Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 15fed Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd J. Mason, Aelod Gweithredol – Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

Prif Swyddog Adnoddau

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 494 KB

Ystyried cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

5.

Blaenraglen Gwaith – 19 Ionawr 2022 pdf icon PDF 461 KB

Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyraieth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Flaenraglen Gwaith a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddi (Opsiwn 1).

 

6.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Derbyniwyd y grantiau ychwanegol dilynol ers cyhoeddi’r adroddiad:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Abertyleri – Cynghorydd N. Daniels

 

1.    Clwb Bowls Six Bells

2.    Clwb Pêl-droed Abertillery Excelsiors

3.    Clwb Pêl-droed Abertillery Bluebirds

4.    Eglwys Bedyddwyr Ebeneser

 

 

£100

£50

£50

£47.18

 

 

Ward Cwmtyleri – Cynghorydd J. Wilkins

 

 

 

 

1.

Band Tref Abertyleri

£50

 

2.

BGfm

£50

 

3.

Rotary Brynmawr

£100

 

4.

Chillax

£101.75

 

5.

Penybont Crafters

£100

 

 

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd J. Collins

 

 

 

 

1.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Llanhiledd

£266.75

 

2.

Cyfeillion Ysgol Gynradd Illtud Sant

£300

 

BRYNMAWR

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd J. Hill

 

 

1.

Falcons Martial Arts

£100

2.

Cyfeillion Parc Nant y Waun

£150

3.

BGfm

£150

 

GLYNEBWY

 

Ward Badminton - Cynghorydd G. Paulsen

 

 

1.

Prifysgol Trydydd Oed Glynebwy

£50

 

 

Ward Badminton - Cynghorydd C. Meredith

 

 

1.

Prifysgol Trydydd Oed Glynebwy

£50

 

NANTYGLO A BLAENAU

 

Ward Nantyglo - Cynghorwyr J. Mason a  K. Rowson

 

 

1.

Cyfeillion Parc Nant y Waun

    £100

 

 

Ward Blaenau – Cynghorydd  J. P. Morgan

 

 

1.

Eglwys Fethodistaidd Cwmcelyn

£150

2.

Clwb Pysgota Cwmcelyn

£150

3.

Sgowtiaid Blaenau

£150

 

TREDEGAR

 

Wardiau Georgetown a Canol ~Gorllewin - Cynghorydd S. Thomas, H. Trollope, B. Willis, K. Hayden & J. Morgan

 

 

1.

Cymru Creations

£200

2.

Cadetiaid Awyrlu 2167

£200

3.

Clwb Bowls Parc Bedwellte

£200

4.

Cwpwrdd Cymunedol Chloe

£200

5.

Gymfinity

£200

6.

Kids r Us

£200

7.

Gr?p Mamau a Pheltnyn, Bedyddwyr Canol Tredegar

£200

8.

Eglwys St George

£200

9.

Clwb Bocsio Amatur Silurian

£200

10.

Fforwm Busnes Tredegar

£200

11.

Eglwys Ganolog Bedyddwyr Tredeegar

£200

12.

Eglwys Fethodistaidd Tredegar

£200

13.

Pêl-rwyd Tredegar

£200

14.

Clwb Orffews Tredegar

£200

15.

Clwb Pêl-droed Amatur Tref Tredegar

£200

16.

Clwb Pêl-droed Amatur Menywod a Genethod Tredegar

£200

17.

Clwb Camera Tredvale

£200

18.

Pensiynwyr Stocktonville

£200

19.

Lleng Brydeinig Frenhinol (Cangen Tredegar)

£175

20.

Clwb Pysgota Tredegar

£200

21.

Fforwm Treftadaeth Blaenau Gwent

£200

22.

Ambiwlans Sant Ioan Tredegar

£200

23.

Clwb Rygbi Pêl-droed Tredegar Ironsides

£200

24.

Rhandiroedd Southend

£160

25.

