Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 21ain Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau..

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau

 

 

Cofnodion

4.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 339 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 356 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

6.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 382 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD y dyid cyflwyno Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2021-2022 y Pwyllgor Gweithredol i’r Pwyllgor Gweithredol ym mis Gorffennaf.

 

7.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prirf Swyddog Adnoddau.

 

Derbyniwyd y grantiau dilynol ar ôl cyhoeddi’r adroddiad:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Abertyleri – Cynghorydd N. Daniels

 

1

Clwb Rygbi Old Tyleryans

£100.00

2.

Clwb Pêl-droed Abertillery Belles

£100.00

3.

Rhandiroedd Stryd Bishop

£70.00

4

Rhandiroedd Stryd Adam

£70.00

5.

Clwb Pêl-rwyd H?n Abertyleri

£70.00

6.

Pêl-rwyd Iau Tillery Dragons

£70.00

7.

Clwb Rygbi Abertyleri BG

£100.00

8.

Clwb Criced Abertyleri

£100.00

9.

Band Tref Abertyleri

£100.00

10.

Clwb Pêl-droed Abertillery Bluebirds

£100.00

11.

Orffews Menywod Abertyleri

£70.00

12.

Clwb Pêl-droed Abertillery Excelsiors

£100.00

13.

Clwb Pêl-droed  Abertillery Excelsiors

£100.00

14.

Côr Ebwy Fach

£70.00

 

Ward Llanhiledd – Cynghorydd N. Parsons

 

1

Clwb Bowls Llanhiledd a’r Cylch

£100.00

2.

Clwb Pêl-droed Abertillery Excelsiors

£100.00

 

Ward Six Bells – Cynghorydd D. Hancock

 

1

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Six Bells

£100.00

 

GLYNEBWY

 

Ward Beaufort – Cynghorwyr G. Thomas a S. Healy

 

1

Apêl Elusennol Cadeirydd y Cyngor

£100.00

2.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Beaufort

£500.00

3.

WOAP Raglan Terrace

£100.00

4.

Cymdeithas Pyllau a Choetiroedd Rhiw Beaufort

£100.00

5.

Côr Meibion Beaufort

£150.00

6.

Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort

£150.00

7.

Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy

£100.00

 

Ward Cwm – Cynghorwyr G. Davies a D. Bevan

 

1

Pwyllgor Goleuadau Cwm

£500.00

2.

Sefydliad Newydd Cwm

£500.00

3.

Cymdeithas Da Byw Cwm

£200.00

4.

Clwb Bocsio Cwm

£200.00

5.

Sgowtiaid Cwm

£200.00

6.

Clwb Codi Pwysau Cwm

£200.00

7.

TKs a Gr?p Cymunedol

£300.00

8.

Clwb Colomennod Cwm

£200.00

9.

Apêl Pabi Lleng Brydeinig Cwm

£200.00

10.

Cymdeithas Rhiani ac Athrawon Ysgol Gynradd Cwm

£200.00

11.

Digwyddiadau Waunllwyd a Victoria

£500.00

12.

Clwb Pensiynwyr Waunllwyd

£300.00

13.

Clwb Ieuenctid a Chymunedol Waunllwyd

£300.00

14.

Adran Iau Clwb Pêl-droed RTB

£200.00

15.

Eglwys Bedyddwyr Tirzah

£100.00

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr

adroddiad a’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

8.

Strategaeth Gweithlu 2021-2026 pdf icon PDF 478 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad, sy’n rhoi cyfle i’r Pwyllgor Gweithredol ystyried a herio drafft Strategaeth Gweithlu 2021-2026. Amlinellodd y Swyddog brif bwyntiau yr adroddiad a chyfeiriodd at Atodiad 1 sy’n rhoi manylion y Ddrafft Strategaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, cadarnhawyd y caiff y cynllun gweithredu ei fonitro drwy Trosolwg Corfforaethol a’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd hefyd sut y byddai cysondeb ymgysylltu â’r gweithlu yn cael ei fonitro. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y byddai ffocws y flwyddyn gyntaf ar weithio ystwyth a bod cynllun ymgysylltu neilltuol i gefnogi hyn. Mae hyn yn cynnwys gweminarau ar gyfer rheolwyr a gweithdai i ennyn diddordeb staff – byddai’r prosesau yn cael eu monitro/trafod gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol. Mae hefyd Gynllun Cyfathrebu Corfforaethol sy’n cynnwys elfen neilltuol ar gyfer staff. Ychwanegodd y Swyddog y byddai’r prosesau yn parhau i gael eu hadolygu ac  y byddai adolygiad blynyddol o’r trefniadau gweithio ystwyth a fyddai’n cynnwys  y gweithlu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi’r drafft Strategaeth Gweithlu 2021-2026 cyn ei chyflwyno i’r Cyngor i’w chymeradwyo (Opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

9.

