Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Dymunai’r Gr?p Llafur iddo gael ei gofnodi nad oedd unrhyw Aelodau o’r Gr?p Llafur yn bresennol gan y cafodd y cyfarfod ei symud i ddarparu ar gyfer newid munud olaf gan y Gr?p Mwyafrifol heb unrhyw ymgynghoriad gyda’r Gr?p Llafur, hyd yn oed ar ôl i Arweinydd y Gr?p Llafur ymateb i roi gwybod fod yr amser newydd yn cyd-daro gyda chyfarfod arferol y Gr?p Llafur cyn y Cyngor.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 252 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cdywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Symud tuag at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent PDF 931 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad i Aelodau ar ddatblygu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent a chylch nesaf yr Asesiad o Lesiant Lleol a Chynlluniau Llesiant Lleol. Dywedwyd y cyflwynir yr adroddiad i’r Cyngor ar 29 Gorffennaf 2021 i geisio cymeradwyaeth ar gyfer symud tuag at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent.
Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r broses i’w dilyn yng nghyswllt symud i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent. Nodwyd fod y Cynlluniau Llesiant (2018-2023) presennol yn ffurfio’r trefniadau cyflawni am y ddwy flynedd nesaf ac y byddai’r rhain yn parhau i gael eu cyflawni gan y partneriaethau lleol a gefnogir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol a chraffu gan Bwyllgorau Craffu partneriaeth ym mhob un o’r ardaloedd lleol.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at yr amserlenni ar gyfer y broses a dywedodd fod trefniadau ar gyfer Pwyllgorau Craffu Rhanbarthol yn cael eu trafod ymysg arweinwyr gwasanaethau democrataidd ac mai’r nod oedd cwblhau hyn i ateb gofynion cymeradwyaeth yr asesiad lleol o anghenion llesiant. Byddai’r craffu ar y cynlluniau llesiant presennol yn parhau drwy Bwyllgorau Craffu lleol tan 2023. Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai gwaith yn dal i fod ar gyfer Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent, fodd bynnag byddai’r gwaith hwn yn symud yn raddol i gael ei wneud yn rhanbarthol.
Yn nhermau cymeradwyo adroddiadau, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod Casnewydd a Thorfaen eisoes wedi cymeradwyo symud i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent gyda Blaenau Gwent, Caerffili a Sir Fynwy yn cael eu hystyried yr wythnos hon.
Croesawodd y Cadeirydd ac Aelodau yr adroddiad a theimlwyd y dylid annog gwaith partneriaeth a chydnabod manteision gweithio gydag awdurdodau lleol eraill a phartneriaid.
Gofynnodd Aelod os byddai unrhyw oblygiadau cost yn nhermau amser swyddogion oherwydd y newid i’r bartneriaeth ranbarthol. Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at yr adroddiad a dywedodd na fyddai unrhyw oblygiadau ariannol i’r Cyngor, fodd bynnag byddai gwaith ychwanegol ar gyfer staff yn y Tîm Polisi oedd yn cefnogi’r PSB. Byddai’r Tîm Polisi yn awr yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Gwent i roi’r gwaith rhanbarthol yn ei le. Roedd disgwyliad hefyd y byddai’r Tîm Polisi yn parhau i gefnogi’r bartneriaeth cyflawni lleol.
Yn nhermau adnoddau, byddai cadeiryddiaeth a gweinyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol newydd yn newid mewn cylch rhwng partneriaid statudol. Byddai’r cyfarfod cyntaf yn yr hydref yn cytuno ar y Cylch Gorchwyl ac yn penodi Cadeirydd. Caniateid i sefydliad y Cadeirydd a enwebwyd ymgymryd â gweinyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol am gyfnod penodol o 2 flynedd, ac wedyn penodid cadeirydd arall ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd. Teimlwyd fod hon yn ffordd deg i symud ymlaen a gweinyddu ar sail ranbarthol.
Gofynnodd yr Aelod hefyd os y caniateir symud i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac os oedd Llywodraeth Cymru yn annog y newid hwn.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y caiff y newid ei ganiatáu o fewn y Ddeddf a nododd yr ... view the full Cofnodion text for item 5. |