Gwenynwyr Southend

£160

26.

Coetiroedd Cwm Sirhywi

£160

27.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr St Georges Court

£160

28.

Eglwys Saron

£200

29.

Cyfeillion Parc Bedwellte

£200

30.

Eglwys Methodistaidd Vale TerraceTredegar

£200

31.

Planet Fitness

£150

32.

Clwydi Coffa Glowyr Tredegar

£202.85

33.

Clwb Pêl-droed Dan 13 Tredegar

£175

34.

Clwb Pêl-droed Dan 14 Tredegar

£175

35.

Tigers Dan 10 Clwb Pêl-droed Tredegar

£175

36.

Clwb Rygbi Tredegar Ironsides

£175

37.

Tîmn Iau Clwb Pêl-droed Amatur Tref Tredegar

£150

 

Ward Sirhywi - Cynghorydd T. Smith a M. Cross

 

 

1.

Lleng Brydeinig Frenhinol (Cangen Tredegar)

£116

2.

Côr Orffews Tredegar

£50

3.

Cadetiaid Awyrlu 2167

£50

4.

Clwb Pysgota Tredegar

£50

5.

Fforwm Treftadaeth Blaenau Gwent

£50

6.

Sant Ioan Cymru

£50

7.

Sioe Geffylau Tredegar

£50

8.

Clwb Rygbi Tredegar Ironsides

£100

9.

Cymdeithas Ardal Gwent Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig

£50

10.

Coetiroedd Cwm Sirhywi

£50

11.

Canolfan Gymunedol Nantybwch

£250

12.

Canolfan Gymunedol Sirhywi

£250

13.

Canolfan Gymunedol Ystrad Deri

£250

14.

Capel Horeb

£25

15.

Capel  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cofnodion y Gweithgor Grantiau – 17 Tachwedd 2021 pdf icon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y Gweithgor Grantiau a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Cyfrif y Sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23 pdf icon PDF 398 KB

To consider the report of the Chief Officer Resources.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg bod yr adroddiad yn nodi’r Sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 a gofynnodd am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol. Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol a gynhwysir ynddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyodd y Pwyllgor Gweithredol y cyfrifiad sylfaen Treth Gyngor ar gyfer 2022/23 fel y’i manylir yn Atodiad 1 tablau 1 i 6 a bod y sylfaen treth gyngor ar gyfer dibenion gosod treth yn 20,876.86.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

9.

Cynllun Creu Lleoedd Glynebwy pdf icon PDF 611 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i Gynllun Creu Lleoedd Glynebwy. Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am gefndir y Cynllun Creu Lleoedd a rhoddodd ddiweddariad ar y gwaith hyd yma.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach am yr adroddiad a nodi cyflawni’r weledigaeth ar gyfer tref Glynebwy ac amlinellodd y chwe uchelgais craidd i gyflawni’r weledigaeth ynghyd â meysydd ymyriad a chamau gweithredu lefel uchel.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y trafodaethau a gynhaliwyd yn y Pwyllgor Craffu Adfywio a dywedodd y cafodd pob mater o gonsyrn eu trafod.

 

Dywedodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd mai hwn oedd cam cyntaf y gwaith a bod llawer iawn o waith i gael ei wneud yn unol â’r cynllun cyflenwi. Byddai’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar draws trefi a gwneir gwaith sy’n cysylltu Blaenau Gwent i gyd. Teimlai’r Aelod Gweithredol fod nifer o gyfleoedd y medrid eu hymchwilio o waith partneriaeth yn ogystal â llwybrau ffyniant y gellid eu hymchwilio.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol ei bod yn bwysig, wrth i’r Cyngor fynd â’r Cynllun rhagddo, y rhoddir ystyriaeth i gynaliadwyedd y datblygiad gan ei bod yn hollbwysig y caiff prosiectau eu cynnal i’r dyfodol. Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod y Cyngor wedi methu sicrhau cynaliadwyedd prosiectau yn y gorffennol oedd wedi rhoi pwysau mawr ar gyllidebau a gadael prosiectau heb eu cynnal.

