Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cynghorydd D. Bevan Cynghorydd C. Meredith Cynghorydd D. Wilkshire
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 218 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion yr is-bwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Deddf Trwyddedu 2003 – Datganiad Polisi Trwyddedu PDF 414 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwqch Swyddog Trwyddedu.
Dywedodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedu y cyflwynwyd yr adroddiad i gael cefnogaeth y Pwyllgor Trwyddedu Statudol ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003 – Datganiad Polisi Trwyddedu diwygiedig. Ychwanegwyd fod yn rhaid i’r Polisi Datganiad Trwyddedu gael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cyngor llawn ar ôl ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu Statudol. Caiff felly ei hysbysebu mewn papur newydd lleol cyn dod i rym ar 1 Hydref 2021. Dywedodd y Rheolwr Tîm y caiff y Polisi ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf os caiff yr opsiwn a ffafrir ei gymeradwyo.
Hysbysodd y Rheolwr Tîm fod Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu bob pum mlynedd sy’n rhoi manylion sut y byddai’n gweinyddu a gweithredu’r Ddeddf.
Nododd y Rheolwr Tîm ymhellach y newidiadau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad ac y cafodd y Polisi Datganiad Trwyddedu ei lunio gyda phartneriaid yr Awdurdod mewn 4 awdurdod arall yng Ngwent, felly mae ganddynt i gyd Bolisi Datganiad Trwyddedu bras debyg. Er fod gwahaniaethau lleol yn seiliedig ar yr ardaloedd dan sylw, nodwyd fod y newidiadau a ddynodwyd yn bennaf yn ymwneud â deddfwriaeth a newidiadau mewn canllawiau llywodraeth leol.
Siaradodd y Rheolwr Tîm am yr adroddiad ymhellach ac amlinellodd y pwyntiau allweddol yng nghyswllt trwyddedau presennol a’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd rhwng 23 Mawrth 2021 a 21 Mai 2021.
Ar y pwynt hwn, gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.
Nododd yr Is-gadeirydd fod y Polisi Datganiad Trwyddedu yn gadarn ac y gobeithiai y byddai’r newidiadau yn gwneud i landlordiaid sylweddoli fod ganddynt oblygiadau tu allan i baramedrau eu safleoedd o fewn y cymunedau.
Roedd yr Is-gadeirydd yn siomedig na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Heddlu Gwent, fodd bynnag roedd yn hyderus y byddid, mewn partneriaeth gyda phartneriaid y Cyngor, yn cydymffurfio â’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Trwyddedu Statudol yn cefnogi’r polisi diwygiedig fel y’i manylir yn Atodiad 1, ac argymhellodd ei fod yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn (Opsiwn 1).
|