Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Paulsen, T. Sharrem a D. Wilkshire.
Aelod Cyfetholedig T. Baxter
Pennaeth Gwasanaethau Plant Rheolwr Strategol Gwella Addysg Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant (Diogelu) Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes
Cyfeiriodd Aelod at ymddeoliad Alan Williams, Aelod Cyfetholedig oherwydd afiechyd. Mynegodd y Cadeirydd ac Aelodau eu gwerthfawrogiad am ei gyfraniad i’r Cyd-bwyllgor Craffu Diogelu a’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gofynnodd i lythyr gwerthfawrogiad gael ei anfon ato.
CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: CYTUNODD y Pwyllgor y bydd cyfarfodydd y dyfodol yn cychwyn am 10.00 a.m.
Cododd Aelod bryderon bod eitem agenda wedi eu diweddaru wedi ei hanfon yn hwyr ac yn y dyfodol y dylid rhoi esboniad gyda’r eitem a ddosbarthwyd pan y’i cylchredir ar fyr rybudd i Aelodau fod yn gwybod am y diwygiadau. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg fod naratif yr adroddiad yn parhau’r un fath ond cafodd yr Atodiad ei ddiwygio i gynnwys y diweddariad Addysg yng nghyswllt graffiau.
|
|
Cofnodion y Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) PDF 233 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 26 Ebrill 2021 PDF 199 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cyd-bwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 638 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol..
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi gwybodaeth am ddiogelu a dadansoddiad gan Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.
Gwybodaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Siaradodd y Rheolwr Tîm Diogelu Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Dywedodd Aelod mai’r heddlu yw’r atgyfeiriwr uchaf a chyfeiriodd at baragraff 6.3.2 yr adroddiad yng nghyswllt prosesau a ddatblygwyd rhwng Addysg a’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion a theimlai y gellid o bosibl ymestyn hyn rhwng ysgolion, yr heddlu a’r gymuned. Cyfeiriodd hefyd at baragraff 6.3.4 am y nifer o ddigwyddiadau bwlio a ddynodwyd gan blant a phobl ifanc fel problem sydd angen ei monitro’n agos a theimlai y gallai hyn fod yn lledaenu allan i’r gymuned gan achosi mwy o atgyfeiriadau gan yr heddlu.
Dywedodd Aelod arall fod y ffigurau ar gyfer atgyfeiriadau wedi cynyddu drwy gydol y flwyddyn, a allai fod oherwydd y pandemig, ond bod atgyfeiriadau gan Gwasanaethau Ieuenctid yn gostwng yn sylweddol.
Atebodd y Rheolwr Tîm Diogelu y byddai’n codi’r pwyntiau uchod gyda’r cydweithwyr priodol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu gostyngiad bach yng nghyfanswm yr atgyfeiriadau gan Gwasanaethau Ieuenctid a theimlai fod hyn oherwydd llai o gyswllt wyneb i wyneb gyda phlant a phobl ifanc.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 19 – Ffigur 2.8: mae hyn yn cyfeirio at gynadleddau adolygu ac mae’r canran a gynhaliwyd o fewn yr amserlen yn dangos 100% ar gyfer Ch1 a Ch4, 84.4% ar gyfer Ch2 a 96.2% ar gyfer Ch3. Nid yw’r data a roddir yn achosi consyrn. Gofynnodd yr Aelod i’w frawddeg olaf “nid yw’r data a roddwyd yn achosi consyrn” gael ei hail-eirio. Cytunodd Rheolwr y Tîm Diogelu i newid y geiriad yn y frawddeg hon.
Yng nghyswllt nifer uchel atgyfeiriadau gan yr heddlu, teimlai Aelod nad oes angen i’r holl atgyfeiriadau gael eu cyfeirio at Gwasanaethau Cymunedol. Dywedodd y Rheolwr Tîm Diogelu fod hynny’n dibynnu ar natur yr atgyfeiriad.
