Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Dydd Llun, 13eg Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Adroddwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Cross.

 

CYDYMDEIMLAD

 

Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau am farwolaeth drist Helen Wilkshire, gwraig y Cynghorydd David Wilkshire a gofynnodd i’r Pwyllgor gynnal munud o dawelwch fel arwydd o barch.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau buddiant dilynol:-

 

Eitem Rhif 7 – Rhaglen Cyllideb Gyfranogol Blaenau Gwent: “Llais y Gymuned, Dewis y Gymuned”.

Cynghorydd P. Baldwin

Cynghorydd J. Holt

Cynghorydd G. Davies

Cynghorydd J.P. Morgan

 

Dymunai’r Cynghorydd M. Moore nodi ei bod yn cael ei chyflogi gan GAVO y mae sôn amdano mewn nifer o’r adroddiadau a gaiff eu hystyried.

 

4.

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 212 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2020/21 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent pdf icon PDF 423 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau y trydydd adroddiad cynnydd blynyddol ar Gynllun Llesiant ‘Y Blaenau Gwent a Garem’. Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodau at yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol sy’n rhoi manylion y cynnydd a wnaed yn ail flwyddyn Rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am gyflawni ar y Cynllun Llesiant dan y pump adran allweddol. Wedyn rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth drosolwg o’r pum adran allweddol a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn, gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth gwestiynau gan Aelodau a nododd y caiff cwestiynau eu trosglwyddo i’r bwrdd lleol neu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol os yw Aelodau’n gofyn am hynny.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad ynghyd â’r gwaith a gyflawnwyd a chynigiodd y dylid cytuno Opsiwn 1. Eiliwyd y cynnig.

 

CYTUNODD y Pwyllgor bod Pwyllgor Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi’r cynnydd a wnaed yn y drydedd flwyddyn o ddarpariaeth ar Gynllun Llesiant Blaenau Gwent a rhoddodd sylwadau (Opsiwn 1).

 

6.

Cynnig Gofal Plant Cynllun Peilot Rhaglen Trawsnewid Integreiddio Llywodraeth Cymru – Cynllun Peilot Cydweithio – Braenaru Blaenau Gwent pdf icon PDF 407 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Interim Cyllid a Chaffael (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) a Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaet

thau Plant (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Interim Cyllid a Chaffael (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) a Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant Blaenau Gwent.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad i Bwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar gynllun peilot Trawsnewid Integreiddio Blynyddoedd Cynnar yn ardal Braenaru Blaenau Gwent. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth am ymestyn ymhellach i Ward Blaenau o fis Ionawr 2022.

 

Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodau ymhellach am y gwaith a wneir fel rhan o gynllun peilot Trawsnewid Integreiddio Blynyddoedd Cynnar. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth fod cynlluniau yn mynd rhagddynt i symud i Frynmawr ac yna Nantyglo erbyn Ionawr 2022 fel y cymeradwywyd eisoes gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, oherwydd i Adran Ymwelwyr Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Blaenau Gwent gael ei ailstrwythuro’n ddiweddar a bod ymwelwyr iechyd wedi cael llwythi achos newydd, bod wardiau Brynmawr, Nantyglo a Blaenau yn cael eu rhedeg fel tîm ac felly gofynnwyd am gymeradwyaeth gan Bartneriaeth Llesiant Lleol Blaenau Gwent i ymestyn i Blaenau ar yr un pryd â Nantyglo ym mis Ionawr 2022.

 

Ychwanegwyd y cafodd gwaith hefyd ei wneud am ddatblygu’r cynllun peilot am 5 mlynedd arall ac mae’r Rheolwr Gwasanaeth yn hyderus, os oes cyllid ar gael, y gellid ymestyn y cynllun peilot ar draws Blaenau Gwent o fewn 2½ mlynedd, er y dywedodd y byddai pa mor gyflym y byddai’n cael ei ymestyn yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.

 

Croesawodd Aelod ymestyn y cyllid a gobeithiai y byddai Blaenau Gwent i gyd yn manteisio o’r prosiect rhagorol hwn.

 

Codwyd pryderon yng nghyswllt diffyg tystiolaeth gefnogi o’r gwaith a wnaed yn Ward Cwm. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant na chafodd gwerthusiad llawn o Ward Cwm ei gwblhau adeg ysgrifennu’r adroddiad, fodd bynnag gobeithid y byddai dadansoddiad llawn yn cael ei gynnwys yn y cam nesaf yn dilyn ymestyn pellach ym Mrynmawr, Nantyglo a Blaenau pan geisiwn gymeradwyaeth am ymestyn ar draws Blaenau Gwent.

 

Nododd Aelod arall y gwaith rhagorol a gyflawnodd y prosiect a chroesawodd yr ymestyn ar draws Blaenau Gwent gan y byddai’n cael ei groesawu’n fawr yn Ward Waundeg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cynllun yn helpu i wella ardal unwaith y mae’n bresennol mewn aelwyd fregus. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd yn falch y byddai Ward Waundeg yn un o’r ardaloedd a gynhwysir yn y cynllun ymestyn a gobeithid y gallwn dargedu’r ardal fregus iawn hon y flwyddyn nesaf.

 

Ategodd yr Aelod ei ddiolch i’r Rheolwr Gwasanaeth a’i Thîm ar eu gwaith rhagorol.

