Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 24ain Chwefror, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiad buddiant dilynol:-

 

Cynghorydd J. Wilkins

Eitem Rhif 14

Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu a Chynllun Cyllido Ad-daladwy Canol Trefi.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 403 KB

Ystyried cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

5.

Cynadleddau, Cyrsiau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 366 KB

Ystyried cynadleddau, cyrsiau, digwyddiadau a gwahoddiadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i bresenoldeb yn y dilynol:-

 

Digwyddiad Darlledu Rhithiol Byw a sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda Thîm Ymgysylltu y Fyddin

 

Cytunwyd cymeradwyo presenoldeb y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog.

 

Seremoni Wobrwyo 2021 Arglwydd Raglaw Gwent Ei Mawrhydi

 

Cytunwyd cymeradwyo presenoldeb y Cynghorydd Mandy Moore, Cadeirydd y Cyngor a’r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

6.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 459 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor..

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

7.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

                                                                                  

Dywedodd yr Arweinydd y derbyniwyd tair grant arall gan y Cynghorydd L. Elias, Ward Brynmawr, fel sy’n dilyn:-

 

Eglwys yng Nghymru Santes Fair                              £100.00

Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair              £100.00

Ysgol Gynradd Blaen-y-cwm                        £100.00

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Derbyniwyd y grantiau ychwanegol dilynol i sefydliadau:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd M. Day

 

 

1.

Rhandiroedd Stryd yr Esgob

£100

2.

Chillax

£100

3.

Clwb Cinio Cwmtyleri

£75

4.

Sefydliad Llesiant Gweithwyr Abertyleri

£75

5.

Pêl-rwyd Iau Tillery Dragons

£75

6.

Côr Ebwy Fach

£75

7.

Eglwys Bedyddwyr Blaenau Gwent

£75

8.

Cymdeithas Coetir Gymunedol Roseheyworth & Bournville.

£75

9.

Cangen Abertyleri y Lleng Brydeinig Frenhinol

£32.28

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd J. Wilkins

 

 

1.

BGfm

£100

2.

Clwb Pêl-droed Iau Abertillery Excelsiors

£100

3.

Cyfeillion Pentref Blaenau Gwent

£100

4.

Sefydliad Llesiant Gweithwyr Abertyleri

£150

 

Ward Llanhiledd – Cynghorydd N. Parsons

 

 

1.

Sefydliad Llesiant Gweithwyr Abertyleri

£50

2.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Aber-bîg

£250

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd H. McCarthy

 

 

1.

Canolfan Gymunedol Aber-bîg

£150

2.

Canolfan Gymunedol Swffryd

£100

3.

Capel Seion, Llanhiledd

£150

4.

River Rangers

£100

5.

Cymuned New Life

£100

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd J. Collins

 

 

1.

Clwb Pêl-droed Ieuenctid Abertillery Bluebirds

£250

 

Ward Six Bells - Cynghorydd D. Hancock

 

 

1.

Clwb Bowls Six Bells

£300

2.

Clwb Bowls Dros 50 Six Bells

£100

3.

Cymdeithas Menywod Busnes a Phroffesiynol Abertyleri.

£100

4.

Clwb Pêl-droed Iau Abertillery Excelsiors

£100

5.

Clwb Pêl-droed Amatur Abertillery Excelsiors

£100

6.

Clwb Rygbi Old Tyleryan

£100

 

Ward Six Bells – Cynghorydd  M. Holland

 

 

1.

Cyfeillion Parc Six Bells

£300

2.

Clwb Dros 50 Six Bells

£100

3.

Cymdeithas Menywod Busnes a Phroffesiynol Abertyleri

£100

4.

Clwb Pêl-droed Iau Abertillery Excelsiors

£100

5.

Clwb Pêl-droed Amatur Abertillery Excelsiors

£100

6.

Clwb Rygbi Old Tyleryan

£100

 

BRYNMAWR

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd L. Elias

 

 

1.

Showstoppers

£150

2.

BGfm Radio

£150

 

Ward Brynmawr – Cynghorydd J. Hill

 

 

1.

Bedyddwyr Calfaria

£100

2.

Partneriaeth Canol Tref Brynmawr

£100

3.

Cymdeithas Amgueddfa Brynmawr a’r Cylch

£100

4.

Cyfeillion Parc Nant y Waun

£100

5.

Cymdeithas Hanesyddol Brynmawr

£100

6.

Clwb Pêl-droed Brynmawr

£100

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd W. Hodgins

 

 

1.

Clwb Pêl-droed Brynmawr

£200

2.

Eglwys yng Nghymru Santes Fair

£150

3.

Cyfeillion Parc Nant y Waun

£200

4.

Clwb Interact Ebwy Fach

£100

5.

Clwb Rygbi Brynmawr

£200

6.

