Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Rheolwr Gyfarwyddwr Prif Swyddog Masnachol Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
|
|
Cofnodion |
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 417 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg |
|
Cynnig i Ymgynghori ar Gynnydd yng Nghapasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm PDF 494 KB Ystyried adroddiad y Cyfaryddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Gwasanaeth – Addysg a Thrafnidiaeth.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg manwl o’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd gan y Gyfarwyddiaeth Addysg ar y cynnig i ymestyn capasiti Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm. Yn dilyn yr ymgynghoriad, gofynnwyd am benderfyniad gan y Pwyllgor Gweithredol yn unol â’r cynnig i symud ymlaen i’r cam Hysbysiad Statudol.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad a nododd elfennau’r ad-drefnu ysgol a dywedodd bod angen cynnal ymgynghoriad ffurfiol er mwyn cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm gan fod y Cyngor wedi cynnig cynyddu capasiti disgyblion gan dros 10% (o 120 i 175). Rhoddwyd trosolwg o’r ymgysylltu â’r cyhoedd, ymatebion ysgrifenedig a nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ddata’r ohebiaeth a dderbyniwyd o ran lefel y gefnogaeth ar gyfer y cynnig:-
· Cefnogi’r cynnig yn llawn - 9 (82%) · Cefnogi’r cynnig yn rhannol - 1 (9%) · Dim yn cefnogi’r cynnig - 1 (9%)
Adroddwyd ymhellach y bu ymgysylltu cyfryngau cymdeithasol helaeth, sy’n dangos y gefnogaeth fawr. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda’r Fforwm Ieuenctid, y Cyngor Ysgol ac Estyn. Yn nhermau’r dadansoddiad thematig, amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y prif themâu a ddeilliodd o’r dadansoddiad o ymatebion, fel sy’n dilyn:--
· Darpariaeth/cyfleusterau arbenigol – 17 · Galw cynyddol – 16 · Effaith hirdymor –15
I gloi, cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol mai cyfradd ymateb cymharol isel fu i’r ymgynghoriad, fodd bynnag nid yw ymateb isel yn anarferol lle mae lefelau uchel o gymorth. Teimlwyd fod yr ymgynghoriad yn dangos fod cefnogaeth eang i gynyddu’r capasiti presennol yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm.
Croesawodd yr Aelod Gweithredol Addysg yr ymateb a gafwyd gan fod nifer o fanteision mewn ymestyn capasiti, yn neilltuol y byddai cynyddu capasiti yn galluogi mwy o blant i gael eu haddysgu yn nes at eu cartrefi.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gyda dogfennau cysylltiedig a chytunwyd i symud ymlaen i Hysbysiad Statudol (Opsiwn 1).
|