Agenda and minutes

Arbennig, Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) - Dydd Mawrth, 23ain Chwefror, 2021 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar  pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd D. Wilkshire, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol; a Mr T. Baxter.

 

Nodwyd fod nifer o Aelodau yn methu ymuno â’r cyfarfod oherwydd problemau technegol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Cynghorydd B. Summers – Eitem Rhif 6 Cyllideb Refeniw 021/2022 (Silent Valley)

 

Cynghorydd J. Hill – Eitem Rhif 6 Cyllideb Refeniw (Silent Valley)

 

Cynghorydd M. Cook – Eitem Rhif 6 Cyllideb Refeniw 2021/2022 (Silent Valley)

 

4.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 331 KB

Derbyn cofnodion y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 23 Tachwedd 2020 pdf icon PDF 204 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020, yn cynnwys:

 

Eitem 8 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf 2020/21

Chwarter 1 – Dyraniad Cyllid Splash Pad/Offer Chwarae

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, esboniodd Aelod yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod blaenorol y dywedwyd y cafodd y penderfyniad i ailddyrannu cyllid y splash pad ei gymryd gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol dan bwerau dirprwyedig mewn ymgynghoriad gydag Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod iddo ofyn am yr wybodaeth ar y gwariant ar feysydd chwarae plant yn cynnwys materion a godwyd yng nghyswllt y cyllid splash pad, a’r ffaith y teimlai rhai Aelodau fod diffyg tryloywder yn y camau a gymerwyd ers i’r splash pad gael ei glustnodi i ddechrau ar gyfer Parc Bryn Bach.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at y dadansoddiad cyllid a roddwyd (atodir gyda’r Ddalen Weithredu) a mynegodd bryder am degwch cyllido ar draws y Fwrdeistref gan fod y rhan fwyaf o’r prosiectau yn y cwm dwyreiniol.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd y gwariant o £185k ym Mharc Bryn Bach ei gyllido drwy gynllun Parciau Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru ac y cafodd ei gynnwys gyda’r nodyn gwybodaeth i roi’r cyfanswm gwariant a buddsoddiad mewn ardaloedd chwarae ar draws y Fwrdeistref.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd y cafodd cyllid ar gyfer chwarae teg ei wasgaru’n deg ar draws y Fwrdeistref.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr holl wybodaeth yn y nodyn gwybodaeth a atodir i’r Ddalen Weithredu, a chadarnhaodd y cafodd cyllid ei ddyrannu yn unol â’r blaenoriaethau a ddynodwyd yn y strategaeth a gytunodd y Cyngor ar ardaloedd chwarae.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y rhestr o brosiectau a dywedodd y cafodd y gwaith ei wneud ym Mharc Dyffryn ac nid y Parc Canolog fel y dywedwyd. Mynegodd bryder hefyd nad oedd aelodau lleol wedi cael eu diweddaru ar y gwaith ac na ofynnwyd iddynt am eu mewnbwn.

 

Yn nhermau’r camau gweithredu a gymerwyd yng nghyswllt y splash pad, dywedodd Aelod mai ei atgof oedd bod yr Ymddiriedolaeth Hamdden wedi dweud nad oeddent mewn sefyllfa i gyflawni’r prosiect oherwydd y costau rhedeg cyfredol fyddai eu hangen. Dywedodd y cafodd yr Aelodau eu hysbysu am hyn ynghyd ag esboniad pam y bwriedir symud y prosiect i safle Gardd yr ?yl h.y. er mwyn gwario’r cyllid yn hytrach na’i ddychwelyd i Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb, dywedodd Aelod na fedrai dderbyn y ffaith fod y Cyngor wedi cyflwyno cais am gyllid ar gyfer parc splash heb wybod y byddai angen gwaith ychwanegol. Dywedodd fod hyn yn siom fawr i breswylwyr Tredegar a theimlai y gallai’r holl sefyllfa fod wedi cael ei thrin mewn ffordd fwy democrataidd.