Buddsoddiad Bwrdeisiol Cymunedol pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Rhoddodd y Pennaeth Adfywio drosolwg manwl o’r adroddiad sy’n ceisio  cymeradwyaeth i symud ymlaen â Buddsoddiad Ynni Cymunedol fel offeryn ariannol i gyllido seilwaith cynhyrchu ynni carbon isel a thechnoleg i ddarparu ynni a gwres i breswylwyr a busnesau Blaenau Gwent.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a nododd mai hwn oedd cam cyntaf y peilot ac y cyflwynir adroddiadau pellach dros gyfnod i hysbysu’r Pwyllgor Gweithredol sut mae’r rhaglen yn mynd yn ei blaen. Dywedodd yr Aelod Gweithredol mai ynni oedd un o’r costau mwyaf i breswylwyr a busnesau a bod y peilot hwn yn anelu i ostwng y gorbenion hyn, felly roedd y buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a sut y cynhyrchir ynni yn allweddol i’r Awdurdod. Mae hwn yn gyfle buddsoddiad rhagorol i breswylwyr a busnesau a gobeithiai’r Aelod Gweithredol y byddai’r prosiect yn sicrhau arbedion ynni yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef symud ymlaen gyda lansio Bond Cymunedol:-

 

a)    Symud ymlaen gyda phrosiect SocialRes a gweithio tuag at ddatblygu cynnig Bond Cymunedol.

b)    Byddai hyn yn cynnwys cynnal diwydrwydd dyladwy dechreuol o’r cytundebau cyfreithiol a’r dull gweithredu cyffredinol ond mae digonedd o gyllid ar gael er mwyn cynnal y gwerthusiad sydd ei angen.

c)    Drwy ddilyn Opsiwn 1, byddai’r Cyngor yn cael mynediad i fuddsoddiad ariannol am gost is i gefnogi gyda datblygu’r prosiectau yn yr arfaeth a amlinellir ym Mhrosbectws Ynni 2019.

d)    Gellid defnyddio hyn i gymryd lle neu wrth ochr cyllid y Bwrdd Benthyca Gweithiau Cyhoeddus (PWLB). Gellid ystyried cynigion bond pellach yn y dyfodol os yw’r cynllun peilot yn llwyddiannus.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

10.

Polisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 425 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r drafft bolisi fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).

 

11.

Trosglwyddo Asedau Cymunedol – Cae Deighton a Gerddi Sirhywi, Tredegar – Cyngor Tref Tredegar pdf icon PDF 425 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chaniatáu trosglwyddo’r ddwy ardal ar brydles 99-mlynedd heb unrhyw gymal torri (Opsiwn 3).

 

12.

Anifeliaid Crwydrol pdf icon PDF 560 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol drosolwg manwl o’r adroddiad a soniodd am broblemau gydag anifeiliaid sy’n crwydro o fewn y Fwrdeistref Sirol. Amlinellodd faint y broblem a’r mannau lle caiff problemau eu hadrodd yn gyson. Cyfeiriodd hefyd at y Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd ar y cyd gyda swyddogion a rhanddeiliaid i ddatrys digwyddiadau. Dywedwyd fod yr adroddiad yn un aml-adrannol a bod y Cynllun Gweithredu yn nodi’n glir y rhai sy’n gyfrifol am bob cam gweithredu.

 

Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol wedi cefnogi Opsiwn 2 a chododd bwyntiau a gynhwyswyd yn y Cynllun Gweithredu. Roedd y Pwyllgor Craffu hefyd wedi gofyn am adroddiad ar y goblygiadau cost er mwyn monitro costau’r cynllun.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol mai datganiad safleoliad yw hwn, man dechrau ymgais i ddatrys problemau anifeiliaid sy’n crwydro ar draws y Fwrdeistref.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu yn awyddus i gymryd rhan yn y broses ac er na chynhaliwyd cyfarfodydd ffurfiol oherwydd y pandemig, dywedodd yr Aelod Gweithredol ei fod wedi cwrdd yn answyddogol gydag unigolion i drafod gwahanol bryderon. Mae’r cyfarfodydd hyn yn allweddol ac mae’r Aelod Gweithredol yn awyddus i ailddechrau cyfarfodydd gydag Aelodau yn y dyfodol.

