Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 16eg Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw ceisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Prif Swyddog Adnoddau.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 441 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2021. 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 373 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

6.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y caiff holl gyfarfodydd y dyfodol eu cynnal am 10.00am.

 

7.

Cynadleddau, Cyrsiau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 362 KB

Ystyried cynadleddau, cyrsiau, digwyddiadau a gwahoddiadau.

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd y derbyniwyd y gwahoddiad dilynol:-

 

Digwyddiad Darlledu y Fyddin – 9 Mehefin 2021

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog i fynychu.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

8.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 382 KB

Ystyried Blaenraglen Waith arfaethedig y Pwyllgor Gweithredol ar gyfer 2021-22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ei gadael allan o’r agenda ac felly caiff ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno’r Blaenraglen Waith 2021-2022 y Pwyllgor Gweithredol i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf.

 

9.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 114 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Adroddwyd y grantiau ychwanegol dilynol i sefydliadau:-

 

                ABERTYLERI

                Ward Llanhiledd – Cynghorydd L. Parsons

 

1

Clwb Pêl-droed Abertyleri

£100

 

Ward Six Bells – Cynghorydd D. Hancock

1

Clwb Rygbi Old Tyleryan

£100

 

 

 

BRYNMAWR

Ward Brynmawr – Cynghorydd J. Hill

1.

Karabo Gwet (Canslo)

-£150

 

GLYNEBWY

Ward y Gogledd Glynebwy – Cynghorydd D. Davies,

R. Summers a P. Edwards

 

1.

Clwb Rygbi Mini a Iau Glynebwy

£200

2.

Sêr Ifanc Blaenau Gwent

£200

3.

Cymdeithas Pensiynwyr Hill Top

£200

4.

Showstoppers

£200

5.

Ysgol Dawns a Drama Toppers

£100

6.

Clwb Gweithgareddau Integredig Cymoedd Gwent

£200

7.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Drenewydd

£200

8.

Apêl Goleuadau Nadolig Glynebwy

£300

9.

Fforwm Busnes Glynebwy

£300

10.

Cyngor Sgowtiaid Ardal Blaenau Gwent

£200

11.

Gr?p Cefnogi Awtistiaeth One Life

£200

12.

Banc Bwyd Blaenau Gwent

£200

13.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Hill Top

£200

14.

Canolfan Cyswllt Plant Glynebwy

£200

15.

Clwb Pêl-droed RTB Glynebwy

£100

16.

Ymddiriedolaeth Archif Gwaith Glynebwy

£100

17.

Clwb Pêl-droed Iau Glynebwy

£100

18.

Apêl y Cadeirydd

£100

19.

Bowls RTB Glynebwy

£100

20.

Eglwys Bedyddwyr Providence

£200

21.

Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Hilltop

£200

22.

PTFA Ysgol Gynradd Gymunedol Trehelyg

£200

23.

N2T Youth

£100

24.

Clwb Operatig Glynebwy

£100

 

TREDEGAR

 

Ward Sirhywi – Cynghorydd B. Thomas

1.

Cymdeithas Operatig Tredegar

£200

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a’r wybodaeth

a gynhwysir ynddo.

 

 

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

10.

Mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon pdf icon PDF 601 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i fabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon y Cyngor ar gyfer 2021-2026. Croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr adroddiad gan y gwnaed gwelliant sylweddol i ostwng sbwriel ar strydoedd ar draws y Fwrdeistref a byddai’r Strategaeth yn cryfhau symud ymlaen gyda’r gwaith hwn dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol – yr Amgylchedd yr adroddiad .gyda phawb yn uniaethu gyda’r problemau a nodwyd yn adroddiad gan y derbynnir cwynion niferus bob dydd am sbwriel a thipio anghyfreithlon. Roedd yn gynllun newydd a Blaenau Gwent oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu strategaeth ar Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon sy’n tynnu nifer o feysydd ynghyd. Cydnabuwyd y gwaith a wnaed hyd yma a gwaith ardderchog y llu o Hyrwyddwyr Sbwriel ar draws Blaenau Gwent.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod y strategaeth yn cryfhau’r ymrwymiad presennol a roddwyd gan y weinyddiaeth ar lanweithdra ein hardal a’r Fwrdeistref. Byddai’r strategaeth yn edrych ar wahanol ffyrdd i ddynodi’r achosion sylfaenol a chanfod beth fwy y gellid ei wneud. Nododd yr Aelod Gweithredol bwysigrwydd monitro cynnydd yn y dyfodol a nododd y cynllun gweithredu sy’n rhoi manylion y nodau hirdymor a thymor byr. Byddai’r Strategaeth yn parhau i esblygu ac mae’r Aelod Gweithredol yn edrych ymlaen at gael golwg ar adroddiadau cynnydd a allai fod a mewnbwn ar gyfer y rhanddeiliaid allweddol pwysig sy’n rhan o’r broses.