Caerphilly Angling (Lakeside Brynmawr)

£150

7.

Ysgol Blaen y Cwm

£100

8.

Ysgol Gatholig Santes Fair

£100

 

GLYNEBWY

Ward Beaufort - Cynghorydd G. Thomas a S. Healy

 

 

1.

Cadeirydd Apêl Elusen y Cyngor

£100

2.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Beaufort

£500

3.

Raglan Terrace WOAP

£100

4.

Cymdeithas Cadwraeth Llynnoedd a Choetiroedd Rhiw Beaufort

£100

5.

Eglwys Fethodistaidd Bethel

£100

 

NANTYGLO A BLAENAU

Ward Blaenau - Cynghorydd L. Winnett

 

 

1.

Canolfan Gymunedol Blaenau

£150

Ward Nantyglo - Cynghorydd J. Mason & K. Rowson

 

 

1.

Ysgol Coed y Garn

£200

2.

Ysgol Bro Helyg

£200

Ward Nantyglo - Cynghorydd P. Baldwin

 

 

1.

Gr?p Sgowtiaid 1af Blaenau

£100

2.

ATC  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cyllideb Refeniw 2021/2022 pdf icon PDF 817 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYLLIDEB REFENIW 2021/2022

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg manwl o’r adroddiad a gyflwynwyd i roi diweddariad ar setliad darpariaethol cadarnhaol llywodraeth leol ar gyfer 2021/22 a’i effaith ar gyllideb y Cyngor. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gyllideb refeniw fanwl a gynigir ar gyfer 2021/22 a’r lefel a gynigir ar gyfer cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad ac amlinellu’r sefyllfa genedlaethol, sefyllfa Blaenau Gwent, y pwysau cost a’r eitemau twf ynghyd â rhaglen Pontio’r Bwlch. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at y pwysau cost a ragwelwyd gyda Covid-19 a dywedodd fod tybiaeth y byddai’r pwysau cost hyn yn parhau i gael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir y cadarnheir cyllid Covid fel rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau ymhellach at yr ymgynghoriad ar y gyllideb sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a dywedodd y bu 170 ymateb hyd yma a gytunodd mai Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Amgylchedd ddylai fod yn ffocws y gyllideb ym Mlaenau Gwent. Cytunodd mwyafrif yr ymatebwyr gyda’r incwm a gynigir mewn cyllidebau ysgol, fodd bynnag mae pryder am y cynnydd a gynigir o 4% yn y Dreth Gyngor. Mae cyfnod yr ymgynghoriad yn dal ar agor a rhoddir adborth i’r Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.

 

Soniodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a gafodd ei ystyried yn faith gan y Cydbwyllgor Craffu a chytunwyd ar y rhan fwyaf o’r argymhellion. Fodd bynnag, cynigiodd y Cyd-bwyllgor Craffu y dylai’r Cyngor ystyried lefel is o gynnydd yn y Dreth Gyngor a’r effaith gysylltiedig ar gyllideb y Cyngor.

 

Dymunai’r Arweinydd ddiolch i’r Tîm Adnoddau a deiliaid cyllideb ar ran y Pwyllgor Gweithredol an y gwaith enfawr a wnaed ar y gyllideb. Mae’n rhoi’r Awdurdod mewn sefyllfa o gefnogi nodau, uchelgeisiau a dyheadau a fyddai’n trosi i gymunedau ym Mlaenau Gwent. Teimlai’r Awdurdod nad oedd gosod y gyllideb yn dasg rwydd ac y byddid yn gwneud y gyllideb hon a chyllidebau’r dyfodol mewn ffordd wahanol i’r hyn a ragwelid yn draddodiadol, fodd bynnag yn y dyfodol mae’r ffordd hon yn effeithlon wrth osod cyllideb y Cyngor.

 

Mae’r ffordd y caiff y chyllideb ei gosod yn awr yn galluogi meddwl ymlaen llaw ar yr hyn y gallai’r Awdurdod ei wynebu a sut y byddai’r Awdurdod yn ateb yr heriau hynny. Mae’r gyllideb hon yn arddangosiad da o’r gwaith hwnnw ac yn dangos yr angen i’r swyddogion sy’n gyfrifol am wahanol feysydd cynlluniau Blaenau Gwent na ddylid bychanu pwyslais y gwaith hwn yn mynd ymlaen i 2022/23 a thu hwnt.

