sefydliadau eraill perthnasol sy’n cynnwys y Comisiwn Gamblo, HMRC, Gamcare. Dywedodd y Rheolwr Tîm mai dim ond un ymateb a gafwyd ac roedd hyn yn hollol weinyddol er mwyn diwygio cyfeiriad sefydliad.

 

Nododd y Rheolwr Tîm yr opsiwn a ffafrir a chyfeiriodd Aelodau at y polisi terfynol a fanylir yn Atodiad 1.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd Aelod os oes terfyn ar nifer y safleoedd gamblo a dywedodd nad oes unrhyw bolisi yn ei le i gyfyngu nifer y safleoedd gamblo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ddiwygiadau i’r polisi, cadarnhaodd y Rheolwr Tîm na fu unrhyw sylwadau, felly mae’r polisi yn parhau heb ei newid.

 

Gofynnodd Aelod pryd y cynhelid yr adolygiad nesaf ac atebwyd y byddai hynny mewn 3 blynedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogodd y Pwyllgor Trwyddedu Statudol y polisi a adolygwyd sydd yn Atodiad 1 ac yn argymell ei gymeradwyo gan y Cyngor (opsiwn 1).