Cododd Aelod arall bryderon am atgyfeiriadau gan yr heddlu a holodd os oes proses dilyn lan gyda Thîm Diogelwch y Gymuned a’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol gan y teimlai fod peth ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei achosi gan droseddwyr mynych. Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Diogelu fod yr heddlu yn ymweld â throseddwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych i geisio rhoi sicrwydd i gymunedau. Mae Tîm Diogelwch y Gymuned yn rhagweithiol wrth geisio gweithio gyda chymunedau a gweithwyr proffesiynol eraill i ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pe byddai gweithiwr cymdeithasol yn dod i wybod am ymddygiad neilltuol gan blentyn drwy atgyfeiriad gan yr heddlu, yna byddai cymorth yn cael ei roi yn ei le i ostwng yr ymddygiad hwnnw. Teimlai’r Aelod y dylai fod mwy o gydweithredu rhwng asiantaethau gan fod mwy a mwy o deuluoedd angen cymorth.
Os oes oedolion bregus yn gysylltiedig, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Gwasanaethau Plant yn cysylltu gyda Gwasanaethau Oedolion ac y byddai Gwasanaethau Oedolion wedyn yn ymweld â’r ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Polisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol PDF 423 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Diogelu mewn Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau Craffu i graffu ar Bolisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol yn dilyn ei adolygiad blynyddol.
Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.1 yr adroddiad a dywedodd am bwynt bwled 5 – Gofynion hyfforddiant sylfaenol ar gyfer yr holl staff a gwirfoddolwyr – a theimlai y dylai hyn fod yn hyfforddiant estynedig ac nid sylfaenol. Cytunodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg nad oedd y gair sylfaenol yn cyfleu’r lefel o hyfforddiant sy’n gysylltiedig ac eglurodd ei bod yn lefel a gytunwyd y dylai pob aelod mewn lleoliad addysg ei chael. Mae’n lefel gynhwysfawr ac mae’r holl ymarferwyr yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau am ddiogelu a beth sydd angen iddynt wneud os oes consyrn a sut i adrodd y consyrn hwnnw.
Cefnogodd Aelod arall y farn y dylid newid y gair ‘sylfaenol’ yng nghyswllt gofynion hyfforddiant.
CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol wrth yr Aelodau eu bod yn edrych ar hyfforddiant corfforaethol h.y. hyfforddiant tair haen. Byddai lefel sylfaenol, lefel ganolig a lefel uwch o hyfforddiant. Maent wrthi’n asesu lefel ymgyfraniad staff ac Aelodau a pha lefel o hyfforddiant fyddai ei hangen ac yn gobeithio cyflwyno rhaglen hyfforddiant yn y dyfodol agos.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am amseriad dileu’r atodiad ar gyfer ymateb i Covid o bolisi eleni, esboniodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg y cafodd atodiad ei roi y llynedd i amlinellu sut y byddai diogelu yn gweithredu yn ystod cyfnodau cynnar y pandemig Covid. Mae’n atodiad atodol i’r polisi i lywio ysgolion ar yr hyn sydd angen iddynt wneud i gadw cysylltiad gyda dysgwyr bregus gan fod ysgolion mewn sefyllfa newydd yng nghyswllt cau ysgolion. Gan fod y gweithdrefnau hyn yn adlewyrchu cynnwys y polisi diogelu, teimlid y gellid yn awr ddileu’r atodiad ond pe byddai sefyllfaoedd yn codi yn y dyfodol yng nghyswllt Covid, byddai’r Rheolwr Addysg yn rhoi cyngor amserol ar gyfer trefniadau diogelu.
Holodd Aelod os oedd yn briodol i benaethiaid ysgol hefyd fod yr Uwch Berson Dynodedig (DSP) gyda chyfrifoldeb am ddiogelu. Dywedodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg fod penaethiaid ysgol yn aml yn DSP ac yn cael eu cefnogi gan ddirprwy a theimlai eu bod mewn lle dai i gydlynu’r trefniadau diogelu yn eu hysgolion. Ychwanegodd fod gan benaethiaid ysgolion Blaenau Gwent berthynas dda gyda’u staff ac wedi creu diwylliant agored ymysg eu gr?p staffio a theimlai nad oedd unrhyw rwystr i deimlo’n gysurus yn siarad gyda phenaethiaid ysgol. Gallai unrhyw un sy’n codi consyrn gael sicrwydd drwy siarad gyda rhywun gyda lefel dda o brofiad diogelu. Y neges a gadarnhawyd drwy hyfforddiant oedd bob amser i hysbysu’r DSP os oedd pryderon.
