Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Cynghorydd Derrick Bevan Cynghorydd Clive Meredith
Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Stewart Healy fuddiant yn eitem 10 – Adroddiad Perfformiad a Monitro Hamdden Aneurin (Ebrill 2020 – Mawrth 2021).
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: CYTUNODD y Pwyllgor y dylid cynnal cyfarfodydd y dyfodol ar ddyddiau Mawrth i gychwyn am 10.00 a.m.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 232 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 258 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 20 Ebrill 2021 PDF 103 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021, yn cynnwys:-
Grantiau a Ddyfarnwyd i’r Gyfarwyddiaeth Addysg
Holodd Aelod pam fod y swm y gyllid a dderbyniwyd ar gyfer Ysgol Gyfun Tredegar bron yn ddwywaith y swm a dderbyniwyd ar gyfer Ysgol Sylfaen Brynmawr a Chymuned Ddysgu Abertyleri. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y byddai’n edrych ar y gwahaniaethau ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am sut y byddai Cynghorwyr Her PDG yn rhyngweithio gyda ac yn herio penaethiaid ysgolion, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y byddai’r Cynghorwyr Her yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i sicrhau y caiff y cyllid ei ddefnyddio mewn modd priodol ar draws yr ysgolion a sicrhau y defnyddir yr adnodd yn effeithlon i gefnogi’r dysgwyr hynny a gaiff eu targedu, yn unol â’r meini prawf ar gyfer grantiau.
Cyfeiriodd Aelod at y gwahaniaethau a ddangosir yn y symiau Grantiau PDG, mae’r grantiau hyn yn seiliedig ar nifer y disgyblion prydau ysgol am ddim o fewn ysgolion a theimlai y gellid cyflwyno eitem ar yr ymyriadau mewn gwahanol ysgolion a sut mae’n helpu disgyblion prydau ysgol am ddim i sicrhau cynnydd. Cyfeiriodd yr Aelod at y canran o brydau ysgol am ddim ym Mlaenau Gwent a holodd os y gellid edrych ar hyn, gan y teimlai nad oedd pob plentyn sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo a bod hyn yn effeithio ar y grantiau sy’n mynd i ysgolion. Teimlai ei bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth ar wefan Blaenau Gwent am hawl i brydau ysgol am ddim ac y dylai’r ddolen ar gyfer ceisiadau fod yn fwy amlwg. Cododd bryderon hefyd fod asesiadau prydau ysgol am ddim yna awr yn cael eu cynnal bob 3 blynedd.
Yng nghyswllt y sefyllfa am brydau ysgol am ddim a’r ffordd y caiff ei asesu o fewn ysgolion, dywedodd y Cyfarwyddwr y gwnaed llawer o waith yn ystod y pandemig sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn gysylltiedig gyda chymhwyster o amgylch prydau ysgol am ddim. Y sefyllfa ddiweddaraf oedd bod gan tua 1,700 o blant yn awr hawl i brydau ysgol am ddim ac y cedwir golwg agos ar y sefyllfa. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ei bod yn debyg bod cynnydd o tua 30 i 40% yn nhermau teuluoedd a phlant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim oherwydd yr effaith yn gysylltiedig gyda COVID yn ymwneud â statws economaidd-gymdeithasol yr ardal. Yng nghyswllt pwynt cyntaf yr Aelod, mae un o’r papurau gwybodaeth yn amlinellu rhai o’r meysydd ar gyfer gwariant posibl ar y PDG fel bod aelodau yn cael eu gwerthuso o safbwynt Prydau Ysgol am Ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal ar draws y stad ysgolion. Byddai’r Cyfarwyddwr yn rhoi gwybodaeth ddi-enw i Aelodau am y mater hwn a hefyd yn sicrhau fod y ddolen i geisiadau ar gyfer prydau ysgol am ddim yn fwy amlwg ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.
Dywedodd y Cadeirydd fod hon yn ddogfen y gellid ei newid.
Nododd Aelod fod yr adroddiad ar Gytundebau Adran 106 yn eitem er gwybodaeth a theimlai y dylai hyn fod yn eitem agenda ar gyfer y Pwyllgor fel bod Aelodau yn cael dealltwriaeth well ar fuddion Cytundebau Adran 106, sut y defnyddir yr arian a sut maent yn cysylltu gyda’r Cyfarwyddiaethau Addysg, Cynllunio ac Adfywio.
