Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 20fed Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

CROESO

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Luisa Munro-Morris fel y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant newydd i’w chyfarfod ffurfiol cyntaf o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier,

L. Elias, C. Meredith a D. Wilkshire

 

Aelod Cyfetholedig

A. Williams

 

Rheolwr Strategol Gwella Addysg

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 342 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2021, ar hynny:-

 

Gofynnodd Aelod am i acronymau gael eu dangos mewn cromfachau ar ôl teitl neu ymadrodd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i restr o acronymau gael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer cylch nesaf y Pwyllgor.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 1 Ebrill 2021 pdf icon PDF 173 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021, ar hynny:-

                                                                                                                          

Grantiau Llywodraeth Cymru

 

Prosiect Gweithgaredd Haf Ysgolion

 

Gofynnodd Aelod os y gellir ymestyn y cynllun i ysgolion eraill ar draws y fwrdeistref yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod rheolau llym am wario’r grant a’r meini prawf, er enghraifft, yn gysylltiedig gyda statws prydau ysgol am ddim ac yn y blaen, ac roedd wedi cysylltu gyda chyfres o ysgolion ledled y stad ysgolion. Wrth symud ymlaen, byddai’n mynd ati i gysylltu gydag ysgolion eraill yn y fwrdeistref am gymhwyster ar gyfer y cynllun.

 

Yng nghyswllt grantiau, dywedodd Aelod iddo ofyn am ddiweddariad yn y cyfarfod blaenorol ar grantiau a dderbyniwyd o’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) ac yn y blaen. Credai y derbyniwyd bron £2m ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion ac yn y blaen a theimlai ei bod yn bwysig cael y ffigurau hynny. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod swyddogion cyllid yn paratoi nodyn ar y grant hwn i’w ystyried gan y Pwyllgor Craffu. Dywedodd yn gyffredinol fod y grant i gefnogi dysgwyr mwy difreintiedig. Mae meysydd penodol o wariant a byddai’r rhain yn cael eu cynnwys yn y nodyn i roi gwell dealltwriaeth i Aelodau o lle y cafodd yr arian grant ei gynllunio a’i wario. Dywedodd ei fod yn grant sylweddol, bron yn £2m ar draws y stad ysgolion, ac mae angen i’r Gyfarwyddiaeth Addysg sicrhau y caiff y grant ei gefnogi mewn modd addas i sicrhau fod teuluoedd, plant a dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael cyfle drwy’r ysgolion i fanteisio ar y cyllid hwnnw i gefnogi eu datblygiad.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu. 

 

6.

Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent, Hunanarfarnu a Chynllunio Busnes pdf icon PDF 536 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Craffu i graffu ar ganfyddiadau yr hunan arfarniad a’r prosesau cynllunio busnes cyffredinol a gynhelir o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol.

 

Hysbysodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr Aelodau fod hwn yn adroddiad newydd ond y byddai peth o’r data yn cyfeirio’n ôl i 2019-2020 gan y cafodd trefniadau rheoli perfformiad a data eu llacio. Fodd bynnag, mae hwn yn adroddiad wedi’i ddiweddaru ar y sefyllfa bresennol o safbwynt hunanarfarnu.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at feysydd lle gwnaed cynnydd da a lle mae angen gwella pellach.

 

Cyfeiriodd Aelod at graffu ar ddata 2019 a holodd am y rheswm am hyn, gan y teimlai bod adroddiad blaenorol wedi craffu ar y data hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol  Addysg y bu llacio mewn trefniadau adrodd. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 4, yn neilltuol o fewn ysgolion uwchradd, fodd bynnag maent yn seiliedig ar raddau asesiad gan ganolfannau. Dywedodd nad oedd yn bosibl cynnal meincnodi trylwyr oherwydd nad oeddent yn ganlyniadau a ddilyswyd yn allanol.

 