Soniodd Aelod am gyfarfod blaenorol gydag Estyn lle mae pennaeth yr ysgol oedd y DSP a’r dirprwy bennaeth yr ail DSP. Awgrymwyd y gallai fod yn addas i ddynodi ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Deilliannau Hunanarfarniad Diogelu PDF 402 KB Ystyried adroddiad Rheolwr Strategol Gwella Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau’r Cyd-bwyllgor Craffu Diogelu i graffu ar ganfyddiadau prosesau presennol hunanarfarnu a chynllunio busnes a gynhelir o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol.
Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Teimlai’r Cadeirydd y dylai’r polisi bwysleisio llais y disgybl gan fod disgyblion yn codi pryderon am ddiogelu gydag athrawon drwy’r system hon.
Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.1.1 pwynt bwled 3 – Mae gwaith diweddar i ymateb i broblemau diogelwch y gymuned, gwrthderfysgaeth ac ymddygiad eithafol wedi datblygu’n dda, er enghraifft y Bartneriaeth Ysgolion Diogelach a Chynllun Gweithredu Parch a Chydnerthedd, a theimlai fod ymddygiad eithafol i’w weld mewn cymunedau. Rhoddodd enghraifft beiciau modur oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru at geir a phobl yn teimlo dan warchae. Awgrymodd y dylai’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant godi’r materion hyn yn ei chyfarfodydd gyda chydweithwyr.
Cyfeiriodd Aelod at y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a dywedodd fod hwn yn newid enfawr i ysgolion yn sut maent yn gweithio yn y maes hwn a gofynnodd os oedd y polisïau, gweithedrefnau a hyfforddiant addas ar gyfer ysgolion yn ei le yn barod ar gyfer gweithredu’r Ddeddf. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod y tîm Cynhwysiant wedi gweithio’n galed, yn neilltuol gyda Chydlynwyr ADY, felly maent yn deall beth sydd ei angen yng nghyswllt y gofynion ADY newydd, yn arbennig o amgylch y Cynlluniau Datblygu Unigol. Mae’r Cydlynwyr ADY yn gyfrifol am hyfforddi ysgol a chomisiynwyd Ysgol Gyfun Tredegar i gefnogi penaethiaid ac uwch dimau arweinyddiaeth ysgolion yng nghyswllt prosesau ac yn y blaen dros y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r Tîm Cynhwysiant a gweithwyr cymorth ADY i gyd wedi cael hyfforddiant llawn ar ofynion y Ddeddf ac yn medru cefnogi ysgolion Blaenau Gwent. Mae EAS wedi hyfforddi eu holl Gynghorwyr Her a fyddai’n Bartneriaid Gwella Ysgolion o fis Medi a byddent hefyd yn medru cefnogi athrawon ac uwch arweinwyr.
Yng nghyswllt diwygio ADY, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd adroddiad ei gyflwyno’n flaenorol i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu am barodrwydd ADY o safbwynt Blaenau Gwent. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ymagwedd bragmatig o fis Medi am weithredu ADY a theimlai y byddai’r sector yn croesawu hynny. Yng nghyswllt capasiti o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, byddai’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant yn gweithio’n llawn-amser i’r Cyngor o 1 Medi 2021 a theimlai fod digon o gapasiti o fewn y tîm i ymestyn diwygio ADY. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau y bwriedir recriwtio i swydd wag Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant yn nhymor yr hydref.
Holodd y Cadeirydd os byddai’n fanteisiol i EAS ychwanegu eitem safonol ar ADY a’r diwygiadau newydd ar agenda cyfarfodydd cyrff llywodraethu. Byddai Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant yn trafod hyn gyda Gwasanaethau Llywodraethwyr.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.
|