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau am gynaliadwyedd prosiectau a diolchodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Aelod Gweithredol am eu hymrwymiad a fyddai’n fanteisiol i’n trefi a’i groesawu gan Aelodau etholedig a phreswylwyr. Roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at ymestyn yn llawn ar draws y Fwrdeistref.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gweledigaeth ac uchelgeisiau craidd cynllun Creu Lleoedd Glynebwy ar gyfer y dyfodol (Opsiwn 2).

 

10.

Ymagwedd Ranbarthol at Gyflogadwyedd pdf icon PDF 590 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol mai diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth CBSBG i’r papur rhanbarthol ac egwyddorion ymagwedd a gydlynir yn rhanbarthol ac a gyflwynir yn lleol at gyflogadwyedd. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r rhaglenni Ewropeaidd yn dod i ben yn fuan ar draws y rhanbarth ac ychwanegodd y byddai’r 10 Cyngor ar draws y Brifddinas-Ranbarth yn cydweithio i gyflenwi’r ddarpariaeth cyflogadwyedd.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach am yr adroddiad ac amlinellu’r weledigaeth a gaiff ei rhannu yn nhermau’r fframwaith ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol yn y Brifddinas-Ranbarth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd y papur ei ddarparu gan y 10 cyngor yn y rhanbarth ac mae’n cael ei ystyried gan y cynghorau unigol i gael eu gyflenwi’n lleol o fewn fframwaith ranbarthol. Unwaith y derbyniwyd cymorth, caiff achos busnes ei ddatblygu yn nhermau’r angen am gyflogadwyedd a chaiff arian ei ddyrannu lle mae angen. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gellid pontio’n llyfn o’r hen raglenni i’r broses newydd. Nodwyd fod 50,000 o bobl ar draws y rhanbarth wedi cael budd felly mae hwn yn ddarn sylweddol o waith ac unwaith y cytunwyd ar egwyddor yr ymagwedd, byddai hyn yn dod yn ôl eto i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Teimlai’r Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd ei bod yn bwysig peidio colli’r elfen leol a dysgu gan ei gilydd o agwedd ehangach.  Dywedodd yr Aelod Gweithredol ei fod bob amser wedi hyrwyddo sgiliau a phrentisaethau ar gyfer pobl ifanc ac mae’n wych gweld y prosiectau yn dod i ffrwyth. Fodd bynnag, mae hefyd angen gwaith gyda theuluoedd a’r genhedlaeth h?n a all fod angen newid gyrfa ac edrych ar ffyrdd newydd o weithio, felly y mae’n bwysig iawn i gynyddu sgiliau’r unigolion hyn.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol ei bod yn hollbwysig y gall y Cyngor fod yn rhagweithiol i’r heriau hyn a theimlid mai dull rhanbarthol oedd y ffordd orau ymlaen. Mae’n rhoi cyfle i gryfhau’r cynlluniau sydd eisoes ar waith ym Mlaenau Gwent a rhoi’r cymorth ychwanegol hwnnw yn neilltuol yng nghyswllt y gronfa rhannu ffyniant.

 

Mewn ymateb i drafodaethau yn y Pwyllgor Craffu Adfywio, dywedwyd fod cefnogaeth ar gyfer cyflenwi lleol ac yn deall yr angen am weithio rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r papur rhanbarthol a chymeradwyo ymagwedd a gydlynir yn rhanbarthol ac a gyflenwir yn lleol at gyflogadwyedd (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

11.

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Cyfathrebu (Gorffennaf – Medi 2021) pdf icon PDF 418 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diweddariad chwarter 2 (mis Gorffennaf i fis Medi 2021) ar y Strategaeth Cyfathrebu (Opsiwn 1).

 

12.