 

Roedd yr Arweinydd wedi gobeithio y gallai’r Awdurdod ddod allan o’r pandemig yn edrych ar rannau newydd prosiect Pontio’r Bwlch sy’n rhoi trefniadau eraill a fyddai’n cynorthwyo’r Awdurdod ar sut y caiff cyllidebau eu llunio yn y dyfodol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch i weld lefel yr adborth cyhoeddus a’r blaenoriaethau a nodwyd yw blaenoriaethau’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cynllun Buddsoddiad TGCh pdf icon PDF 562 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol, Prif Swyddog Adnoddau a’r Prif Swyddog Gweithredu (SRS).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a’r Prif Swyddog Masnachol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod yr adroddiad yn amlinellu’r set lawn o gynigion ar opsiynau buddsoddi sydd eu hangen i gadw seilwaith TGCh cadarn a chydnerth. Nododd y Prif Swyddog Interim y tri chategori – stad cyfrifiaduron desg; stad rhwydwaith a theleffoneg a’r gofrestr contractau a rhoddodd drosolwg o’r gwaith i gael ei wneud fel yr amlinellir yn yr adroddiad

 

Ar y pwynt hwn, rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg o’r costau cyfalaf a refeniw yn gysylltiedig gyda’r cynigion. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y cynigion buddsoddiad seilwaith angen buddsoddiad cyfalaf dechreuol ar draws y stadau cyfrifiaduron desg a rhwydwaith o £464,000 yn y ddwy flynedd ddiwethaf gyda buddsoddiad blynyddol o £166,000 wedi hynny.

 

Cafodd y rhaglen adnewyddu cyfrifiaduron desg diweddar ar gyfer y ddogn gyntaf ei chyllido gan gronfeydd wrth gefn, fodd bynnag nid yw hyn yn gynaliadwy bellach ac felly cynigiwyd cytuno dyraniad blynyddol o £166,000 fel rhan o raglen gyfalaf y Cyngor o 2021-22 ymlaen gyda’r balans ar gyfer blynyddoedd 1 a 2 (£132,000) yn cael ei ariannu o’r gronfa wrth gefn TGCh.

 

Yn nhermau costau refeniw ar gyfer gweithredu teleffonau Teams a’r Ganolfan Gyswllt, dywedwyd y byddai’r rhain yn £77,000 y flwyddyn, fodd bynnag byddai hyn yn cael ei gyllido o’r gyllideb refeniw a sefydlwyd eisoes ar gyfer y gwasanaethau presennol sydd yn eu lle gyda’r costau hyn yn lle’r costau a geir ar y gwasanaethau cyfredol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol nad oedd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol wedi codi unrhyw faterion a’i fod wedi cymeradwyo Opsiwn 1 i’w argymell i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Nododd yr Arweinydd yr adroddiad a dywedodd fod angen hyn gan fod yr Awdurdod yn chwarae dal lan hirdymor ganfod y seilwaith wedi bod ar ôl llawer o awdurdodau lleol. Amlygwyd hyn dros y 12 mis diwethaf gyda mwy o ddibyniaeth ar weithio rhithiol. Byddai’r gwaith hyn o fudd pellach i’r gwahanol ddulliau gweithredu y byddai’r Cyngor yn eu cymryd ac yn galluogi gweithrediad llyfn unrhyw newidiadau yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda’r sylwadau a godwyd a dywedodd fod TGCh angen yr adolygiad hwn gan ei fod yn faes sy’n newid drwy’r amser. Teimlai’r Dirprwy Arweinydd y byddai arian ar gael yn y dyfodol i gefnogi’r maes gan y byddai’n agor mwy o bosibiliadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Gweithredol yn ystyried y cynigion ac yn argymell y buddsoddiad yn y seilwaith TGCh i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

10.

Parodrwydd am y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf icon PDF 422 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai diben yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Gweithredol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru) (2018) a’r cynnydd a wnaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg i baratoi am hynny. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y cwmpas a’r cefndir a nododd y bu gan bob Cyngor gyfrifoldeb ers mis Medi 2021 am sicrhau fod gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Cod oedd yn cyd-fynd a hi i gefnogi dysgwyr 0-25 oed.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gefnogaeth ranbarthol a lleol a dywedodd fod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno swydd statudol newydd o fis Ionawr 2021 o Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Blynyddol Blynyddoedd Cynnar. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch i nodi y penodwyd i’r swydd ym mis Rhagfyr a’i fod yn rhan o’r gwasanaeth ADY yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm.

 

Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio atal prosesau AAA statudol yn ystod pandemig COVID-19. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na fu’n dasg rwydd rheoli hyn yn yr amgylchiadau presennol. Fodd bynnag, gyda’r dull gweithredu rhanbarthol a lleol yn ei le, mae’r tîm Cynhwysiant yn hyderus fod popeth sydd yn ei angen yn ei le ar gyfer mis Medi 2021.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg at y goblygiadau cyllideb a dywedodd nad yw’r effaith ar y gyllideb o fis Medi 2021 yn hollol hysbys hyd yma, fodd bynnag byddai gofyniad ar gyfer Swyddog Arweiniol ADY Blynyddoedd Cynnar fyddai’n arwain at bwysau cost pellach o £70,000.