Cynigiodd y Cadeirydd fod yr adroddiad ar Gytundebau Adran 106 yn cael ei dynnu o’r pecyn gwybodaeth ac yn cael ei gyflwyno fel eitem Agenda i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.
Holodd Aelod os oes unrhyw adroddiadau ar y flaenraglen gwaith yng nghyswllt y trosiant mawr o benaethiaid ysgol ym Mlaenau Gwent a hefyd y rhai sy’n dewis gael addysg gartref gan fod hyn effeithio ar bresenoldeb disgyblion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod adroddiadau fel rhan o’r flaenraglen gwaith ar bresenoldeb disgyblion a hefyd waharddiadau fyddai’n rhan o’r adroddiadau Cynhwysiant a Gwella Ysgolion. Byddai hefyd ddiweddariadau yn nhermau ble ydym arni gydag arweinyddiaeth, newidiadau posibl a recriwtio yn yr ysgolion hynny sy’n achos consyrn.
Cyfeiriodd Aelod at yr EAS a holodd am werth am arian. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod perthynas waith dda gyda EAS sy’n gweithio’n agos gyda thîm Gwella Ysgolion a Chynhwysiant. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn flaenorol sy’n rhoi sylw i werth am arian, sy’n seiliedig ar ddau amrywyn allweddol h.y. os yw perfformiad yn cynyddu a safonau’n gwella ac os oedd hynny’n cael ei wneud gyda llai o adnoddau. Teimlai’r Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod a hefyd yr EAS yn gwella safonau gyda chyllideb yn gostwng yn ystod cyfnod o lymder yn y sector cyhoeddus.
Ategodd Prif Gynghorydd Her EAS sylwadau’r Cyfarwyddwr ac ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Addysg ar tîm Arweinyddiaeth newydd ym Mlaenau Gwent. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod y bartneriaeth, sef sut y gwelai Llywodraeth Cymru y byddai’r berthynas yn symud ymlaen, yn iach a chryf. Maent yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac yn cael cyfleoedd ardderchog i edrych ar rolau’r Awdurdod Lleol ac EAS i sicrhau y caiff cefnogaeth i ysgolion ei deilwra yn y ffordd gywir.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith 2021-22 y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a
CHYTUNODD YMHELLACH y dylai’r eitem wybodaeth ar Gytundebau Adran 106 gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fel eitem agenda i gael ei ystyried.
|
|
Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu PDF 522 KB Ystyried adroddiad Pennaeth Gwella Ysgolion a Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes, a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar y blaenoriaethau a ddynodwyd gan y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer adferiad ac adnewyddu, fel rhan o’r ymateb i sefyllfa COVID-19.
Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at ymddygiad disgyblion mewn ysgolion a theimlai y dylai fod cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod cyflwr emosiynol dysgwyr, yn cynnwys eu hymddygiad a’r effaith bosibl y gallai hynny ei gael ar ddysgwyr eraill, yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r adroddiad yn cynnwys datganiadau cynhwysfawr ar y meysydd hyn a byddent yn cael eu gwahanu yn gynlluniau llawer mwy manwl h.y. llesiant dysgwyr, ymddygiad emosiynol ac yn y blaen.
Ategodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y pwynt hwn a dywedodd fod hyn yn cysylltu gyda thema dysgwyr a hefyd weithrediadau’r ysgol a chefnogaeth i ysgolion o amgylch ymddygiad ar wedd asesiadau risg a staffio yn y blaen, a theimlai fod hon yn agwedd drosfwaol a fyddai’n cael sylw fel rhan o’r cynlluniau gweithredu manwl o amgylch nifer o’r gwahanol feysydd effaith hyn.
Dywedodd Aelod ei bod yn dda gweld blaenoriaeth yn cael ei roi i lesiant ysgol gyfan a chymorth gydag iechyd meddwl, a hefyd weld cefnogaeth ar gyfer dysgwyr bregus a diwygio ADY yn cael cymaint o sylw, a bod ymgysylltu â rhieni a deimlai oedd yn hollol hanfodol hefyd yn cael ei restru. Credai fod y cynllun yn adlewyrchu’n gywir fod yr Awdurdod Lleol yn ymateb i newidiadau presennol a newidiadau’r dyfodol.
