Agenda and minutes

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) - Dydd Llun, 26ain Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, G.L. Davies, P. Edwards, L. Elias a D. Wilkshire.

 

Tim Baxter – Aelod Cyfetholedig

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion y Cyd-bwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 274 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Cydbywllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2020.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at eitem 5 ar dudalen 6 y cofnodion a dywedodd y dylai’r sylw am Covid-19 fod yn y cofnodion cyn y pennawd yn ymwneud â’r Ddalen Weithredu – 2 Rhagfyr 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 8 Hydref 2020 pdf icon PDF 190 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cyd-bwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 609 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi gwybodaeth am berfformiad diogelu a dadansoddiad o Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Rhagfyr 2020.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant (Diogelu) am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau yn gwybodaeth Perfformiad Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yng nghyswllt fformat yr adroddiad, awgrymodd y Cadeirydd newidiadau i gynllun yr adroddiad, sef pan mae’n cyfeirio at graffiau a thablau yn yr atodiad e.e. Ffigur 1.1, y caiff y graff neu dabl ei dynnu i’r adroddiad o’r atodiad, ac yng nghyswllt paragraff 6.2.3 – Amddiffyn Plant, awgrymodd y Cadeirydd newid y geiriad o “dim achos consyrn” i’ “daw’r ffigurau hyn o fewn y lefelau disgwyliedig o gofio’r sefyllfa bresennol”. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n ystyried y pwyntiau hyn ac yn edrych ar newid fformat yr adroddiad ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y ffaith mai’r heddlu sy’n atgyfeirio mwyaf i Gwasanaethau Cymdeithasol a gofynnodd sut y caiff atgyfeiriadau eu monitro i sicrhau y dylent gael eu hatgyfeirio mewn gwirionedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn edrych yn barhaus ar y maes hwn a dan Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd, sef cynllun gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu i’r Ditectif Ringyll fod yn rhan o’r gwasanaeth IAA, rhan o’r rôl honno yw beirniadu a rhoi sicrwydd ansawdd i’r PPN (y dull atgyfeirio a ddefnyddir gan yr heddlu). Mae polisïau’r heddlu ar wneud atgyfeiriadau yn wahanol i rai’r Awdurdod Lleol ac felly pan elwir yr heddlu i eiddo a bod plant yn bresennol, dan eu polisïau a’u gweithdrefnau mae’n ddyletswydd arnynt i gyfeirio’r digwyddiad hwnnw i Gofal Cymdeithasol Plant a fyddai wedyn yn penderfynu os yw’r atgyfeiriad angen ymyriad statudol neu gefnogaeth lefel isel. Maent yn gweithio’n agos gyda phartneriaid o fewn yr heddlu i geisio cefnogi’r heddlu i wneud dyfarniadau proffesiynol am p’un ai i wneud atgyfeiriad i ofal cymdeithasol statudol neu ystyried os y byddai gwasanaethau ataliol haen is yn fwy addas ac yn gweithio tuag at bwynt lle mae’r ddau faes gwasanaeth yn hapus gyda’r dull gweithredu.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod hyn yn rhoi lefel ychwanegol o sicrwydd i Aelodau a chroesawodd ymgyfraniad yr heddlu yn y broses IAA i gryfhau cydweithio rhwng y ddau faes. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod yn awr wedi symud i fodel Hyb a fu’n llwyddiannus iawn yng nghyswllt partneriaid tebyg i Iechyd ac Addysg mewn cael yr un lefel o gefnogaeth i ddarparu gwybodaeth yn gyflym i’r gwasanaeth IAA i’w galluogi i wneud y penderfyniad cywir ar yr adeg gywir. Byddai’r Ditectif Ringyll yn cynnal gwiriadau ar bobl o ddiddordeb neu bobl y gall yr IAA fod angen gwybodaeth ychwanegol arnynt. Gall cydweithwyr yn y maes Iechyd wneud yr un fath yng nghyswllt plant ac unrhyw bryderon am addysg ac mae Addysg hefyd yn ymuno i fod yn rhan o’r broses a theimlai fod hon yn sefyllfa gadarnhaol iawn wrth symud  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Diogelu Oedolion pdf icon PDF 561 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i roi gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor Craffu ar Berfformiad Diogelu ynghylch Gwasanaethau Oedolion rhwng 1 Ebrill 202 a 31 Mawrth 2021.

 

Siaradodd y Rheolwr Diogelu Oedolion am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Dywedodd y bu nifer o newidiadau mewn Diogelu Oedolion dros y flwyddyn ddiwethaf. Cyflwynwyd gweithdrefnau newydd i Gymru gyfan ar Ddiogelu ym mis Ebrill 2020 ac mae’r gweithdrefnau newydd yn cefnogi’r unigolion i fod yng nghanol y broses ddiogelu ac i gefnogi’r deilliannau a ddymunant a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw i’w cadw eu hunain yn ddiogel. Gan y bu newid sylweddol yn y broses, bu newid hefyd yn yr adroddiadau a’r data a gasglwyd ac eleni nid yw hyn yn dangos dadansoddiad o ffigurau ar gyfer y flwyddyn flaenorol i edrych ar gymariaethau.

 

Cyfeiriodd Aelod at oedolion bregus a holodd os y byddai cysylltiadau i bartneriaid answyddogol tebyg i grwpiau cymunedol a sefydlwyd yn y pandemig i ddosbarthu parseli bwyd ac yn y blaen i parhau i sicrhau na anghofid am unrhyw oedolion bregus. Canmolodd y Rheolwr Diogelu Oedolion waith y grwpiau cymunedol drwy gydol y pandemig a gwyddai fod IAA a Cefnogi Pobl wedi cymryd rhan yn y grwpiau cymunedol hyn a chytunodd fod angen cadw’r cysylltiadau hyn wrth symud ymlaen. Teimlai ei bod yn bwysig i Diogelu Oedolion gysylltu gyda’r grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth a hefyd i siarad gydag unigolion oedd yn derbyn y gwasanaeth, gan eu bod yn fregus tu hwnt a gan fod y data yn dangos fod nifer y pobl sy’n hunan-atgyfeirio am Ddiogelu Oedolion yn isel iawn, a bod hyn yn rhywbeth sydd angen edrych arno gyda rhaglen hygyrch i unigolion sy’n derbyn y gwasanaeth ac yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol helpu Diogelu Oedolion i ddeall pwy yw’r oedolion mwyaf bregus a sut i’w cyrraedd.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Chomisiynu, yng nghyswllt cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth, gwneir gwaith helaeth gydag awdurdodau lleol eraill ac mae’r tîm yn diweddaru gwefannau yn barhaus Teimlai mai rhan o’r cyfnod adfer fyddai cryfhau’r blociau adeiladu sydd eisoes yn eu lle a byddai cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth yn ffocws clir fel rhan o’r cynllun busnes yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed dim ond adrodd ar  y prif gategori o gam-driniaeth, eglurodd y Rheolwr Diogelu Oedolion gyda’r data a adroddwyd i’r Pwyllgor mai dim ond ar y prif gategori cam-driniaeth y gallent adrodd. Wrth gwblhau ffurflen dyletswydd i adrodd i Gwasanaethau Cymdeithasol, gellid ticio nifer o gategorïau o gam-driniaeth ond dim ond ar y prif gategori cam-driniaeth y byddai Diogelu Oedolion yn adrodd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y’i derbyniwyd.