Cododd Aelod bryderon am y gwahanol ddulliau o asesu a theimlai ei bod yn bwysig nad oedd ysgolion yn cael ymdeimlad ffug o ddiogelwch wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod y canlyniadau a gafwyd yng Nghyfnod Allweddol 4 yn debyg i’r targedau a osodwyd yn y Cynlluniau Datblygu Ysgolion. Gallai adroddiadau’r dyfodol gynnwys cysylltiad rhwng perfformiad ar Gyfnod Allweddol 4 o gymharu â’r Cynllun Datblygu Ysgolion, ond roedd yn rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus rhag dal ysgolion i gyfrif ar y data hwnnw ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.2 – Ysgolion sy’n Achos Pryder, a theimlai na chafodd y gwaith gwella a wnaed yn yr ysgolion hyn dros y ddwy flynedd diwethaf ei gydnabod gan na fu Estyn yn cynnal gweithgaredd monitro arferol ers peth amser. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod y ddwy ysgol wedi codi’r mater hwn gan y cafodd ymweliadau monitro Estyn eu gohirio, sy’n golygu fod y ddwy ysgol yn parhau i fod mewn categori Estyn am gyfnod. Cynhaliwyd cyfarfodydd Ysgolion sy’n Achosi Pryder a dangos y gwnaed cynnydd boddhaol. Cynlluniwyd cyfarfod gyda Estyn ac roeddent wedi awgrymu’n glir, yn dibynnu ar unrhyw gynnydd posibl yn gysylltiedig â Covid, y byddai ymweliadau monitro yn ailddechrau yn nhymor yr hydref. Byddai hynny’n rhoi cyfle ir’ ddwy ysgol i’r Arolygiaeth asesu eu cynnydd.

 

Holodd Aelod am y meysydd ar gyfer gwella, yn neilltuol sgiliau caffael iaith gwael mewn plant ifanc iawn ac awgrymodd y byddai cynyddu darpariaeth cyn-ysgol a meithrin ar draws y fwrdeistref yn ddatrysiad posibl. Holodd hefyd am y maes allweddol ar gyfer gwella ar waharddiadau ysgol a dywedodd os yw nifer gwaharddiadau ysgol yn parhau i gynyddu a bod nifer y disgyblion sy’n dewis hunanaddysgu yn cynyddu, yn dilyn Covid, y byddai’n anodd iawn gwella cyfraddau presenoldeb.

 

Yng nghyswllt darpariaeth feithrin a blynyddoedd cynnar  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Ymateb i COVID-19 pdf icon PDF 601 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i sefyllfa COVID-19, yn neilltuol yn cefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a rhoi sylw i’r diweddariadau llafar am ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i Covid-19 a roddwyd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor i sicrhau bod Aelodau’n cael eu hysbysu am y datblygiadau diweddaraf. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i’r gweithgaredd yn nhymor yr hydref a thymor y gwanwyn ac yn cynnwys yr wybodaeth gyfredol fwyaf perthnasol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant mai profiad penaethiaid ysgol a chydweithwyr oedd eu bod yn teimlo fod Blaenau Gwent wedi bod yn gefnogol iawn iddynt a’u cynnwys yn yr holl drafodaethau yn nhermau ailagor ysgolion ac yna’r cyfnod clo pellach, a hefyd sut y byddent yn cael pobl ifanc yn ôl i’r ysgol yn ddiogel.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog am ei sylwadau a nododd fod y Pwyllgor yn croesawu’r adborth o safbwynt penaethiaid ysgol.

 