 

Diolchodd Aelod Gweithredol Addysg i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am gyflwyniad cynhwysfawr o’r adroddiad sy’n cydnabod faint o waith a wnaed i sicrhau fod y Cyngor yn barod ar gyfer y Ddeddf ADY. Roedd yr Aelod Gweithredol yn falch y byddai’r Cyngor yn barod ar gyfer mis Medi 2021 i gefnogi ein disgyblion ADY.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Blaenau Gwent yn cytuno y byddai’r ADY yn barod ar gyfer mis Medi 2021 pan ddaw’r Ddeddf ADY yn weithredol ac mae paratoadau addas yn mynd rhagddynt.

 

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

11.

Prydau Bwyd Cymunedol pdf icon PDF 449 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol y cafodd prydau bwyd cymunedol eu trosglwyddo i Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2020 ac er heriau’r pandemig, gwelodd y gwasanaeth gynnydd yn y prydau ers y trosglwyddo. Bu’r cynnydd oherwydd y pandemig a pheth gwaith marchnata masnachol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymdeithasol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y diffyg o £25,000 wedi gostwng i £18,000 ar ddiwedd Chwarter 2 ond bod hyn wedi gostwng ymhellach i £14,000 yn Chwarter 3. Gobeithir y byddai’r diffyg yn cael ei ostwng ymhellach erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Nododd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol y cynnydd da a wnaed o fewn y gwasanaeth ers ei drosglwyddo a dymunai ddiolch i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion am ei gwaith a’i phenderfyniad i droi’r prosiect prydau cymunedol o amgylch. Cafodd y gwaith a gyflawnwyd ei gydnabod yn y galw a’r gostyngiad yn y diffyg ac mae’r Aelod Gweithredol yn edrych ymlaen at wella’r gwasanaeth ymhellach ar gyfer aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo yr argymhellion ar gyfer blaengynllunio hirdymor y gwasanaeth fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Eitemau Monitro – Addysg

12.

Cynnydd Band B Ysgolion 21ain Ganrif pdf icon PDF 526 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau Monitro - Adfywio a Datblygu Economaidd

13.

Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel pdf icon PDF 570 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad i Aelodau ar berfformiad rhaglen Anelu’n Uchel ac ymgysylltu cysylltiedig â busnesau allanol ac amlinellodd yr wybodaeth perfformiad ar raglen prentisiaeth fewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol y bu’r prosiect yn gweithio’n dda gyda busnesau drwy gydol y pandemig a nododd y gyfradd gadw lwyddiannus ar gyfer y prentisiaid. Mae defnydd cadarnhaol o’r rhaglen yn dal i fod ymhlith adrannau’r Cyngor a gobeithid y gellid symud y cynllun ymlaen gyda chyllid mewn cysylltiad gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Diolchodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd i’r staff, busnesau a phrentisiaid eu hunain am eu hymrwymiad yn ystod y pandemig gan fod pob parti cysylltiedig wedi cydweithio. Croesawodd yr Aelod Gweithredol ehangu’r cynllun i Ferthyr Tudful a’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd gan y byddai hyn yn ehangu gwaith a chyfleoedd y rhaglen Anelu’n Uchel ymhellach ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd y Pwyllgor Gweithredol yn falch i weld bod y rhaglen yn darparu’r cyfleoedd hyn ac yn hybu lefelau sgiliau ym Mlaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

14.

Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu a Chynllun Cyllid Ad-daladwy Canol Trefi pdf icon PDF 481 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Wilkins fuddiant yn yr adroddiad hwn ac arhosodd yn y cyfarfod yn ystod y trafodaethau, fodd bynnag ni gymerodd ran wrth wneud y penderfyniad.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad a rhoi trosolwg o’r wybodaeth ynddo. Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a nododd y gwnaed llawer iawn o waith ar draws Blaenau Gwent i fynd i’r afael ag adeiladau a fu’n wag am gyfnod hir ac ardaloedd. Mae’r Tîm Adfywio wedi parhau i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod ansicr a achoswyd gan y pandemig i sicrhau bod busnesau Blaenau Gwent yn goroesi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r diweddariad cynnydd.

 

15.

Parc Cyflogaeth, Rhodfa Calch – Diweddariad Cynnydd pdf icon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

16.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig, gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad aam yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

17.

Cynllun Datblygu Metro Plws Blaenau Gwent

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud a materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 fel y manylir yn yr adroddiad.

 

18.

Theatr Metropole – Darparydd Cyflenwi Gwasanaeth Arall

Ystyried adroddiad y Cyfawryddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud a materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a’r Opsiwn fel y manylir yn yr adroddiad.