Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Healy (Cadeirydd) a T. Smith.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 243 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2021.
CCTV
Esboniodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid pam nad oedd yr adroddiad cynnydd ar CCTV ar yr agenda fel a nodwyd yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwn ac y byddai’n fwy buddiol i gyflwyno adroddiad gyda mwy o sylwedd i Aelodau ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cododd Aelod bryderon am yr oedi yng nghyswllt yr adroddiad cynnydd ar CCTV a theimlai fod angen adroddiad fel mater o frys.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Cyfathrebu (Ebrill – Mehefin 2021) PDF 426 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid sy’n rhoi diweddariad chwarter 1 (Ebrill i Fehefin 2021) ar y Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol.
Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Dywedodd Aelod y teimlai nad oedd yn ymddangos fod unrhyw ryngweithio rhwng Aelodau blaenllaw a newyddiadurwyr a phapurau newydd lleol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gyswllt uniongyrchol gyda’r cyfryngau, cadarnhaodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod Tîm Cyfathrebu Corfforaethol y Cyngor yn ymwneud yn uniongyrchol gyda’r wasg a chydweithwyr yn y cyfryngau.
Dywedodd Aelod fod rhai aelodau’r wasg yn edrych ar-lein ar gyfarfodydd pwyllgorau ac y bu peth beirniadaeth yn y dyfodol fod aelodau wedi cyhoeddi datganiadau unigol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Teimlai’r Aelod eu bod, fel Aelodau a etholwyd gan y cyhoedd, yn atebol i’r cyhoedd am y penderfyniadau a gymerir ac mai’r ffordd orau i wneud hynny yw drwy’r wasg leol a chredai y dylai arweinyddiaeth y Cyngor fod yn rhagweithiol yn y cyswllt hwn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y rhesymeg wrth benderfynu pa bapur newydd fyddai’n cael pa stori, esboniodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cymerir dull gweithredu deuol weithiau. Os oes pwnc penodol, byddent yn edrych ar y rhwydwaith mwyaf perthnasol; os oes angen ymagwedd ehangach, yna byddai’r erthygl neilltuol yn cael ei rhannu’n ehangach. Fodd bynnag, efallai nad yw pob rhwydwaith yn penderfynu eu cyhoeddi.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cymeradwyo’ diweddariad cynnydd 1 ar y Strategaeth Cyfathrebu.
|
|
Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol (Ebrill – Mehefin 2021) PDF 611 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid sy’n cyflwyno diweddariad cynnydd chwarter 1 (Ebrill – Mehefin 2021) ar y Strategaeth Fasnachol.
Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddi.
Cyfeiriodd Aelod at yr Hybiau Cymunedol a chododd bryderon am gyfathrebu yng nghyswllt amserau gweithredu a’r gwasanaethau a ddarperir o fewn yr Hyb Cymunedol yn y Blaenau. Teimlai y dylai hyb y Blaenau fod ar agor yn wythnosol, yr un fath ag yn Abertyleri, Tredegar, Brynmawr a Glynebwy, er mwyn galluogi preswylwyr i gael mynediad mwy aml i wasanaethu a chynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r hyb. Teimlai nad yw hysbysebu ar Facebook yn cyrraedd pob cenhedlaeth o’r cyhoedd. Sicrhaodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid yr Aelod eu bod yn edrych ar ddulliau mwy traddodiadol o gyfathrebu tebyg i daflenni mewn meddygfeydd teuluol a siopau ac yn y blaen i gyrraedd cynifer o breswylwyr ag sydd modd i sicrhau eu bod yn gwybod am y gwasanaeth. Yng nghyswllt yr amserlen gweithredu, mae hyn yn ddull sy’n datblygu a byw a byddai’n rhoi ystyriaeth i’r nifer o ymholiadau a geir gan breswylwyr a’r galw am y gwasanaeth. Dywedodd yr Aelod fod amserlen weithredu ddiwygiedig ar y gweill ar gyfer chwarter 2 ymlaen.
Dywedodd Aelod arall fod hybiau cymunedol yn gweithio’n dda ac yn dod â gwasanaethau yn nes at y cyhoedd. Yng nghyswllt Hyb Cymunedol Brynmawr, cododd bryderon am breifatrwydd a theimlai y dylai ystafelloedd fod ar gael ar gyfer trafodaeth breifat. Soniodd hefyd nad oes arwyddion y tu allan i’r adeilad i nodi ei fod yn hyb cymunedol. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Gweithredol eu bod yn gweithredu mewn gofod neilltuol ar hyn o bryd a chytunodd y gall fod achlysuron pan y gallai preswylydd fod eisiau sgwrs fwy preifat a byddai’n mynd ati i sicrhau fod y cyfleuster hwnnw ar gael i breswylwyr. Yng nghyswllt arwyddion, dim ond ar y dydd y mae’r Llyfrgell ar gau y gallai’r Hyb Cymunedol weithredu oherwydd y cyfyngiadau cenedlaethol ar y pryd. Roedd staff y llyfrgell wedi codi arwyddion yn dweud pryd yr oedd yr Hyb Cymunedol ar agor a byddai’n edrych ar barhau hynny yn y dyfodol.