Cododd Aelod gwestiwn am ddisgyblion yn mynd ag offer technoleg gwybodaeth a gyflenwyd gan yr Awdurdod gartref gyda nhw a disgyblion yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol, a holodd sut y byddai’r Cyngor yn sicrhau fod y disgyblion yn defnyddio eu hoffer eu hunan yn ddigonol, a gyda dysgu wyneb i wyneb yn dychwelyd, a fyddai’r plant yn parhau i gael offer technoleg gwybodaeth gan yr awdurdod lleol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gallai o bosibl fod elfennau o ddysgu cyfunol am y dyfodol rhagweladwy, yn neilltuol mae’n hanfodol fod dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu mewn gosodiadau ysgol i wneud hynny’n llwyddiant. Yng nghyswllt Dod â’ch Dyfeisiau eich Hun, mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio’n agos gyda SRS i sicrhau fod unrhyw ddysgwr sy’n defnyddio offer yn ddiogel ac nad yw’n creu unrhyw risgiau posibl iddynt, mae hyn yn rhan o’r prosiect ehangach ar seilwaith a chysylltedd. Cafodd tua 1,600 o ddyfeisiau eu dosbarthu i ddysgwyr ac mae nifer ohonynt wedi manteisio o ddysgu cyfunol. Teimlai fod elfennau cryf o ddysgu oedd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf y gellid adeiladu arno yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y bu’r tîm yn gweithio’n agos gydag ysgolion yn edrych ar anghenion dysgwyr sydd dan anfantais digidol. Y cynllun presennol yw i’r dysgwyr gadw’r dyfeisiau a ddosbarthwyd gan dymor yr haf, byddai hyn yn cynnwys gliniaduron ac unedau mi-fi sy’n galluogi cysylltedd. Adolygir hyn yn y dyfodol ond mae’r Awdurdod yn ymroddedig i ddarparu cymorth am weddill y flwyddyn academaidd. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn gweithio gydag ysgolion, EAS a SRS i ddatblygu strategaeth TGCh yn edrych ar y ffordd orau i alluogi dysgwyr i gael mynediad yn gyffredinol yn eu cartrefi a hefyd yn yr ysgol. Mae tua 1 dyfais ar gyfer pob dysgwr ledled y stad ysgolion a’r nod yw cadw ac efallai gynyddu hyn lle bynnag sy’n bosibl.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Polisi Trefniadaeth Ysgolion (2021/24) pdf icon PDF 384 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i gael barn y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yng nghyswllt yr adolygiad o’r Polisi Trefniadaeth Ysgolion (2021024), cyn cyflwyno’r polisi i Bwyllgor Gweithredol y Cyngor. Cynigir mabwysiadu a gweithredu’r polisi diwygiedig o ddechrau blwyddyn academaidd 2021/22.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod os y gallai’r polisi gynnwys agwedd o lesiant. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y polisi’n canolbwyntio ar flaenoriaethau trefniadaeth ysgolion tebyg i reoli a’r weledigaeth ar gyfer y stad ysgolion yn y dyfodol ac y byddai’r agwedd llesiant yn ffurfio rhan allweddol o’r cynllun adferiad. Gallai hyn o bosibl gynnwys hynny yn y polisi yn unol â chynlluniau adferiad addysg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am fodelau ffederal, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddent yn ystyried hyn fel un o’r opsiynau yn gysylltiedig gyda’r ysgol Gymraeg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod Blaenau Gwent yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gael ysgol ffederal, sef Ysgol Rhiw Briery, yn uno â Chymuned Ddysgu Ebwy Fawr. Teimlai fod penaethiaid ac arweinwyr ysgol effeithlon iawn ar draws y stad ysgolion sy’n rhoi’r Awdurdod mewn sefyllfa dda i ystyried modelau ffederal yn y dyfodol er mwyn cael arweinyddiaeth ansawdd uchel wedi’i lledaenu ar draws y stad ysgolion. Dywedodd y gellid symud ymlaen gyda modelau ffederasiwn mewn dwy ffordd: model ffederasiwn dan arweiniad yr awdurdod lleol neu gan gyrff llywodraethu. Mae cyfleoedd yn y dyfodol, yn neilltuol wrth gefnogi ysgolion gyda nifer isel o ddisgyblion. Yng nghyswllt chydweithio rhwng Chweched Dosbarth, dywedodd y Cyfarwyddwyr y bu nifer o modelau ffederal ar draws Cymru ar gyfer darpariaeth ôl-16 oherwydd y nifer cymharol fach o ysgolion y mae disgyblion yn darparu ar eu cyfer. Yng nghyd-destun Blaenau Gwent, fodd bynnag, sefydlwyd model trydyddol gyda Choleg Gwent yn y Fwrdeistref Sirol. Yng nghyswllt yr ysgol Gymraeg, yr opsiwn a ffafrir fyddai cydweithredu rhwng Bro Helyg a’r ysgol newydd unwaith y’i datblygir ond byddai hyn yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad.

 

Dywedodd Aelod nad yw ysgolion uwchradd yn llai na 600 disgybl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes eu bod yn y broses o sefydlu amcanestyniadau disgyblion ac wedi cynnal adolygiad blynyddol o gapasiti. Mae rhai ysgolion sy’n gymharol agos at y nifer hwn ond dim yn y categori ar hyn o bryd. Gyda’r adolygiad blynyddol o gapasiti a’r adolygiad blynyddol o amcanestyniadau, byddent yn gweithio’n agos gyda phenaethiaid ysgol uwchradd i fonitro hyn wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr o safbwynt strategol yn unol â pholisi trefniadaeth ysgolion eu bod wedi ad-drefnu ysgolion uwchradd yn sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac mae Blaenau Gwent yn bendant iawn yn  lleoliad pedair ysgol uwchradd, ac os nad oes newid syfrdanol nid oes dim o’r ysgolion uwchradd dan adolygiad sylweddol ar hyn o bryd. Teimlai fod hon yn lefel addas o ddarpariaeth y byddai’r stad ysgolion ei hangen yn y dyfodol. Dywedodd fod cael yr ysgol gywir  ...  view the full Cofnodion text for item 8.