Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 22ain Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd N. Daniels

Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 422 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 226 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD  cadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 208 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

7.

Cynadleddau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 268 KB

Ystyried cynadleddau, digwyddiadau a gwahoddiadau

 

Cofnodion:

G?yl Goffa Cymru  2021

6 Tachwedd, 2021

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog i Fynychu.

 

Digwyddiad Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid

7 Hydref 2021

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog i Fynychu.

 

Diwrnod y Llynges Fasnachol

2 Medi 2021

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog i Fynychu

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

8.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 462 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Flaenraglen Gwaith a’r wybodaeth a gynhwysir ynddi.

 

9.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Derbyniwyd y grantiau dilynol yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd N. Parsons

 

 

1.

Clwb Pêl-droed Abertillery Belles

£100

 

Ward Six Bells – Cynghorydd M. Holland

 

 

1.

Alzheimer’s Research UK

£400

2.

Cyfeillion Parc Six Bells

£300

3.

Clwb Dros 50 Six Bells

£100

4.

Bowls Six Bells

£300

5.

Canolfan Gymunedol Six Bells

£200

 

GLYNEBWY

 

Ward Badminton - Cynghorydd C. Meredith

 

 

1.

Clwb Pêl-droed RTB Glynebwy

£100

 

Ward Badminton - Cynghorydd G. Paulsen

 

 

1.

Clwb Pêl-droed RTB Glynebwy

£100

 

Ward Rasa - Cynghorydd D. Wilkshire

 

 

1.

Clwb Rygbi Beaufort

£150

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr

adroddiad a nodi’r wybodaeth bellach a gynhwysir ynddo.

 

 

10.

Asesu Perfformiad 2020/21 pdf icon PDF 489 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Perfformiad a Democrataidd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod yr adroddiad yn cyflwyno Asesiad Perfformiad 2020/2021 y Cyngor a dywedodd y cafodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ei ddisodli gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Felly, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai hwn fyddai’r Asesiad Perfformiad olaf dan y rheoliadau hyn. Byddai’n dal i fod angen i’r Cyngor ddatblygu adroddiadau ar y cynnydd a wnaed ar y Cynllun Corfforaethol a hefyd weithredu Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac y cyflwynir adroddiadau i’r Pwyllgor Gweithredol yn unol â hynny.

 

Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr ymhellach Atodiad 1 sy’n rhoi manylion cynnydd y Cyngor yn ystod 2020/21 ac asesiad o’r gwaith a wnaed fel rhan o’r ymateb i bandemig COVID 19. Cydnabu’r Rheolwr Gyfarwyddwr y bu 2020 yn flwyddyn heriol i bawb yn cynnwys yr awdurdod lleol ac mae’n ganmoliaeth i’r gweithlu y sicrhawyd y perfformiad hwn mewn heriau o’r fath. Bu rhai problemau mewn gwasanaeth oherwydd effeithiau’r pandemig, fodd bynnag mae pob gwasanaeth wedi cynyddu yn yr haf.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y Pwyllgor Gweithredol at yr opsiynau sy’n ceisio sicrhau ei fod yn cyflawni’r holl ofynion deddfwriaethol statudol cyn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd fod y pandemig wedi effeithio ar y gweithlu, cymunedau a busnesau a mynegodd ddiolch ac edmygedd i’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r cynnydd ôl-weithredol a’i gynnwys o fewn Asesiad Perfformiad y Cyngor ar gyfer 2020/21 a rhoi sicrwydd ei fod yn cyflawni’r holl ofynion deddfwriaethol statudol cyn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ei gymeradwyo (Opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

11.

Adolygiad Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 2022 - 2023 pdf icon PDF 533 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad sy’n gofyn am farn y Pwyllgor Gweithredol yng nghyswllt yr adolygiad o Bolisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 Blaenau Gwent ar gyfer 2022/23 a rhoddodd crynodeb o’r newidiadau ac ychwanegiadau a wnaed.