Dywedodd Aelod fod Hybiau Cymunedol yn profi’n llwyddiannus a theimlai gan mai nhw yw drws blaen yr awdurdod lleol a threfi unigol y dylent ddarparu ar gyfer Blaenau Gwent i gyd i sicrhau fod gan bawb fynediad i wasanaethau. Cyfeiriodd Aelod at y Bwrdd Comisiynu Strategol a Masnachol a holodd os y cyflwynir posibiliadau buddsoddi i’r Cyngor llawn. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y byddai unrhyw fuddsoddiad yn mynd drwy’r broses ddemocrataidd. Mae’r Bwrdd Comisiynu Strategol a Masnachol yn edrych ar gyfleoedd cynnar a byddid yn dilyn yr holl drefniadau a phrosesau democrataidd yn unol â chyfansoddiad y Cyngor.
Cefnogodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol sylwadau’r Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a dywedodd fel Awdurdod a arweinir gan ei Aelodau, y byddai unrhyw gyfleoedd sy’n codi o ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Perfformiad Absenoldeb Salwch 2020/21 PDF 763 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau Etholedig i graffu a herio perfformiad absenoldeb salwch ar gyfer 2020/21, y camau gweithredu parhaus i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb a chydnabod presenoldeb cadarnhaol mwyafrif y gweithlu.
Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Holodd Aelod am ddefnydd rheolwyr o system iTrent a pha gefnogaeth sydd ar gael i staff ar absenoldeb salwch hirdymor oherwydd problemau iechyd meddwl. Rhoddodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol sicrwydd y cafodd rheolwyr hyfforddiant a’u bod yn awr yn defnyddio system iTrent yn gywir i dynnu data absenoldeb salwch o’r system. Yng nghyswllt cefnogaeth ar gyfer staff gyda phroblemau iechyd meddwl, mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael sy’n cynnwys Iechyd Galwedigaethol, y rhaglen Cymorth i Gyflogeion a’r polisi Rheoli Presenoldeb i reolwyr ei gweithredu wrth gefnogi unigolion gyda phroblemau salwch.
Holodd Aelod os yw’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol yn craffu ar yr adroddiadau absenoldeb salwch i sicrhau fod yr un lefel o reolaeth yn cael ei gweithredu’n gyson ar draws y Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y cyflwynir yr holl wybodaeth chwarterol ac ystadegol i’r Tîm ei hadolygu ac mae gan bob Cyfarwyddiaeth adolygiad parhaus o 20 uchaf yr achosion hirdymor gyda golwg ar alluogi’r aelodau hynny o staff i ddychwelyd i’r gwaith.
Cyfeiriodd Aelod at ddadansoddiad o absenoldeb salwch yn ôl maes gwasanaeth ar dudalen 43 yr adroddiad a holodd am wasanaethau darparydd. Esboniodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod hynny’n cyfeirio at wasanaethau rheng flaen h.y. gofal yn y cartref, Cwrt Mytton a byw â chymorth Tai â Chymorth T? Augusta. Dywedodd wrth Aelodau fod ffigurau cyffredinol yn yr adroddiad a bod ffigurau’n eithrio absenoldeb salwch cysylltiedig â Covid.
Soniodd Aelod am y pwysau enfawr sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol a theimlai fod y ffigurau yn ganlyniad uniongyrchol yr hyn sy’n digwydd ar draws y wlad i gyd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y bu 2021 yn flwyddyn anodd, yn neilltuol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol rheng-flaen yng nghyswllt ymateb i’r feirws. Bu staff dan bwysau a straen enfawr yn darparu gwasanaeth a cheisio cadw pobl yn ddiogel yn y gymuned am gyfnod hir. Gofynnwyd hefyd i rai staff weithio mewn amgylchedd gwahanol a gall hyn fod wedi achosi mwy o bwysau a phryder. Mae ffigurau salwch yn uchel ond bu nifer o ffactorau lliniaru yng nghyswllt Covid a hefyd broblem genedlaethol am recriwtio staff gofal cymdeithasol. Maent yn ceisio lliniaru rhai o’r pwysau hynny ar hyn o bryd a gan weithio o safbwynt Blaenau Gwent, yn ceisio canfod datrysiadau gyda chydweithwyr Iechyd sydd hefyd yn wynebu’r un problemau a phwysau o fewn eu gwasanaethau.
Canmolodd y Cadeirydd yr holl Gyfarwyddiaeth am eu gwaith caled a’u hymroddiad mewn amgylchiadau eithriadol.
Atgoffodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol yr Aelodau y fod y darlun yn gwella o gymharu â’r llynedd yng nghyswllt absenoldeb salwch. Mae mannau problem sy’n cael eu hadolygu, ond mae gwelliant mewn absenoldeb salwch o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Blaenraglen Gwaith: 22 Hydref 2021 PDF 397 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.
Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid wrth Aelodau y byddent yn edrych ar ddod â dau adroddiad diweddaru ar gynnydd CCTV a chynllun Adsefydlu yn y Deyrnas Unedig ddechrau’r hydref.
Gofynnodd Aelod am i sesiwn wybodaeth i Aelodau gael ei threfnu yng nghyswllt y cynllun Ailsefydlu. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y trefnir hynny cyn cyflwyno’r adroddiad ffurfiol i’r Pwyllgor fel y byddai pob Aelod yn gwybod am y dull gweithredu a ddilynwyd.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cytuno ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 22 Hydref 2021 a bod dau adroddiad ychwanegol yn cael eu cyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ddechrau’r hydref:- • Adroddiad cynnydd CCTV • Cynllun Adsefydlu y Deyrnas Unedig
a CHYTUNWYD YMHELLACH i gynnal Sesiwn Wybodaeth i bob Aelod yng nghyswllt y Cynllun Adsefydlu cyn cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.
|