 

I gloi, dymunai’r Aelod Gweithredol ddiolch i Cadw Cymru’n Daclus am eu cefnogaeth a groesawyd a dywedodd y cafodd yr adroddiad hefyd ei gefnogi gan y Pwyllgor Craffu.

 

Croesawyd yr adroddiad hefyd gan yr Aelod Gweithredol – Datblygu Economaidd ac Adfywio a chytunodd ei fod yn adroddiad pwysig lle roedd gan Aelodau Etholedig, y Cyngor a’n hetholwyr gyfle i chwarae eu rhan.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon 2021-2026 Blaenau Gwent (Opsiwn 1).

 

 

11.

Rhaglen Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2021 – 2022 pdf icon PDF 552 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi manylion tri maes yn nhermau gwaith priffyrdd. Mae’n rhoi diweddariad ar gynnydd rhaglen bresennol Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2017-2021, gwelliannau a wnaed dros y blynyddoedd ac yn nodi’r opsiynau o amgylch buddsoddiad 2021-22 yn rhwydwaith priffyrdd yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd swm cyfalaf o £2.115m ei gynhyrchu o fenthyciad darbodus 20 mlynedd yn seiliedig ar gyfraniadau refeniw o £130k y flwyddyn. Amcangyfrifwyd fod gwerth amnewid crynswth proffesiynol y Rhwydwaith Priffyrdd yn £1.093 biliwn a dyma ased sylweddol fwyaf gwerthfawr yr Awdurdod. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad sy’n cynnwys y dilynol:-

 

·         Rhwydwaith

·         Rhaglen Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2021-22 – Blaenoriaethau ac Opsiynau

·         Rhaglen ychwanegol o Weithiau Priffyrdd a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru 2021/2022

·         Refeniw Diogelwch Ffordd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

·         Cronfa Teithio Llesol

 

I gloi, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol at yr opsiynau ar gyfer argymhelliad a nodi’r opsiwn a ffafrir.

 

Croesawodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad a dywedodd fod hyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y weinyddiaeth hon a ffurfio’r ymrwymiad cyfredol ar gyfer uwchraddio ffyrdd preswyl. Mae’r adroddiad yn dynodi’r gwelliannau a wnaed eisoes yn Rhwydwaith Priffyrdd yr Awdurdod, a chroesawyd hynny.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar ffyrdd preswyl, Ffyrdd Blaenoriaeth A a B a diogelwch priffordd (Opsiwn 2) fel sy’n dilyn:-

 

Ffyrdd Blaenoriaeth A a B

A4048 Gwaith adeiladu llawn A4048 Heathfield

A4046 Wyneb newydd ar Ffordd Osgoi Cwm

 

Gwaith Rheoli Traffig Diogelwch Priffyrdd

Gosod Rhwystr Diogelwch newydd ar A4281 Garnlydan

Gosod Rhwystr Diogelwch newydd ar yr A467 Abertyleri

 

Ffyrdd Preswyl: (16 cynllun – 1 ym mhob Ward)

Southend a Stryd Walter, Georgetown

Heol Mount Pleasant, Gogledd Glynebwy

Teras Institution, De Glynebwy

Teras Maes-y-Cynw, Llanhiledd

Heol Jiwbilî a Heol Graig, Six Bells

Stryd Powell a Stryd Fawr (adran), Abertyleri

Stryd Coroni, Blaenau

Stryd De a Stryd Henffordd, Beaufort

Cilgant Aneurin, Brynmawr

Stryd Brenin, Cwm

Teras Rheilffordd, Sirhywi

Lôn Stabl a Parkville, Tredegar Canol a Gorllewin

Heol Ysgol, Rasa

Waunheulog, Nantyglo

Stryd Victoria, Cwmtyleri

Cylchfan Rhyd y Blew, Badminton

Wyneb newydd ar Stad Ddiwydiannol Blaenant

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

12.

Polisi Trefniadaeth Ysgolion (2021/24) pdf icon PDF 299 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corrfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn rhoi manylion yr adolygiad o’r Polisi Trefniadaeth Ysgolion (2021-24) a gofynnodd am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cynigid mabwysiadu’r polisi diwygiedig a’i weithredu o ddechrau blwyddyn academaidd newydd 2021/22. Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach am yr adroddiad ac amlinellu blaenoriaethau allweddol am drefniadaeth ysgolion a’r broses cynllunio fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg hefyd y cynigion sylweddol llwyddiannus am drefniadaeth ysgolion a rhoddodd drosolwg manwl o’r deilliannau a gyflawnwyd fel rhan o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif hyd yma. Nodwyd y gwnaed cynnydd cadarn ac mae’r blaenoriaethau ar y llwybr ar gyfer 2021/2022.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol yr adroddiad sy’n amserol o gofio am effaith Covid-19. Nododd yr Aelod Gweithredol y diwygiadau i’r polisi a blaenoriaethau strategol fel a amlinellir gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol sy’n gywir wrth adlewyrchu cyfeiriad Addysg yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y newidiadau a gynigir i Bolisi Trefniadaeth Ysgolion 2021 Blaenau Gwent (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

13.