Monitro’r Gyllideb Refeniw – Chwarter 2 2020/21 (Ymddiriedolaeth Hamdden)

 

Cyfeiriodd Aelod at y wariant ar lyfrau yn 2019/20, cyfanswm o £51,681, a dywedodd er bod hynny’n swm sylweddol o arian, roedd tua £82k wedi ei neilltuo ar gyfer y gronfa lyfrau. Gofynnodd lle gwariwyd gweddill yr arian neu os  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cyllideb Refeniw 2021/22 pdf icon PDF 817 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar setliad darpariaethol llywodraeth leol ar gyfer 2021/22 ac effaith hynny ar gyllideb y Cyngor. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig y gyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2021/22 ac yn cynnig lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Mae’r Setliad Darpariaethol yn cynnwys manylion y cyllid refeniw y gallai Awdurdodau Cymru ddisgwyl eu derbyn yn 2021/22 er mwyn caniatáu iddynt osod eu cyllidebau a phenderfynu ar lefelau’r Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn honno. Mae hefyd yn rhoi manylion y cyllid cyfalaf y gallai Awdurdodau ddisgwyl ei dderbyn y gyllido eu rhaglenni cyfalaf. Ni chafodd ffigurau dangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 a thu hwnt eu darparu ar y cam hwn. Caiff y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ei gynnwys yn Atodiad 1.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y setliad darpariaethol cadarnhaol, ynghyd â’r cyfleoedd a ddynodir yn rhaglen Pontio’r Bwlch, yn golygu y gall y Cyngor fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, osgoi toriadau i wasanaethau a gwella ei gadernid ariannol.

 

Dywedodd y Swyddog, ac eithrio’r GIG a’r rhai ar y cyflogau isaf, bod penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i oedi cynnydd cyflog yn y sector cyhoeddus yn golygu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllid ychwanegol i ddarparu ar gyfer y dyfarniadau cyflog i’r sector cyhoeddus yn ehangach. Fel canlyniad, byddai felly angen i unrhyw effaith ariannol yn deillio o’r cynnydd mewn cyflogau gael ei ddarparu o fewn y setliad cyllid cyffredinol.

 

Yna aeth y Prif Swyddog drwy’r adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo. Y prif gynnydd ar gyfer CBSBG ar ôl caniatáu ar gyfer y trosglwyddo oedd 3.6% (£4.2m), o gymharu gyda chynnydd Cymru gyfan o 3.8%. Mae’r setliad cadarnhaol ynghyd â’r cyfleoedd a ddynodir yn rhaglen Pontio’r Bwlch yn golygu, yn amodol ar gytuno argymhellion yr adroddiad, y gallai’r Cyngor gytuno ar gyllideb ar gyfer 2021/2022.

 

Dywedodd Aelod na fedrai gynyddu’r cynnydd o 4% a gynigir yn y Dreth Gyngor a dywedodd yn ystod y cyfnod o lymder pan oedd y Cyngor yn wynebu toriadau o £12m a phwysau cost o £32m, bod y weinyddiaeth flaenorol wedi llwyddo i gadw cynnydd y Dreth Gyngor ar 2.6%, 3.6% a 3.4%. Dywedodd y cafodd pandemig Covid effaith drychinebus ar y gymuned gyda llawer o breswylwyr ar gyfnod ffyrlo, colledion swyddi a’r ffaith na fyddai llaewr o fusnesau byth yn medru cael adferiad. Ar sail setliad mor gadarnhaol, dywedodd na fedrai gefnogi cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor.

 

Cytunodd Aelod arall fod cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor yn annerbyniol. Dywedodd y bu cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau lles anifeiliaid yn ystod y pandemig Covid a gofynnodd faint fyddai’r gost i’r Cyngor i ddod â’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol, gan fod y trefniant presennol yn annigonol.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd Aelod mai hwn oedd yr unig gyfle a gafodd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.