Yng nghyswllt PPE a masgiau wyneb mewn ysgolion, dywedodd Aelod fod angen i’r Awdurdod fod yn gliriach ar y canllawiau gan fod ansicrwydd am wisgo masgiau wyneb mewn ystafelloedd dosbarth a choridorau. Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod canllawiau clir ym mhob ysgol uwchradd mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn ardaloedd cymunol, lle na fedrid cadw pellter cymdeithasol o ddwy fetr, fod disgyblion yn gwisgo gorchuddion wyneb a bod hyn yn weithredol ar draws y stad ysgolion. Os oes problemau sylweddol a gaiff eu cyflwyno a bod ysgolion yn teimlo dan asesiad risg y gallent ymdopi a gweithredu mesurau rheoli ychwanegol, yna gallai’r tîm edrych ar adolygu hynny gyda’r ysgol. Bu cyswllt sylweddol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig ac ysgolion pob oed a chafodd y canllawiau hynny ei gyfleu’n glir a’i gyfnerthu ar bob cyfle. Os oes unrhyw bryderon neilltuol, cynigiodd y swyddog i drafod hyn tu allan i’r cyfarfod.
Cyfeiriodd Aelod at yr effeithiau allweddol a ddynodwyd ar addysg ar dudalen 55 ac yng nghyswllt diogelu, ymgyfraniad y trydydd sector gwirfoddol, mesurau iechyd ataliol a mesurau rheoli Covid-19, mae’r adroddiad yn dweud na fu fawr neu ddim ymgysylltu a theimlai fod hyn yn anghywir gan y bu llawer o ymgysylltu gyda phobl ifanc a rhieni yn ystod y pandemig h.y. sicrhau fod prydau ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Perfformiad a Monitro Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin PDF 441 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd S. Healey fuddiant yn yr eitem ddilynol ac arhosodd yn y cyfarfod.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar berfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac i egluro’r trefniadau monitro perfformiad ar gyfer y dyfodol.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Soniodd y Cadeirydd am y berthynas well rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth a dywedodd fod hyn yn fanteisiol i’r gymuned. Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth y bu ymdrech tîm gan bawb, roedd Cyngor Blaenau Gwent wedi ymgysylltu’n agored gyda’r Ymddiriedolaeth i gael perthynas well. Ychwanegodd y bu staff yr Ymddiriedolaeth yn rhagorol wrth gefnogi ymateb y Cyngor drwy gydol y cyfnod Covid.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am hybiau mewn llyfrgelloedd, dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau iddynt weithio’n agos ar y prosiect o’r dechrau i’r diwedd ac y teimlai nad oedd unrhyw anfanteision gan y gallai preswylwyr lleol yn awr ddefnyddio’r gwasanaeth oedd ar gael ar garreg eu drws. Mae hefyd yn newyddion da i lyfrgelloedd gan ei fod yn agor cynulleidfa newydd gyfan.
Holodd y Cadeirydd am bosibilrwydd canolfannau hamdden fel y gallai’r gwasanaeth agor ar fwy nag un diwrnod yr wythnos. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau y gallai hyn fod yn broblem yng nghyswllt staffio. Dim ond ar gyfer y mis nesaf yr oedd y penderfyniad i agor un diwrnod yr wythnos, rhwng 21 Mehefin a 24 Gorffennaf, ac mae hyn oherwydd nifer defnydd gyda phellter cymdeithasol yn ei le. Byddent yn symud i gyfnod newydd o 25 Gorffennaf ac yn ailagor yn llawn.
Dywedodd Aelod ei fod yn adroddiad rhagorol ac roedd yn falch i nodi y cafodd staff eu hadleoli i helpu gydag ymateb Covid ac roedd eisiau cofnodi ei ddiolch yr agorwyd T? Bedwellte fel canolfan frechu Covid ar gyfer preswylwyr Tredegar gan fod yr ysbyty newydd yn dal i gael ei adeiladu. Roedd hefyd yn falch i nodi fod yr Ymddiriedolaeth yn awr yn cael mynediad i gyllid grant a gobeithiai y byddai hyn yn helpu i godi’r cyfleusterau lan i’r safon a bod yn llwyddiannus o hyn ymlaen.
Dywedodd Aelod arall y teimlai fod yr Ymddiriedolaeth mewn lle gwahanol i ble oedd 2-3 blwyddyn yn ôl a chanmolodd y gwaith a wnaed yn troi’r Ymddiriedolaeth o amgylch. Dywedodd fod ysbryd y staff yn llawer gwell a bod y berthynas gydag ysgolion wedi gwella hefyd.
Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gyda sylwadau’r Aelodau ar y cynnydd a wnaed a’i fod wedi mynd i’r canolfannau chwaraeon yn ddiweddar i edrych ar y datblygiadau diweddar o fewn yr ardaloedd ffitrwydd a theimlai fod y gwaith a wnaed yno yn flaengar iawn a bod y datblygiadau’n rhoi Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Teimlai fod proffesiynoldeb ac ymrwymiad gan staff ar draws y bwrdd a mynegodd ei werthfawrogiad i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a’r Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau am feithrin y berthynas well rhwng y ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Rhaglen Gwella Ysgolion 2021 PDF 379 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi trosolwg i Aelodau o’r ysgolion hynny a gafodd arolwg yn y cyfnod, yn cynnwys yr ysgolion hynny a gyflwynodd fel achos consyrn, a’u cynnydd a’r gwaith a gyflawnwyd neu sy’n mynd rhagddo i barhau i’w cefnogi i wella.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Holodd y Cadeirydd am y troi o amgylch yng Nghanolfan yr Afon i fyfyrwyr ddychwelyd i addysg brif ffrwd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod Canolfan yr Afon yn ysgol 64 lle gyda 40 lle troi o amgylch a 24 lle parhaol ac un o’r ystyriaethau sydd angen ei ddatblygu a’i gryfhau o’r gwaith a wnaed o amgylch y 40 lle troi o amgylch. Roedd pryderon nad yw dysgwyr yn cael eu rhoi yn ôl mewn gosodiadau prif ffrwd gyda’r gefnogaeth angenrheidiol ac mae hyn yn ystyriaeth sy’n gysylltiedig gyda’r llythyr hysbysiad cyn-rhybudd. Ychwanegodd fod Cytundeb Gwasanaeth yn cael ei ddatblygu. Byddai’n drefniant partneriaeth tairochrog rhwng yr awdurdod lleol, Canolfan yr Afon a’r ysgol sy’n derbyn a theimlai fod angen i’r ysgol angen mwy o gydweithio gyda phartneriaid yn nhermau dychwelyd dysgwyr yn ôl i leoliadau prif ffrwd a bod hyn yn ddarn blaenoriaeth o waith i symud ymlaen.
Dywedodd Aelod ei fod yn eithaf pryderus fod Canolfan yr Afon wedi mynd o Oren i Felyn ac nawr mewn sefyllfa rhybudd. Cyfeiriodd at bara 4.1.2.3 capasiti ysgol a threfniadau derbyn ar gyfer dysgwyr a dywedodd y bu problem barhaus gyda gwaith papur gweinyddol h.y. ar rai achlysuron na chafodd y gwaith papur cywir ei anfon at Ganolfan yr Afon iddynt wybod am y problemau posibl a hefyd pan ddychwelodd disgyblion i leoliadau prif ffrwd, nid oedd y gwaith papur wedi dilyn a holodd os cafodd y materion hyn eu trafod.
Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod categoreiddiad blaenorol Canolfan yr Afon fel ysgol Felyn yn adlewyrchiad hanesyddol o statws perfformiad yr ysgol ac mae’r categoreiddiad hwn yn amheus. Cafodd y Corff Llywodraethu ei gryfhau gyda’r awdurdod lleol wedi penodi tri o lywodraethwyr i gefnogi gwaith y Corff Llywodraethu. Roedd trefniadau derbyn yn rhan o’r llythyr hysbysiad cyn-rybudd a theimlai fod angen mwy o ymgysylltu gan yr ysgol. Nid ydynt yn ymgysylltu ar hyn o bryd yn y trefniadau Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd y gwaith papur gweinyddol yn cael ei gynhyrchu ond teimlai fod angen i’r ysgol gymryd rhan yn y Panel ADY pan fo dysgwyr yn cael eu trafod ar gyfer lleoliad posibl o fewn Canolfan yr Afon ac unwaith eto byddai hyn yn rhan o’r llythyr hysbysiad cyn-rhybudd ac mae angen datrys hynny gyda’r ysgol.
Bu’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant mewn trafodaethau gyda’r Pennaeth i ddynodi a datrys unrhyw broblemau parhaus a theimlai ei fod yn bwysig fod aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cymryd rhan yn yr holl drafodaethau fel y byddent yn gwybod am ddisgyblion a allai o bosibl ... view the full Cofnodion text for item 11. |