 

Cododd Aelod arall bryderon na chynhaliwyd astudiaeth o gynnydd plant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wrth iddynt symud ymlaen drwy eu bywyd ysgol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr agwedd hon ar hyn o bryd a nododd y dangosyddion perfformiad a gaiff wedyn eu mesur mewn system coch, oren a gwyrdd yn nhermau’r camau i’w cymryd. Caiff y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Cyllideb Gyfranogol Blaenau Gwent ‘Llais y Gymuned, Dewis y Gymuned’ pdf icon PDF 512 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Dywedodd y Swyddog Polisi (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad am ganlyniadau rhaglen Cyllideb Gyfranogol “Llais y Gymuned, Dewis y Gymuned”. Siaradodd y Swyddog Polisi yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau allweddol.

 

Cododd Aelod bryderon yng nghyswllt y problemau gyda’r broses ar gyfer y rhaglen a dywedodd fod llawer o bobl yn cael trafferth i ymuno mewn galwadau Zoom ac na fedrent bleidleisio felly. Gan nad oedd cyfnod clo gwirioneddol yn weithredol ar y pryd y gellid bod wedi cynnal y broses wyneb yn wyneb gan gadw’r pellter cymdeithasol angenrheidiol. Teimlodd yr Aelod nad oedd pawb â gallu digidol neu’n hyderus i gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithiol.

 

Nododd yr Aelod hefyd ei bryderon fod arian yn cael ei ddyfarnu i brosiectau tu allan i Flaenau Gwent.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau y pryderon a dweud, er nad oedd y sefyllfa yn ddelfrydol, fod angen i’r Cyngor gofio am y pandemig a symud â’r prosiect ymlaen o agwedd diogelwch cyhoeddus. Ychwanegwyd y caiff y broses ei chynnal yn y modd mwyaf diogel a’i bod yn dilyn prosesau Rhanbarth Gwent. Gwerthfawrogai’r Rheolwr Gwasanaeth y gellid cyfyngu’r llwyfan digidol yn amlwg gyda’r cyfyngiadau bod angen symud y broses ymlaen yn y ffordd fwyaf addas.

 

Yn nhermau dyfarnu arian tu allan i Flaenau Gwent, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y gall y sefydliadau fod wedi eu lleoli tu allan i’r Fwrdeistref ond eu bod yn gweithredu o fewn y Fwrdeistref gan fod y gwasanaethau ar gyfer pobl Blaenau Gwent.

 

Aeth y Rheolwr Gwasanaeth ymlaen drwy ddweud y cafodd yr arian bellach ei ddosbarthu gyda chontractau wedi eu llofnodi a bod prosiectau yn awr yn y cam cyflenwi. Cyflwynir deilliannau’r prosiectau y flwyddyn nesaf ac er y codwyd rhai pryderon teimlid y cafodd y digwyddiadau eu croesawu.

 

Ychwanegodd y Swyddog Polisi (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) mai’r Cyngor sy’n rheoli’r cyllid ac y caiff cynlluniau’r prosiect eu monitro o hyn ymlaen i sicrhau fod eu cynlluniau ar y trywydd i gyflawni’r prosiectau. Cyflwynir diweddariad ar brosiectau i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar yr adroddiad a derbyniodd yr adroddiad fel y’i darparwyd cyn ei gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Opsiwn 1).

 

Gadawodd y Cynghorydd M. Moore y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

8.

Diweddariad Cynnydd Rhaglen Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy pdf icon PDF 428 KB

Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cymunedau a Thai (Cartrefi Cymunedol Tai Calon).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cymunedau a thai, Cartrefi Cymunedol Tai Calon. Rhoddodd Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent, Tai Calon ddiweddariad cynhwysfawr ar y Rhaglen Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy.

 

Gofynnodd Aelod os yw banciau/grwpiau bwyd yn hyrwyddo bwyta’n iach ac a gafodd safleoedd bwyd cyflym eu herio i newid eu cynnig.

 

Dywedodd y Cydlynydd fod bwyta’n iach yn ‘bwnc poeth’ ar hyn o bryd a chyfeiriodd at y newidiadau a wnaed mewn diodydd llawn siwgr. Gobeithir y byddai’r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu yn y diwydiant bwyd. Mae’r drafodaeth ar fwyd ar yr agenda i’w ystyried gan Senedd Cymru a theimlai’r Cydlynydd y byddai’n ddiddorol gweld canlyniad y trafodaethau hyn.

 

Deallai’r Aelod fod mynd i’r afael â safleoedd bwyd cyflym yn newid mawr yn genedlaethol, fodd bynnag teimlai’r Aelod ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio trin y materion yn fwy lleol. Dywedwyd fod rhai grwpiau yn rhoi addysg am fwyta’n iach ac y gwneir llawer o waith  i gael mwy o ffrwythau a llysiau ffres mewn banciau bwyd. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig sicrhau fod gan unigolion fynediad i ffwrn ac y dysgir rysetiau iddynt i gynnwys ffrwythau a llysiau yn eu diet bob dydd. Mae’r rhain yn feysydd allweddol mewn newid ffyrdd o fyw a fyddai hefyd yn dibynnu ar incwm teulu, felly mae angen economïau lleol da.

 

Ychwanegodd y Cydlynydd fod ysgolion yn un o’r lleoedd addawol i drin y materion hyn a bod llawer o brosiectau cyffrous yn mynd rhagddynt mewn ysgolion, fodd bynnag dywedwyd na fedrem orfodi teuluoedd nac unigolion i fwyta’r bwydydd cywir.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nododd yr adroddiad a’r atodiadau fel y’u darparwyd (Opsiwn 1).