 

Mewn ymateb i sylwadau a godwyd yn y Pwyllgor Craffu Addysg a Dywedwyd, dywedwyd y caiff y polisi ei adolygu yn flynyddol a bod cyfle am adolygu os oes angen. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y byddai’n rhan o’r Flaenraglen Gwaith Craffu ac y byddid yn dod ag ef yn ôl i ystyried mewn 12 mis.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 2022/23 fel yr amlinellir yn Atodiad 2 (Opsiwn 1).

 

12.

Adolygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Strategaeth Hygyrchedd pdf icon PDF 600 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o broses Adolygu Strategaeth Hygyrchedd Addysg a’r amserlenni cysylltiedig. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y pwyntiau allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad a dywedodd y cafodd Blaenau Gwent ei gydnabod gan Gomisiynydd Plant Cymru fel bod yn yn un o nifer fach gynghorau yng Nghymru i fod wedi cyhoeddi Strategaeth Hygyrchedd a chynllun gweithredu cysylltiedig.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Addysg yr adroddiad sy’n adlewyrchu’n dda ar yr Awdurdod Lleol ac ategodd fod Comisiynydd Plant Cymru wedi cydnabod Blaenau Gwent fel un o’r unig gynghorau yng Nghymru i fod wedi cyhoeddi Strategaeth Hygyrchedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

13.

Strategaeth ac Adolygiad Cynhwysiant (2021-2022) pdf icon PDF 443 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr adroddiad sy’n rhoi manylion cynlluniau i adolygu’r Gwasanaeth Cynhwysiant yn ystod cyfnod mis Medi 2021 – Awst 2022 yn unol â gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018. Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Blaenau Gwent mewn sefyllfa dda i symud ymlaen â’r adolygiad a chyfeiriodd y Pwyllgor Gweithredol at flaenoriaethau allweddol y Strategaeth.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod ysgolion wedi gwneud cynnydd da yn y cyfnod heriol hwn ac y byddai’r Strategaeth yn rhoi cefnogaeth bellach i ddisgyblion gydag anghenion arbennig. Cytunodd yr Aelod Gweithredol Addysg gyda’r sylwadau a wnaed a chroesawodd y dull gweithredu cyffredin a ddilynir gan ysgolion ar draws Blaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno i’r adolygiad o’r Gwasanaeth Cynhwysiant i sicrhau y caiff gofynion Deddf ADY eu diwallu. Byddai hyn yn cynnwys adolygu adnoddau perthnasol, strwythurau, disgrifiadau swydd a sicrhau fod yr holl drefniadau perthnasol yn eu lle i ddiwallu anghenion Deddf ADY (Opsiwn 2).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

14.

Buddsoddiad mewn Datblygiad Micro-Hydro pdf icon PDF 547 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd yr Astudiaeth Dichonolrwydd Micro-Hydro a gynhaliwyd yn Cwm a Llanhiledd a gofynnodd am gymeradwyaeth i gamau nesaf y prosiect. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr 11 ardal bosibl i gael eu hymchwilio a dywedodd, yn dilyn ymchwil bellach, y penderfynwyd mai safleoedd yn Llanhiledd a Cwm yw’r lleoliadau a ffafrir. Er y gellid cynhyrchu trydan yn yr ardaloedd a nodir, penderfynwyd nad oedd yn ymarferol i’r Cyngor ar hyn o bryd symud ymlaen â’r gwaith ar ymchwilio pellach a datblygu.

 

Dywedwyd fod y Pwyllgor Craffu Adfywio yn cefnogi’r opsiwn a ffafrir gan fod y Cyngor wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliadau ym mhob un o’r 11 ardal a ddynodwyd fel safleoedd sy’n haeddu eu hymchwilio ymhellach ar gyfer cynhyrchu hydro.

 

Teimlai’r Dirprwy Arweinydd y dylai pob agwedd o ynni gael eu hystyried yn unol â’r gwaith a wneir am ddatgarboneiddio ac er nad oedd yr elfen fasnachol ar gyfer buddsoddiad y Cyngor ar gael, gallai fod cyfleoedd eraill i gael eu hymchwilio yn ein cymunedau.

