Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Elias a S. Thomas. |
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Asesu Perfformiad 2020/21 PDF 487 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd sydd yn cyflwyno Asesiad Perfformiad 2020/21 y Cyngor (ynghlwm yn Atodiad 1) i’w ystyried.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hysbysodd yr Aelodau fod gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol fel rhan o’r mesur llywodraeth leol i ddatblygu asesiad o berfformiad bob blwyddyn a’i wneud ar gael i’r cyhoedd. Dylid nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau bellach wedi cymryd lle’r dyletswyddau dan y Mesur, felly yr asesiad hwn fydd yr un dan y rheoliadau hyn. Fodd bynnag yn y dyfodol bydd yn dal i fod angen i’r Cyngor roi adroddiad ar gynnydd ar y Cynllun Corfforaethol a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gynnwys asesiadau effaith mewn adroddiadau, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd y cynhwysir asesiadau effaith fel rhan o’r templed adrodd a dylid edrych arno wrth baratoi adroddiadau i bwyllgorau i sicrhau y caiff unrhyw effeithiau eu trin. Mae’r Asesiad Perfformiad wedi cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ond nid yw angen asesiad o’r effaith economaidd-gymdeithasol gan nad oedd yn cael ei ddiffinio fel penderfyniad strategol. Roedd gan yr Aelod bryderon nad oedd rhai asesiadau effaith yn cael eu cynnal. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y dylid cynnal y broses hon ac mae angen i awduron yr adroddiad sicrhau y cânt eu cwblhau a’u cynnwys o fewn adroddiadau fel sy’n briodol.
Dywedodd Aelod ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda rhai datblygiadau da tebyg y gostyngiad yn y nifer o blant sy’n derbyn gofal a holodd os yw’r tueddiad yn parhau. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y tueddiad yn parhau, mae’r ffigur yn 189 sydd yr isaf ers peth amser. Mae atgyfeiriadau hefyd yn parhau ond mae’r tueddiad cyffredinol ar i waered.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau’n ystyried y cynnydd ôl-weithredol a wnaed a’u cynnwys o fewn Asesiad Perfformiad y Cyngor ar gyfer 2020/21 a chael sicrwydd ei fod yn cyflawni yr holl ofynion deddfwriaethol statudol cyn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer cymeradwyo ac i’r Cyngor ei gymeradwyo.
|
|
Adroddiad Adolygu Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 PDF 586 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar weithgareddau Rheolaeth Trysorlys a wnaed gan yr Awdurdod yn ystod blwyddyn ariannol 2020/2021.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am fenthyciadau tymor byr a hirdymor, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod benthyciad tymor byr unrhyw beth dan 1 flwyddyn a benthyciad hirdymor yn 1 flwyddyn a mwy.
Holodd Aelod os oes gan y Cyngor gyfranddaliadau mewn cwmnïau nwy neu drydan sydd mewn anawsterau ariannol. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau nad oes gan y Cyngor gyfranddaliadau mewn cwmnïau cyfleustod gan fod y Cyngor yn tueddu i beidio buddsoddi’n uniongyrchol mewn stociau a chyfranddaliadau. Mae’r Cyngor fel arfer yn buddsoddi mewn sefydliadau ariannol tebyg i fanciau a chyrff sector cyhoeddus eraill a theimlai fod y risg yn isel yn yr amgylchiadau presennol.
Holodd Aelod am dynnu buddsoddiadau o danwydd ffosil. Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod gan y broceriaid y mae’r Cyngor yn eu defnyddio a’r cwmnïau a sefydliadau y buddsoddiad mewn polisïau yn ymwneud â buddsoddiadau moesegol, a lle’n bosibl bod y Cyngor yn osgoi mabwysiadu mewn cwmnïau sy’n ymwneud â’r farchnad tanwydd ffosil.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau wedi craffu ar y gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21 a rhoi sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.
|