Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 9fed Chwefror, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 353 KB

Ystyried cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

5.

Cyllideb Refeniw 2022/2023 pdf icon PDF 857 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y setliad llywodraeth leol darpariaethol ar gyfer 2022/23 a’i effaith ar gyllideb y Cyngor. Mae hefyd yn amlinellu’r gyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2022/23 ac yn ceisio cymeradwyaeth i lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Adnoddau bod y Cyngor wedi cytuno ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol ddiwygiedig ym mis Tachwedd 2021 a dywedodd fod yr adroddiad hwn yn rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf i Aelodau am y gyllideb yn dilyn cyhoeddi setliad llywodraeth leol darpariaethol ar gyfer 2022/.23.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad ymhellach a rhoddodd drosolwg o’r meysydd a gynhwysir yn yr adroddiad fel sy’n dilyn:-

 

·         Sefyllfa Cyllid Allanol Cronnus (AEF) Cenedlaethol

·         Sefyllfa AEF Blaenau Gwent

·         Cyllid AEF o gymharu â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol

·         Pwysau Cost a Thwf

·         Triniaeth Grantiau yn trosglwyddo i’r Setliad

·         Cyllideb Ysgolion Unigol

·         Bwlch cyllid diwygiedig

·         Rhaglen Pontio’r Bwlch

·         Cyllideb Refeniw 2021/22

·         Cronfeydd wrth Gefn Refeniw Cyffredinol 2021/22

 

I gloi, cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at drafodaethau yn y Cydbwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2022 a dywedwyd fod Aelodau wedi derbyn argymhellion 3.1.1. i 3.1.6, fodd bynnag roedd y Pwyllgor wedi penderfynu gohirio penderfyniad yng nghyswllt 3.1.7 a 3.1.8 tan gyfarfod o’r Cyngor llawn a drefnwyd ar gyfer 17 Chwefror 2022.

 

Nododd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi manylion cyllideb derfynol gadarnhaol i’w gosod gan y weinyddiaeth hon. Roedd yn falch y gallodd yr Awdurdod lunio cyllideb gytbwys a chyfreithiol. Ni fu unrhyw reswm eto eleni i gymryd arian o’r cronfeydd wrth gefn, ac roedd hyn wedi arwain at i lefelau’r cronfeydd wrth gefn sydd gan y Cyngor gael eu codi i lefel addas.

 

Cynigiodd yr Arweinydd y dylid cytuno ar argymhellion 3.1.1 i 3.1.6 a bod argymhellion 3.1.7 a 3.18 yn cael eu penderfynu gan y Cyngor llawn ar 17 Chwefror 2022. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Roedd yr Aelod Gweithredol Addysg yn falch iawn gyda’r swm mawr o arian a roddir i ysgolion a gaiff ei basportio i ysgolion a fyddai’n cael ei groesawu’n fawr gan benaethiaid ysgolion ac a fyddai o fudd mawr o blant a phobl ifanc Blaenau Gwent.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd y gefnogaeth i Gwasanaethau Cymdeithasol yn y gyllideb.

 

Ychwanegodd yr Arweinwyr fod Aelodau Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ill dau wedi bod yn eiriolwyr gwych yn eu priod feysydd a dywedodd y cafodd yr ymrwymiad a roddwyd yn 2017 i ddiogelu a chefnogi Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ei ddangos yn ystod cyfnod swydd y weinyddiaeth hon.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y dilynol:-

 

3.1.1     argymell cyllideb refeniw 2022/23 i’r Cyngor;

 

3.1.2     rhoddwyd sylwadau ar y deilliannau o fewn setliad darpariaethol y Grant Cynnal Ardrethi (RSG) a nodi’r potensial am newid pellach yn setliad terfynol y RSG;

 

3.1.3     rhoddwyd sylwadau ar y deilliannau o fewn setliad darpariaethol RSG Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac effaith hynny ar y Strategaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Cymdeithasol

6.

Datblygu cynllun cydweithredu rhwng Caerffili/Blaenau Gwent ar gyfer darparu Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a rhoddwyd trosolwg i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod yr wybodaeth sy’n cynnwys manylion ynghylch materion busnes/ariannol personau heblaw’r Awdurdod yn cael ei dderbyn (Opsiwn 1).