 

PENDERFYNWYD i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn dewis peidio symud â’r cynlluniau hyn ymlaen am ymchwiliad pellach a datblygu. Byddai’r prosiectau yn cael eu cau o’r man presennol a dim ond os yw costau’n gostwng yn sylweddol neu fod technolegau newydd yn dod ar gael yr edrychir arnynt eto (Opsiwn 1).

 

15.

Dull Darparu Partneriaeth – Canol Trefi pdf icon PDF 493 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy’n gofyn am gymeradwyaeth i ffurfio Byrddau Ymgynghori Canol y Dref yng nghanol trefi Abertyleri, Brynmawr a Glynebwy i gefnogi dull darparu partneriaeth ar gyfer darparu prosiectau yn y dyfodol. Gobeithid y gellid adeiladu ar y gwaith a wnaed yn Nhridegau a’i ymestyn ar draws pob canol tref.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi ystyried yr adroddiad ac y gofynnodd fod Blaenau’n cael ei gynnwys yn y prosiect. Cadarnhawyd y cytunwyd ar y llwybr gweithredu hwn ac y gweithredir yn y Blaenau unwaith y cwblhawyd ardal Abertyleri.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd y gwaith a wnaed gyda Fforwm Tredegar a dywedodd ei bod yn hanfodol gweithio gyda’n partneriaid a busnesau eraill i weithio ein canol trefi a’r nifer sy’n defnyddio canol y trefi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo ffurfio cyfres o Fyrddau Ymgynghorol ar gyfer canol trefi Abertyleri, Blaenau, Brynmawr a Glynebwy yn seiliedig ar ddull gweithredu Bwrdd Ymgynghori Tredegar ac yn cydnabod y drafft gylch gorchwyl a amlinellir yn Atodiad Un. Bydd y Bwrdd Ymgynghori yn gweithredu fel corff ymgynghori i oruchwylio datblygu a chyflawni strategaethau a chynlluniau canol trefi. Bydd pob un yn dechrau gydag aelodaeth bach a ddynodir gan aelodau’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi ynghyd â swyddogion. Gellir wedyn ymestyn i’r aelodaeth a’i ddatblygu ymhellach wrth i drafodaethau ddatblygu.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

16.

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Cyfathrebu (Ebrill-Mehefin 2021) pdf icon PDF 427 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diweddariad Chwarter 4 (Ionawr i Mawrth 2021) ar y Strategaeth Cyfathrebu (Opsiwn 1).

 

17.

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol (Ebrill – Mehefin 2021) pdf icon PDF 611 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd a wnaed ar gyfer Chwarter 1 ar y Strategaeth Fasnachol. Rhoddwyd trosolwg manwl o’r pwyntiau allweddol yng nghyswllt y Bwrdd Strategol Comisiynu a Masnachol, Profiad Cwsmeriaid, Digidol, Gr?p Swyddogion Caffael, Cynlluniau Caffael a Rheoli Contract a Strategaeth a Pholisi Caffael.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a chydnabu fod agwedd masnachol y Cyngor yn bwysig ar gyfer y weinyddiaeth hon a dywedodd y cafwyd adborth cadarnhaol ar yr hybiau cymunedol. Roedd y Dirprwy Arweinydd hefyd yn cydnabod gwaith y tîm caffael oedd yn hollbwysig wrth sicrhau gwerth am arian.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd â pherfformiad y Strategaeth Fasnachol yn ystod y cyfnod Ebrill – Mehefin 2021 fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).

 

18.