Monitro Perfformiad Chwarterol y Strategaeth Fasnachol pdf icon PDF 594 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Nododd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n amlinellu adroddiad monitro perfformiad Chwarter 4 y Strategaeth Fasnachol. Cyflwynwyd yr adroddiad fel eitem fonitro, er ei bod yn dangos llawer iawn o waith da yn nhermau comisiynu strategol ar y ganolfan cyswllt a bod agweddau o’r ganolfan cyswllt a fyddai’n bwysig i Aelodau, yn neilltuol o amgylch y gwasanaeth ‘Allan o’r T?’, y Timau Ymateb Ardal sydd wedi gwneud llawer iawn o waith gwerthfawr iawn dros y cyfnod diwethaf ac yn wir y rhaglen ddigidol a fyddai’n hollbwysig wrth i’r Awdurdod barhau i symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diweddariad cynnydd chwarter 4 ar y Strategaeth Fasnachol (Opsiwn 1).

 

14.

Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol – Diweddariad Chwarterol pdf icon PDF 424 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr adroddiad sy’n rhoi manylion diweddariad Chwarter 4 y Strategaeth Cyfathrebu. Nododd yr Arweinydd fod yr adran Cyfathrebu yn dal i ganolbwyntio ar bandemig Covid-19 a theimlai fod gwaith y Tîm Cyfathrebu yn gwerthfawr yn ystod y pandemig i sicrhau fod pobl Blaenau Gwent yn derbyn gwybodaeth lawn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diweddariad chwarter 4 (Ionawr i Mawrth 2021) ar y Strategaeth Cyfathrebu (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro – Addysg

15.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Ymateb i Covid-19 pdf icon PDF 609 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr adroddiad a rhoi trosolwg o’r ymateb presennol, o ymateb Addysg a hefyd Gorfforaethol, a roddwyd i gefnogi ysgolion yn ystod y pandemig. Mae’r adroddiad yn dangos y gweithgaredd ar gyfer tymhorau’r hydref a’r gwanwyn a dywedodd y byddai angen cynllunio effaith ymyriad o fwy na 12 mis ar gyfer dysgwyr yn y cyfnodau byr, canolig a hir i sicrhau datblygiad a chynnydd.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cyngor wedi sefydlu fframwaith adferiad corfforaethol y rhoddir ei fanylion yn Atodiad 2 yr adroddiad a byddai is-gr?p dan arweiniad y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant yn rhan allweddol o’r gwaith hwn. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol brif flaenoriaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg yng nghynllun busnes EAS. Mae’r Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried Adolygiad Thematig Estyn yn flaenorol ac wedi rhoi trosolwg cadarnhaol o ymateb diogel y Cyngor wrth gefnogi ysgolion yr Awdurdod yn ystod y pandemig.

 

Roedd Aelod Gweithredol Addysg yn falch y cydnabuwyd  fod Estyn, fel rhan o’r Adolygiad Thematig, wedi cydnabod ymateb corfforaethol cryf y Cyngor wrth gefnogi ein hysgolion yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a dywedodd yr Aelod Gweithredol, fel llywodraethwr ysgol leol, fod y gwaith ar draws y Cyngor a’r gefnogaeth ychwanegol i ysgolion ar gael yn rhagorol. Roedd y llywodraethwyr ar ben eu digon gan y ffordd yr oedd staff ar bob lefel wedi ymateb. Roedd yr holl lywodraethol yn ddiolchgar am y gwaith a wnaed ar draws yr Awdurdod cyfan ac estynnodd y Cyfarwyddwr Gweithredol yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

16.

Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent, Hunanarfarnu a Chynllunio Busnes pdf icon PDF 543 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent, gyda’r pwyslais ar ‘gymorth corfforaethol’ yn parhau yn hollol ymroddedig i hunanadolygu a hunanarfarnu ac mae’r rhain yn sylfaenol wrth barhau i wella’r gwasanaethau a ddarparwn i ddysgwyr yn gyffredinol. Mae proses safonol ar gyfer a gafodd ei gwmpasu i’r gwaith dydd i ddydd, cyflwynir adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu a’r Pwyllgor Gweithredol ac mae’r holl brosesau yn gydnaws gyda fframwaith Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Estyn.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol rai enghreifftiau o ardaloedd lle gwnaed cynnydd da a lle mae angen mwy o welliannau fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Addysg y nifer fawr o ardaloedd lle gwnaed cynnydd a bod hunanarfarnu yn parhau i ganolbwyntio ar y meysydd priodol ar gyfer datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

17.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd

18.

Tir elusennol, cyn Ysgol Gymraeg, Stryd y Brenin, Brynmawr

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra trafodir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Stadau.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol drosolwg o’r adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu ymgysylltu gyda maes perthnasol Addysg.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys wybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1 a fanylir yn yr adroddiad.