 

Nododd yr Arweinydd fod y Pwyllgor Gweithredol wedi ymwneud â’r Gweithgor a gwyddai am y gwaith da sy’n mynd rhagddo ar draws y Cyngor a chroesawodd ymrwymiad yr Aelod Gweithredol i fynd i’r afael â’r problemau hyn.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a nododd fod y pryderon yn cael eu codi’n gyson gan breswylwyr. Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y cynllun gweithredu ac ymrwymiad yr Aelod Gweithredol.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gyda’r sylwadau a wnaed a diolchodd i Aelod Gweithredol yr Amgylchedd ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt anifeiliaid sy’n crwydro ar draws Blaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyodd y Pwyllgor Gweithredol argymhellion am newidiadau i’r dull gweithredu/Cynllun Gweithredu  fel y nodir yn yr adroddiad (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

13.

Adroddiad Cyllid a Pherfformiad Diwedd Blwyddyn 2020/21 pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol at drafodaethau diweddar yn y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yng nghyswllt absenoldeb salwch. Dymunai’r Swyddog roi diweddariad ar y ffigur diwedd blwyddyn sef 11.67 diwrnod fesul gweithiwr cyflogedig, gostyngiad o 2.24 diwrnod fesul gweithiwr cyflogedig o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn sefyllfa well. Ychwanegodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol, pe tynnid salwch cysylltiedig â Covid-19 o’r ffigur, y byddai’n 9.98 diwrnod fesul gweithiwr cyflogedig, gostyngiad pellach o 1.69 diwrnod. Ychwanegodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y cyflwynir adroddiad yn adolygu perfformiad absenoliaeth salwch i’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol yn yr Hydref.

 

Nododd yr Arweinydd y gwelliant mewn perfformiad, fodd bynnag mae cynnydd pellach i’w wneud a gofynnodd sut y gallai’r Pwyllgor Gweithredol gael sicrwydd fod dull cyson i fonitro absenoliaeth salwch.

 

Mewn ymateb, dywedwyd y cyflwynir adroddiadau monitro chwarterol i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol ac y caiff yr adroddiadau hyn wedyn eu hystyried yn y Cyfarfodydd Adrannol perthnasol. Cafodd lefelau salwch eu hadolygu’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae cydweithwyr Datblygu Sefydliadol wedi cynorthwyo rheolwyr yn y broses. Awgrymodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y byddai monitro a chysondeb yn rhan o’r adroddiad ar absenoliaeth salwch.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y caiff absenoldeb salwch ei fonitro’n chwarterol gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol i sicrhau y cymerir dull gweithredu cyson, yn arbennig yng nghyswllt absenoldeb hirdymor. Gobeithiai’r Rheolwr Gyfarwyddwyr y gellid gwneud gwelliannau yn y dyfodol i wella absenoliaeth salwch ymhellach ar draws y sefydliad.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ymhellach at yr adroddiad sy’n rhoi manylion perfformiad diwedd blwyddyn a dywedodd na fu blwyddyn debyg i hon. Roedd y pandemig wedi effeithio’n ddifrifol ar yr Awdurdod yn Chwarter 1 gyda newidiadau mawr ar gyfer staff ac ysgolion. Dymunai ddiolch i’r holl staff oedd wedi dangos ymrwymiad rhagorol yn ystod y pandemig. Cyfeiriodd hefyd at y partneriaethau cryf a ffurfiwyd gyda’r Ymddiriedolaeth a Tai Calon yn ogystal ag yn ehangach ar draws Gwent. Gobeithid y byddai’r partneriaethau hyn yn parhau.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau a wnaed a mynegodd ddiolch i bawb ar draws y sefydliad. Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at ba mor gyflym y gwnaed y newidiadau a gobeithid y byddai’r cyflymder hwn hefyd yn parhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Adfywio a Datblygu Economaidd

14.

Datblygu Model Ynni Busnes i alluogi Parciau Busnes i sicrhau Canlyniadau Sero Net pdf icon PDF 850 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.

 

15.

Adferiad Covid-19 – Yr Economi pdf icon PDF 434 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo unrhyw lwybrau ychwanegol o ymgysylltu a/neu gamau gweithredu (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd

16.

Cynllun Rheoli Risg Llifogydd (2016-2022) pdf icon PDF 470 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wnaed dros y 12 mis blaenorol (Opsiwn 1).

 

17.

Adroddiad Cynnydd ar Ansawdd Aer Lleol pdf icon PDF 508 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi cynnwys Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yng nghyswllt y monitro parhaus a’r adolygiad cyfredol o ansawdd aur o fewn Blaenau Gwent gan Adran Iechyd yr Amgylchedd i gyflawni dyletswyddau statudol yr Awdurdod gan gydymffurfio gyda Rhan IV Deddf yr Amgylchedd 1995.

 

Eitemau Monitro – Addysg

18.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, y dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a gynigir (Opsiwn 1).