Perfformiad Absenoldeb Salwch 2020/21 pdf icon PDF 770 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

PERFFORMIAD ABSENOLDEB SALWCH 2020/21

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad sy’n amlinellu perfformiad absenoldeb salwch ar gyfer 2020/21, y camau gweithredu parhaus i gefnogi gwelliannau mewn presenoldeb ac yn cydnabod presenoldeb cadarnhaol mwyafrif y gweithlu. Dywedwyd fod ffigur all-dro cyffredinol diwedd y flwyddyn ar gyfer y Cyngor o 11.67 diwrnod fesul gweithiwr cyflogedig llawn-amser (9.98 diwrnod yn eithrio salwch COVID-19). Mae hyn yn ostyngiad o all-dro y flwyddyn flaenorol o 13.91 diwrnod (13.48 diwrnod ac eithrio salwch COVID-19). Dywedodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol fod yr all-dro yn fwy na’r targed a osodwyd o 10.50 diwrnod. Ychwanegwyd pan eithriwyd absenoldeb salwch yn gysylltiedig â COVID-19, bod y ffigur all-dro yn gostwng i 9.98 diwrnod sydd yn ostyngiad cyffredinol o 3.93 diwrnod gan ddod â’r ffigur alldro o dan y targed corfforaethol. Ychwanegodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod ffigurau Chwarter 1 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn dangos cynnydd mewn salwch a deellir bod Cynghorau eraill yn profi tueddiad tebyg mewn perfformiad.

 

Cydnabu’r Dirprwy Arweinydd yr heriau o fewn y gweithlu a brofwyd ym mhob Cyngor oherwydd y pandemig. Teimlai’r Dirprwy Arweinydd fod cofnodi a monitro cadarn ar salwch yn hollbwysig yn ogystal â chefnogaeth i iechyd a llesiant staff.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r camau gweithredu parhaus i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro – Addysg

19.

Gwasanaethau Addysg – Prif Adroddiad Hunanarfarnu pdf icon PDF 586 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chydnabod fod hunanarfarnu effeithlon yn broses barhaus (Opsiwn 1).

 

20.

Deilliannau Hunanarfarnu Diogelu pdf icon PDF 316 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Adfywio a Datblygu Economaidd

21.

Adroddiad Perfformio Adfywio a Datblygu pdf icon PDF 494 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Chymunedol fod yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o weithgareddau a wnaed ar draws Blaenau Gwent a thynnodd sylw at waith sy’n mynd rhagddo o amgylch tai, sgiliau, menter ac ynni.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd y gwaith cadarnhaol a wnaethpwyd ar draws y Cyngor dros y 12 mis diwethaf, yn neilltuol y Tîm Adfywio sydd wedi gweithio’n dda i gefnogi ac annog busnesau i Flaenau Gwent drwy gydol y cyfnod heriol hwn. Dymunai’r Dirprwy Arweinydd ddiolch i’r Tîm am y gwaith a gyflawnwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).

 

22.

Diweddariad cynnydd ar y Cynllun Datgarboneiddio pdf icon PDF 592 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai hwn oedd yr adroddiad cynnydd cyntaf ers mabwysiadu Cynllun Datgarboneiddio y Cyngor. Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad ac amlinellu’r cynnydd a wnaed ynghyd â chamau gweithredu y Bwrdd. Roedd y Cyngor wedi gwneud cynnydd da ond mae’n dal i fod gwaith sylweddol i’w wneud i oresgyn yr heriau a gyflwynwyd gan newid hinsawdd.

 

Yn nhermau’r camau nesaf, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr y cynhelir mwy o asesiadau parodrwydd ar y trosiannu sydd ar ôl. Rhagwelwyd y caiff yr holl asesiad parodrwydd ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac y caiff cynnydd ar y camau gweithredu a gytunwyd ei fonitro drwy broses cynllunio busnes bresennol y Cyngor ar sail barhaus gyda diweddariadau ar sail chwarterol. ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y Cyngor mewn sefyllfa dda i ymateb i adroddiadau Sero Net Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol.

 

Dywedodd ymhellach mai Blaenau Gwent yw’r ardal gyntaf yng Nghymru i gynnal Cynulliad Hinsawdd a chyfeiriodd at y sesiwn wybodaeth a gynhaliwyd i aelodau a’r ymrwymiad a roddwyd i gyhoeddi ymateb y Cyngor i’r canfyddiadau. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo a rhoddir adroddiad arno i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Pwyllgor Craffu maes o law. Mae’r Cyngor hefyd yn cymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu’r ymateb a roddwyd i’r Cynulliad Hinsawdd ar ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chaiff hynny ei gwblhau yn yr hydref eleni.

