Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, J.P. Morgan.
Prif Swyddog Adnoddau Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed,
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 373 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cofnodion Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 200 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion ar gyfer pwyntiau cywideb yn unig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Derbyn y ddalen weithredu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu a gyfeiriwyd o’r Cydbwyllgor Craffu Cyllideb ar 27 Medi 2021.
Soniodd Aelod am yr ansawdd sain gwael yn Ystafell Abraham Derby yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n tynnu sylw uwch swyddogion at hyn.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Archwilio Cymru – Asesiad Cynaliadwyedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent PDF 408 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau sy’n cyflwyno canlyniad yr asesiad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru ynghylch cynaliadwyedd ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Siaradodd swyddog Archwilio Cymru am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hysbysodd Aelodau fod yr adroddiad yn nodi canfyddiadau eu hadolygiad o gynaliadwyedd ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae’n ddarn o waith a gynhaliwyd gyda phob Cyngor ledled Cymru i edrych ar gynaliadwyedd ariannol a llywodraeth leol, yn neilltuol yng nghyd-destun pandemig COVID.
Dywedodd Aelod y bu’r rhain yn flynyddoedd ariannol da i’r Awdurdod oherwydd setliadau da gan Lywodraeth Cymru. Roedd cyllid caledi wedi helpu i roi’r Cyngor mewn sefyllfa dda ond teimlai y gallai hyn fod yn sefyllfa ffals oherwydd nad yw’r rhaglen Pontio’r Bwlch wedi ei phrofi gan nad yw Aelodau wedi gweld canlyniadau blwyddyn lawn oherwydd y pandemig. Teimlai fod angen cadw mater hylifedd mewn cof a bod angen i’r Awdurdod fod yn ofalus yng nghyswllt gormod o fenthyca. Dywedodd ei fod yn adroddiad da ond bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael effaith fawr arno a chanmolodd waith da y tîm ariannol.
Cytunodd Aelod arall ei fod yn adroddiad da ond roedd ganddo bryderon am ddefnydd y cyllid caledi a theimlai y dylid bod wedi defnyddio peth o’r cyllid hwn i helpu cymunedau gyda CCTV a materion diogelwch cyhoeddus. Teimlai y dylid bod wedi rhoi llai o arian mewn cronfeydd wrth gefn a mwy i wasanaethau CCTV i gadw cymunedau’n ddiogel drwy gydol misoedd y gaeaf.
Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor y cyflwynir adroddiad ar CCTV i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn y dyfodol i gael ei ystyried.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg mai grant yw’r gronfa caledi gyda thelerau ac amodau ac nad yw CCTV a Diogelwch y Gymuned yn rhan o’r telerau ac amodau hynny. Mae’r holl arian a wariwyd o’r gronfa caledi yn cydymffurfio gyda’r telerau ac amodau hynny ac i gyd am ymateb i’r pandemig. Dywedodd fod peth cyllid o’r gronfa galedi oedd yn mynd i’r gymuned drwy chwyddo tâl salwch statudol a thaliadau gofal cymdeithasol.
Diolchodd Aelod i’r Swyddfa Archwilio am yr adroddiad cadarnhaol er nad yw effeithiau COVID a amlygir yn yr adroddiad yn hysbys i gyd. Teimlai fod gweithredoedd rhagweithiol y Cyngor wedi ei roi mewn sefyllfa gref iawn i ateb heriau ariannol y dyfodol a gwelai hyn fel cymeradwyaeth gadarnhaol iawn gan y Swyddfa Archwilio.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y gymhareb cyfalaf gweithio, dywedodd Swyddog Archwilio Cymru nad oes rhif delfrydol y dylai’r Awdurdod fod yn anelu ei gyflawni. Mae’n dibynnu ar yr amgylchiadau penodol ym mhob Cyngor a’r dull gweithredu y gallant fod am ei gymryd. Teimlai ei fod am Aelodau yn cael sicrwydd, er fod y ffigur hwn yn isel, bod y Cyngor mewn sefyllfa lle gallai gyflawni ei rwymedigaethau fel a phryd yr oedd angen eu trin. Sonnir yn yr adroddiad fod y Cyngor yn brydlon yn talu ei ddyledion i sicrhau ei fod yn cefnogi’r economi lleol ac roedd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2022-27 PDF 499 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg a gyflwynwyd i nodi’r bwriadau ar gyfer datblygu ail Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022-27 y Cyngor, yn unol â Safonau’r Gymraeg (2015) (Safon 145).
Siaradodd yr Arweinydd Proffesiynol Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn y dull gweithredu a gynigir ar gyfer datblygu Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022-27.
|
|
Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch PDF 474 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol i graffu ar a herio perfformiad Iechyd Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Tân yn y Gwaith yr Awdurdod ar gyfer 2020/21.
Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hysbysodd Aelodau fod yr adroddiad hefyd yn cynnwys adran ynghylch ymateb y Cyngor i’r pandemig.
Cyfeiriodd Aelod at grynodeb yr adroddiad a holodd am ddamweiniau yn ymwneud â rhai heb fod yn weithwyr cyflogedig a’r gostyngiad yn absenoldeb staff. Esboniodd y Swyddog Iechyd a Diogelwch fod damweiniau yn ymwneud â rhai heb fod yn weithwyr cyflogedig yn cynnwys damweiniau gan ddisgyblion ysgol, aelodau’r cyhoedd yn safleoedd y Cyngor a defnyddwyr gwasanaeth mewn safleoedd Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfeiriodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol at absenoldeb salwch staff ac esboniodd ei fod wedi gostwng ond nad oedd yn is na’r targed. Maent yn y broses o ddilysu ystadegau salwch yr ail chwarter a rhoddir adroddiad ar y ffigurau hynny drwy’r adroddiad Cyllid a Pherfformiad a chânt eu cyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Yng nghyswllt y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, holodd Aelodau pam nad oedd y data ar gyfer y gwaith gan Gynghorwyr Iechyd a Diogelwch yr Ymddiriedolaeth wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Esboniodd y Swyddog Iechyd Diogelwch mai adroddiad blynyddol ar gyfer y Cyngor fel cyflogwr yw hyn; mae’r Ymddiriedolaeth Hamdden yn gyflogwr ar wahân ac felly ni chaiff eu data ei gynnwys yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Ffigur 1 ar dudalen 131 – y tueddiad 3 blynedd ar gyfer damweiniau gweithwyr cyflogedig yn yr Awdurdod yn ôl adran, dywedodd y Swyddog Iechyd a Diogelwch fod y gostyngiad sylweddol yn nifer y damweiniau yn yr Adran Addysg ar gyfer 2020/21 oherwydd bod ysgolion ar gau am gyfnod sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
Nododd Aelod fod nifer y damweiniau yn Adran yr Amgylchedd wedi gostwng er fod yr Adran wedi parhau i weithio fel arfer drwy gydol y pandemig. Dywedodd y Swyddog Iechyd a Diogelwch nad oedd tueddiad yn amlwg ynghylch y gostyngiad, fodd bynnag mae’n ganlyniad cadarnhaol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn cefnogi’r adolygiad blynyddol o berfformiad Iechyd a Diogelwch a pherfformiad Diogelwch Tân a’r argymhellion a wnaed.
|
|
Diweddariad ar Gynlluniau Adsefydlu yn y Deyrnas Unedig a Gwasgaru Ceiswyr Lloches PDF 466 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a gyflwynir i roi diweddariad ar gyfranogiad yn cefnogi cynllun Ailsefydlu y Deyrnas Unedig (sydd yn ddiweddar wedi cynnwys cefnogi adsefydlu dinasyddion Afghan) a cheisio cefnogaeth ar gyfer cymryd rhan yng Nghynllun Ehangu Gwasgaru Ceiswyr Lloches y Swyddfa Gartref a gyflwynir i’r Pwyllgor Gweithredol.
Siaradodd y Cydlynydd Cydlyniaeth Cymunedol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Mae’r adroddiad yn amlinellu bod y pwysau ar y system lloches wedi bod yn cynyddu’n gyson ers blynyddoedd. Gyda chynnydd yn nifer y ceiswyr lloches sydd angen eu lletya’n genedlaethol, bu pwysau ychwanegol ar yr ardal gwasgaru presennol ac mewn ymateb mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi blaenoriaeth i ehangu ardaloedd gwasgaru ac yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol.
Dywedodd Aelod ei fod yn cefnogi’r adroddiad a dywedodd fod y teuluoedd o Syria oedd wedi adsefydlu yn ei ward yn ychwanegiad gwych i’r gymuned.
Ychwanegodd Aelod arall ei fod wedi ymwneud â’r rhaglen adsefydlu ar gyfer ffoaduriaid o Syria a theimlai iddo fod yn llwyddiant. Llongyfarchodd y swyddogion ar y gwaith a wnaed a chefnogai’r adroddiad.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn:-
i. Nodi’r cynnydd a wnaed mewn cyfranogiad gydag adsefydlu yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys yn fwyaf diweddar y rhaglen ailsefydlu Afghan; ac yn ii. Cefnogi’r cynnig i gymryd rhan yng Nghynllun Ehangu Gwasgariad Ceiswyr Lloches, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol.
|
|
Blaenraglen Gwaith: 3 Rhagfyr 2021 PDF 393 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar gyfer y cyfarfod ar 3 Rhagfyr 2021.
|