 

19.

Perfformiad a Monitro Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin pdf icon PDF 443 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau berfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac eglurodd drefniadau monitro perfformiad y dyfodol fydd yn ei lle rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Cyngor. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y gwaith a gafodd flaenoriaeth ers mis Ebrill a’r ymateb i Covid-19. Yn nhermau perfformiad monitro, cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth y Pwyllgor Gweithredol at y cerdyn sgorio gweledol a ddatblygwyd gan yr Ymddiriedolaeth. Byddai’r trefniadau adrodd presennol ynghyd â’r strwythur llywodraethiant newydd yn sicrhau fod perfformiad yr Ymddiriedolaeth yn dryloyw ac atebol. Cyflwynir yr adroddiadau i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol, y Pwyllgor Craffu, y Pwyllgor Gweithredol a’r Cyd-gr?p Partneriaeth Strategol ar sail chwe misol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach fod y berthynas waith rhwng y Cyngor ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin wedi gwella’n fawr yn ystod cam 2 yr adolygiad. Roedd y berthynas waith gadarnhaol hon wedi parhau i wella drwy gydol y cyfnod clo i’r cyfnod ail-agor. Cafodd hyn ei gyfoethogi drwy’r cyfarfodydd strwythuredig wythnosol rhwng y swyddog cyswllt ac uwch reolwyr yn yr Ymddiriedolaeth yn ystod chwe mis cyntaf y cyfnod clo.

 

Rhoddodd yr Arweinydd groeso i Mr P. Sykes, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i’r Pwyllgor Gweithredol a chroesawodd Mr. Sykes y trefniadau gwaith rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Addysg.

 

Dymunai’r Aelod Gweithredol Addysg ddiolch i’r Ymddiriedolaeth am eu gwaith caled a’u cefnogaeth i’r Cyngor yn y 18 mis diwethaf. Mae’r Aelod Gweithredol yn edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas gyda’r Ymddiriedolaeth wrth i’r Cyngor a’r Ymddiriedolaeth symud ymlaen i drefniadau gwaith sy’n fwy fel busnes fel arfer.

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a chanmolodd yr Ymddiriedolaeth am y gwaith gan fod y cyfleusterau yn y canolfannau chwaraeon, y llyfrgelloedd a’r canolfannau addysg oedolion yn rhagorol. Croesawodd Arweinydd y berthynas waith well rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth , sy’n enghraifft o weithio partneriaeth cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd â’r perfformiad blynyddol a’r cynigion ar gyfer trefniadau adrodd yn y dyfodol (Opsiwn 1).

 

20.

Rhaglen Gwella Ysgolion 2021 pdf icon PDF 376 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o’r ysgolion a gafodd eu harolygu, yn cynnwys ysgolion oedd wedi cyflwyno fel achos consyrn, eu cynnydd a’r gwaith a gyflawnwyd neu sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i barhau i gefnogi eu gwelliant.

 

Nododd y Pennaeth Gwellla Ysgolion y broses ar  gyfer categoreiddio ysgolion nad oedd wedi digwydd ers 2020 a chyfeiriodd at Atodiad 1 sy’n dynodi’r cynnydd sylweddol a wnaed mewn ysgolion yn ddiweddar.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Addysg y cynnydd a wnaed yng nghyswllt ysgolion oedd yn achosi cynnydd. Bu cynnydd cadarnhaol yn Ysgol Gynradd Sofrydd, Cymuned Ddysgu Abertyleri ac Ysgol Sefydliadol Brynmawr a theimlai’r Aelod Gweithredol fod y camau a gymerwyd yng nghyswllt Canolfan yr Afon yn fwy na phriodol ar y cam hwn.

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed oedd yn adleisio trafodaethau gyda’r EAS yn nhermau ysgolion ym Mlaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

21.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 638 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar  cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol at yr adroddiad sy’n rhoi perfformiad diogelu yn ystod 12 mis cyntaf y pandemig a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor Gweithredol fod y broses ddiogelu ac ymweliadau wedi parhau drwy gydol y pandemig i sicrhau fod plant yn cael eu cadw mor ddiogel ag sydd modd, yr un fath â phob blwyddyn arall.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r dull gweithredu a’r wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

22.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

23.

Canolfan Gweithrediadau – Diweddariad ar y Prosiect ac Achos Busnes Amlinellol

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cadw’r eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol busnes/personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 fel y’i manylir yn yr adroddiad.

 

 

24.

Gwaith Ychwanegol Cynnal a Chadw Priffyrdd 2021 – 2022

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cadw’r eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol busnes/personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 fel y’i manylir yn yr adroddiad.