 

Tanlinellodd y Dirprwy Arweinydd bwysigrwydd newid hinsawdd a dywedodd fod yr adroddiad yn ein helpu i ddeall y gwaith a wnaed hyd yma a gwaith pellach i gael ei gyflawni. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y mater hwn yn broblem fyd-eang a theimlai y byddai Blaenau Gwent yn chwarae ei ran. Mae’r gwaith a wnaed hyd yma yn rhoi’r Awdurdod mewn sefyllfa dda i chwarae ein rhan hanfodol mewn newid hinsawdd a datgarboneiddio. Mae llawer o waith i gael ei wneud yn ein cymunedau ac mae angen i ni fel Aelodau Etholedig i chwarae rhan yn y gwaith hwn i gynorthwyo i ostwng ôl-troed carbon Blaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad hwn ynghyd â’r cynnydd a wnaed fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

23.

Diweddariad ar Strategaeth i Ostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal pdf icon PDF 1021 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ar Strategaeth Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod strategaeth newydd yn ei lle ar gyfer 2020-2025, fodd bynnag mae’n cynnwys amcanion y strategaeth flaenorol, gyda chamau gweithredu ychwanegol yn dilyn yr adolygiad annibynnol gan Brifysgol Caerwrangon.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Llywodraeth Cymru wedi dweud fod gostwng y nifer y plant sy’n dod i ofal yn flaenoriaeth ac fel canlyniad gellid cael mynediad i arian gofal integredig i fuddsoddi a datblygu gwasanaethau i ostwng yn ddiogel y nifer o blant sy’n dod i ofal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hyn wedi galluogi’r Cyngor i gyllido cynadleddau grwpiau teulu, cefnogi gwarcheidwaid arbennig a chynyddu adnoddau i’n Tîm Cefnogi Newid a Gwasanaeth Cyfryngu Pobl Ifanc.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach effaith y tîm ar y cyd gyda Sir Fynwy sydd wedi arwain at danwariant sylweddol yn ein cyllideb preswyl plant ar ddiwedd 20/21. Roedd hyn oherwydd gwaith caled Tîm

 

Fy Nghefnogaeth a’r Tîm 14+ oedd wedi gweithio i ostwng nifer y plant sy’n dod i ofal preswyl ac wedi gweithio i atal plant rhag mynd i ofal preswyl. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gostyngiad mewn niferoedd a dywedodd mai nifer heddiw oedd 12. Cyfeiriwyd ymhellach at y gwaith a wnaed a dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai nifer y plant sy’n derbyn gofal gennym yn 189. Er y gallai’r ffigurau hyn newid ar unrhyw amser, mae’r tueddiad yn parhau ar i waered yn y cyfeiriad cywir,

 

I gloi, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nifer y swyddi gwag yn y tîm sy’n gwneud  y ffigurau hyd yn oed yn fwy hynod ac yn dangos gwaith rhagorol staff Blaenau Gwent. Mae’r adroddiad yn cadarnhaol ac yn dangos cynnydd parhaus y strategaeth a’r effaith gadarnhaol ar gyfer plant a theuluoedd Blaenau Gwent ac yn galluogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd pan oedd yn ddiogel gwneud hynny yn ogystal â gostwng y pwysau ar y gyllideb.

 

Croesawodd Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a dymunai ddiolch i staff Gwasanaethau Cymdeithasol am eu cyfraniad rhagorol wrth ostwng y nifer o blant sy’n derbyn gofal ym Mlaenau Gwent. Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cydnabod gwaith Blaenau Gwent lle profodd y strategaeth gostwng yn ddiogel y nifer o blant wedi profi’n llwyddiannus.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol hefyd fod heddiw 187 o blant yn derbyn gofal ym Mlaenau Gwent, sy’n ostyngiad pellach ers ffigur dydd Llun a adroddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).