Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol Prif Swyddog Interim Masnachol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Mr. R. Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol Eitem Rhif 5 – Cronfa Adnewyddu Cymunedol
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd |
|
Cronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad hwn gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol bwyntiau allweddol yr adroddiad sy’n rhoi manylion ar y sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a’r broses asesu prosiectau lleol gysylltiedig. Bydd y rhestr fer o brosiectau a gynigir yn ffurfio cais Blaenau Gwent i’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a cheisiai gymeradwyaeth i ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn y Cynnig Prosiect Cyflogadwyedd Rhanbarthol (CELT). Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd y sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a pharatoi cyflwyniad Cyngor Blaenau Gwent.
Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol hefyd drosolwg o’r trafodaethau yn y Pwyllgor Craffu Adfywio. Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd yr holl faterion o gonsyrn eu trin a chefnogwyd yr adroddiad a’r prosiectau a gyflwynwyd.
Ar wahoddiad yr Arweinydd, rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fanylion y prosiectau ar y rhestr fer yn ogystal â phrosiectau nad ydynt ar y rhestr fer.
Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt symiau a ddynodwyd i gynigion penodol, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y symiau a fanylir yn yr adroddiad ar gyfer y prosiect penodol.
Croesawodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a dymunai ddiolch i’r swyddogion a’r panel a weithiodd yn galed i sicrhau y cafodd y cynigion eu cyflwyno o fewn amserlenni tyn. Teimlai’r Aelod Gweithredol y byddai cyfle am gydweithio yn y dyfodol a gellid ymchwilio gweithio partneriaeth.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 fel y’i manylir yn yr adroddiad.
|