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol (Gorffennaf – Medi 2021) pdf icon PDF 616 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Nododd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi manylion y gwaith cadarnhaol a wnaethpwyd a nododd y gwaith a gyflawnwyd gyda’r hybiau cymunedol. Roedd yr Arweinydd yn croesawu’r hybiau a gafodd eu creu gan y weinyddiaeth hon. Mae’r ffigurau wedi cynyddu’n wythnosol a nododd yr astudiaethau achos sy’n dangos y gefnogaeth y mae’r hybiau wedi ei roi i breswylwyr. Pe na byddai’r hybiau hyn wedi bod ar gael, teimlai’r Arweinydd y byddai nifer enfawr o bobl wedi mynd dan y radar ac wedi gorfod teithio yn ôl ac ymlaen i Lynebwy. Credai’r Arweinydd na fyddai’r hybiau hyn wedi dod i fodolaeth pe na byddai’r Cyngor wedi penderfynu symud at drefniadau gweithio gartref ac adleoli o’r Ganolfan Ddinesig.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd iddo gael adborth gadarnhaol gan breswylwyr a mynegodd ddiolch i’r staff yn yr hybiau cymunedol yr ymwelodd â nhw gyda’r Cynghorydd Collins.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi perfformiad y strategaeth fasnachol yn ystod Chwarter 2 fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).

 

13.

Monitro Cyllideb Refeniw – 2021/2022, Rhagolwg All-dro hyd 31 Mawrth 2022 (fel ar 30 Medi 2021) pdf icon PDF 714 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg bod yr adroddiad yn rhoi rhagolwg sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 (rhagolwg 30 Medi 2021).

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y sefyllfa ffafriol sy’n rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa dda. Cyfeiriwyd yr Aelodau Gweithredol at y crynodeb portffolio, trosglwyddiadau cyllideb a rhoi trosolwg o’r dadansoddiad portffolio. Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach am yr adroddiad a nododd yr atodiadau sy’n rhoi mwy o fanylion am yr wybodaeth a gyflwynir yn yr adroddiad.

 

Croesawodd yr Arweinydd sefyllfa gadarnhaol y gyllideb a dywedodd y byddai’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid yn hysbysu awdurdodau yn y dyfodol agos am eu setliadau cyllideb ar gyfer 2022/2023. Roedd yr Arweinydd wedi gobeithio y derbynnir setliad rhesymol er mwyn parhau â’r tueddiad a ddechreuodd yn 2017.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg a’i Thîm am y gwaith a wnaed ar ran yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi her briodol i’r deilliannau a throsglwyddiadau ariannol a fanylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

14.

Monitro Cyllideb Gyfalaf, Rhagolwg Blwyddyn Ariannol 2021/2022 (fel ar 30 Medi 2021) pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o union wariant cyfalaf a’r rhagolwg gwariant cyfalaf ar y cymeradwyaeth cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, fel ar 30 Medi 2021.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y sefyllfa ariannol gyffredinol fel a ragwelwyd ar 30 Medi 2021 yn dangos amrywiad anffafriol o £283,128 o gymharu â chyllideb cyfalaf yn y flwyddyn o £17.12m. Dywedwyd bod yr amrywiad anffafriol oherwydd gorwariant ar y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a Pharc Busnes Rhodfa Calch. Ychwanegwyd fod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda’r cyrff cyllido perthnasol gan na chynigir tynnu arian o gronfa wrth gefn y Cyngor i fynd i’r afael â gorwariant ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodau ymhellach at yr adroddiadau sy’n rhoi mwy o fanylion.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a’r sefyllfa bresennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac

·         y gwnaed yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;

·         y cefnogwyd y gweithdrefnau rheoli ariannol priodol fel y cytunwyd gan y Cyngor; a

·         nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro’r gyllideb sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.

 

15.

