Agenda and minutes

Pwyllgor Moeseg a Safonau - Dydd Gwener, 28ain Ionawr, 2022 1.00 pm

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

You are welcome to use Welsh at the meeting, a minimum notice period of 3 working days is required should you wish to do so. A simultaneous translation will be provided if requested.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Croeso ac Ymddiheuriadau

To receive any apologies for absence.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro bawb i’r cyfarfod ac adroddwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:

 

Mr. R. Alexander, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau

Miss H. Roberts, Is-gadeirydd

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

To receive.

Cofnodion:

Ni adroddwyd datganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

To receive minutes of the Standards Committee held on 14th July, 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2020.

 

            Materion yn Codi

 

            Codi ymwybyddiaeth am oddefebau

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol at drafodaethau blaenorol a phryderon a nodwyd gan y Cadeirydd nad yw’r Cyngor yn gwneud cymaint o ddefnydd o’r cynllun goddefebau ag awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Swyddog fod hyn oherwydd amgylchiadau gwleidyddol y Cyngor a’r ffaith fod gr?p mwyafrif clir. Fodd bynnag, yn nhermau codi ymwybyddiaeth am oddefebau, dywedodd y Swyddog y gellid cynnwys hyn fel rhan o’r hyfforddiant ar gyfer yr Aelodau etholedig yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai. Cynhelir y sesiwn hyfforddiant gan ddarparydd annibynnol ar 11 Mai 2022 a dywedodd y Swyddog y byddai’n sicrhau y caiff y gwahoddiad hwnnw ei ymestyn i Aelodau’r Pwyllgor Safonau.

 

Gweddarlledu cyfarfodydd

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod gweddarlledu cyfarfodydd yn cael ei ystyried cyn pandemig Covid. Fodd bynnag, mewn ymateb i’r pandemig roedd y Cyngor wedi rhoi system weithredu newydd ar waith i gynnal cyfarfodydd oedd yn cynnwys cyfleuster i recordio cyfarfodydd a gaiff wedyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor i’r cyhoedd ei weld.

 

Dywedodd y Swyddog y penodwyd Pennaeth newydd ar Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddar ac y byddai’n gweithio ar opsiynau ar gyfer darlledu cyfarfodydd y Cyngor yn fyw.

 

Yn amodol ar yr uchod, cytunodd y Pwyllgor Safonau i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Elfen Ymddygiad)

To consider the Annual Report of the Public Services Ombudsman (Conduct Element) link

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus er gwybodaeth. Nid yw’r adroddiad yn codi unrhyw faterion ymddygiad ar gyfer Blaenau Gwent, fodd bynnag cadarnhaodd y Swyddog y cyflwynir adroddiad yn flynyddol i’r Cyngor ar berfformiad y Cyngor yng nghyswllt materion ymddygiad.

 

Mae rhan fach o’r adroddiad yn sôn am berfformiad pob awdurdod lleol ar faterion cod ymddygiad a dywedodd y Swyddog ei bod yn falch i ddweud fod gan Flaenau Gwent record ragorol gyda nifer isel iawn o gwynion yn cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon. Dywedodd y gwyddai aelodau fod y Cyngor yn gweithredu polisi datrysiad lleol a fu’n llwyddiannus mewn datrysiad cynnar ac atal materion rhag cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

Dywedodd y Swyddog hefyd y byddai Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor yn gadael y Cyngor yn y dyfodol agos i fynd i’w swydd newydd fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Daeth y Swyddog i ben drwy ddweud fod Adroddiad yr Ombwdsmon ar yr elfen ymddygiad yn adlewyrchu’r nifer isel iawn o gwynion a gyfeiriwyd at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mlaenau Gwent. Dim ond 1 g?yn yr aed â hi ymlaen a’i hymchwilio ers mis Gorffennaf 2021 ac roedd hynny’n ymwneud â mater Cyngor Tref a Chymuned. Disgwylir canlyniad y g?yn.

 

6.

Adroddiad Penn pdf icon PDF 540 KB

To consider.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol yr adroddiad ar yr adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Fframwaith Safonau Moesegol Cymru. Cafodd yr adroddiad ei ystyried a chaiff ei gefnogi gan Gr?p y Swyddogion Monitro.

 

Aeth y Swyddog wedym drwy’r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Gadawodd y Cynghorydd M. Moore y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

7.

Blaengynllun Gwaith – Trefniadau Hyfforddiant

To consider.

Cofnodion:

Gofynnodd Aelod os y gallai adolygiad o Bolisi Chwythu Chwiban y Cyngor ffurfio rhan o gynllun gwaith y dyfodol a hefyd os y gellid hefyd ystyried yr achos diweddar gerbron y Panel Dyfarnu.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod y polisi Chwythu’r Chwiban yn ymwneud â staff yn hytrach nag Aelodau etholedig a bod y Cyngor wedi ystyried y polisi.

 

Yng nghyswllt yr achos gerbron y Panel Dyfarnu, cadarnhaodd y Swyddog y cysylltwyd â chlercod y Cynghorau Tref a Chymuned ac y rhoddir diweddariad rheolaidd a bod Un Llais Cymru yn darparu cymorth cyfreithiol. Dywedodd nad yw’r Cyngor yn cynnig y polisi datrysiad lleol i gynghorau Tref a Chymuned gan fod ganddynt eu prosesau eu hunain ar waith drwy Un Llais Cymru. Fodd bynnag, cânt eu gwahodd i sesiynau hyfforddiant Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Holodd yr Aelod hefyd os y gellid dod â throsolwg o ddatganiadau buddiant Aelodau i’r Pwyllgor.

 

Ni wnaeth y Swyddog unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan fod datganiadau buddiant Aelodau yn y parth cyhoeddus. Fodd bynnag esboniodd y Swyddog fod dwy elfen, sef datganiad buddiant pan mae Aelod etholedig yn cymryd y swydd a datganiadau buddiant a adroddir mewn cyfarfodydd pan y gall Aelod fod â buddiant neilltuol yn y mater sy’n cael ei ystyried. Caiff hyn ei nodi yn y cofnodion ac mae Gwasanaethau Democrataidd yn cadw cofnod o’r datganiadau buddiant.

 

Gofynnodd yr Aelod os oes fersiwn electronig ar gael a chadarnhaodd y Swyddog fod hyn dan ystyriaeth.

 

8.

Unrhyw Fater Arall a Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

To consider.

Cofnodion:

Mewn ymateb i sylwadau gan Aelod am amlder cyfarfodydd ac yn y blaen, cadarnhaodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod pandemig Covid wedi effeithio ar hyn; fodd bynnag rhagwelir y caiff rhestr o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn ei ddatblygu yn dilyn Cyfarfod blynyddol y Cyngor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a dywedodd fod y cyfarfod wedi ei gau.