Defnydd Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol a Chronfeydd wrth Gefn wedi’u Clustnodi 2021/2022 pdf icon PDF 459 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg am yr adroddiad ac amlinellodd y sefyllfa bresennol yng nghyswllt rhagolwg 2021/2022 fel yn Chwarter 2.

 

Croesawodd yr Arweinydd y sefyllfa bresennol ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor a dywedodd y cafodd yr Awdurdod ei feirniadu’n flaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru oherwydd rheolaeth wael ar y lefel y cronfeydd wrth gefn. Fodd bynnag, nododd yr Arweinydd fod yr Awdurdod bellach wedi cynyddu lefel y cronfeydd wrth gefn sydd oherwydd y gwaith da a gyflawnwyd yn y maes hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nododd y Pwyllgor Gweithredol y dilynol:-

·         yr effaith y byddai’r amrywiad ffafriol o £2.814m ar gyfer 2021/22 yn ei gael ar y cyfraniad ar y gyllideb i’r gronfa wrth gefn gyffredinol

·         y cynnydd a ragwelir yn y gronfa gyffredinol wrth gefn yn 2021/2022 i £10.567m gan fod yn 8.0% o’r gwariant refeniw net, yn uwch na’r lefel targed o 4%;

·         yr angen am reolaeth ariannol ddarbodus barhaus o gofio am botensial cyfyngiadau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol sydd eu hangen i gyllido effaith Covid-19; a bod

·         gorwariant y gyllideb yn parhau i gael eu herio a bod y cynlluniau gweithredu gwasanaeth perthnasol yn cael eu gweithredu, lle mae angen.

 

16.

Rhaglen Pontio’r Bwlch 2021/2022 – Diweddariad Cynnydd mis Gorffennaf i fis Medi 2021 pdf icon PDF 536 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad bod Aelodau’r Pwyllgor Gweithredol yn ystyried ac yn cymeradwyo’r adroddiad ac yn rhoi her briodol i’r rhaglen Pontio’r Bwlch (Opsiwn 1).

 

17.

Adroddiad Cynnydd Contractau dros £500k pdf icon PDF 480 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwyswyd o fewn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd

18.

Blaengynllun Bioamrywiaeth a Cydnerthedd Ecosystem (2019-2022) - Adroddiad Blynyddol 2020/21 pdf icon PDF 463 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyodd y Pwyllgor Gweithredu adroddiad blynyddol 2020/21 a’r cynllun gweithredu a argymhellwyd ar gyfer 2021/22 i gyflawni Dyletswydd Adran 6 (Opsiwn 1).

 

19.

Gorfodaeth Parcio Sifil - Diweddariad Gwasanaeth pdf icon PDF 728 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nododd y Pwyllgor Gweithredol y diweddariad cynnydd blynyddol diweddaraf yn ymwneud â gorfodaeth parcio sifil (CPE) ers ei gyflwyno yn 2019 a’r model achos busnes presennol (Opsiwn 1).

 

20.

Cydweithredu ar Iechyd Anifeiliaid, Llesiant a Gwasanaeth Trwyddedu – Partneriaeth Cyngor Sir Powys – Adroddiad Gweithgareddau a Diweddaru – Hydref 2021 pdf icon PDF 682 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi gwaith y gwasanaeth o hyn ymlaen (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Adfywio a Datblygu Economaidd

21.

Adolygiad Blynyddol Prosbectws Ynni pdf icon PDF 616 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd am y 12 mis diwethaf ar y Prosbectws Ynni a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y dyfodol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y blaenoriaethau ynni a osodwyd gan y Cyngor yn awr wedi dechrau cael eu cyflawni a rhoddodd drosolwg cynhwysfawr o weithgareddau a gafodd eu cwblhau a chyfleoedd newydd sy’n cysylltu gyda’r arbedion a amlinellwyd yn rhaglen Pontio’r Bwlch.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod Blaenau Gwent yn arwain y ffordd yn nhermau arbedion ynni ar draws awdurdodau yng Nghymru. Roedd y busnesau yn fwy effeithiol gan fod ynni yn gost sylweddol i fusnesau. Nododd yr Aelod Gweithredol fod hon yn ddogfen ‘fyw’ a fyddai’n newid yn unol â hynny wrth i’r Cyngor symud ymlaen a gobeithir y byddai’n galluogi ein cymunedau i gymryd rhan.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a pharhau i gefnogi, hyrwyddo a datblygu’r prosiectau o fewn y prosbectws ynni a sicrhau y caiff y ddogfen ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw brosiectau ychwanegol a ddaeth i’r amlwg. Cytunodd y Pwyllgor Gweithredol hefyd i barhau i ddynodi prosiectau’r dyfodol a fyddai’n diwallu gweledigaeth ac amcanion y Cyngor yng nghyswllt ynni a datgarboneiddio (Opsiwn 2).

 

22.

Adroddiadau Sero Net, Ymateb Cynulliad Hinsawdd a Symud Ymlaen â Phontio pdf icon PDF 556 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r ymateb i ofynion adroddiadau Llywodraeth Cymru ar Sero Net. Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr hefyd yr ymateb dechreuol i adroddiad Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent a gofynnodd i’r Pwyllgor Gweithredol gefnogi’r ymateb. Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd ar bontio’r Cynllun Datgarboneiddio a chyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y Pwyllgor Gweithredu at y cynllun gweithredu a fanylir yn yr atodiadau.

 

Croesawodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a’r gwaith sy’n mynd rhagddo. Cyfeiriodd yr Aelod Gweithredol at newid hinsawdd a theimlai fod unrhyw newid yn gadarnhaol gan fod angen gwneud y newidiadau. Mae’r newid yn y ffordd mae pobl yn gweithio bellach yn arferol ac mae’r gostyngiad yn asedau’r Cyngor yn hollbwysig yn nhermau cyflawni targedau’r Cyngor. Mae’r Cynulliad Hinsawdd yn elfen allweddol ac mae’r ymateb yn ôl yn bwysig i gynnal yr ymrwymiad hwnnw gan y cyhoedd.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a dywedodd fod y cynllun a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn fanwl ac yn glod mawr i bawb oedd yn gysylltiedig. Teimlai’r Arweinydd na fedrai fod unrhyw amheuaeth am ymrwymiad Blaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi’r ymateb i’r Cynulliad Hinsawdd (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro – Addysg

23.

Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2020/21 pdf icon PDF 535 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

24.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Diweddariad Diwygio ADY pdf icon PDF 521 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg drosolwg cynhwysfawr o’r adroddiad sy’n amlinellu’r cynnydd ar ddiwygio ADY ac adnewyddu polisi cysylltiedig.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Addysg yr adroddiad a nododd faint o waith a wnaed i sicrhau fod y Cyngor ar y trywydd i gyflawni’r camau gweithredu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a gynigir (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

25.

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 447 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth Plant drosolwg o’r gwaith a’r penderfyniadau a gymerodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 6 mis diwethaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi penderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Opsiwn 1).

 

26.

Cynigion model cyflenwi CCTV

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a’r Prif Swyddog Adnoddau (SIRO CCTV).

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, fod o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a’r Prif Swyddog Adnoddau (SIRO CCTV).

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid drosolwg o’r adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, hysbysodd y Prif Swyddog y Pwyllgor Gweithredol am drafodaethau yn y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.

 

Croesawodd yr Arweinydd a’r Pwyllgor Gweithredol yr adroddiad a byddai’r gweithio partneriaeth gyda’r Heddlu yn fanteis miol. Dymunai’r Aelod ymhellach ddiolch i’r Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a’i Thîm am y gwaith a gyflawnwyd ar y prosiect hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys manylion yn ymwneud â materion busnes/ariannol personau heblaw’r Awdurdod (Opsiwn 1).