Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 07870 998665
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr D. Davies, M. Day, J. Holt, L. Parsons, J. Wilkins a’r Prif Weithredwr.
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol Eu cael.
Cofnodion: Cydymdeimlad
Mynegwyd cydymdeimlad â’r canlynol:
- Y Cynghorydd Malcolm Cross a’i deulu yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith.
- Teulu’r Cyn-Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Brian Inch yn dilyn y newyddion trist am ei farwolaeth.
Talodd aelodau a swyddogion deyrnged trwy gynnal munud o dawelwch.
Llongyfarchiadau
Estynnwyd llongyfarchiadau i’r canlynol:
- Constance Jones o Frynithel a ddathlodd ei 100fed pen-blwydd ar 7 Chwefror.
Roedd llythyr o longyfarchiadau wedi cael ei anfon ar ran y Cyngor.
- Tîm Merched Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach a fu’n fuddugol ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Cymru rhif 120 ym Mharc Gwledig Pen-bre ar 25 Ionawr. Enillodd y merched Deitl y Timau a thrwy wneud hynny hwy nid yn unig oedd y tîm cyntaf erioed o Flaenau Gwent i’w ennill (yn ddynion neu ferched) ond y clwb cyntaf o Went i ennill mewn 27 mlynedd.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod y clwb yn awr yn mynd ymlaen i ras brawf yn erbyn enillwyr pencampwriaethau Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda’r ddau glwb gorau’n mynd ymlaen i Bencampwriaethau Clybiau Ewrop ym Mhortiwgal.
Ymddeoliadau
Mynegwyd dymuniadau da i’r swyddogion a oedd wedi rhoi gwasanaeth hir, Annie Plamer-Phillips, David Phillips, Ian Cole a Jane Engel ar eu hymddeoliadau.
|
|
Llyfr Penderfyniadau - Hydref 2024 - Mawrth 2025 Cofnodion:
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r penderfyniadau a’u cadarnhau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor Ystyried ac, os tybir bod hynny’n addas, cymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor Ystyried ac, os tybir bod hynny’n addas, cymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor Ystyried ac, os tybir bod hynny’n addas, cymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor Ystyried ac, os tybir bod hynny’n addas, cymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Lleoedd Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lleoedd a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Lleoedd Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lleoedd a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Arbennig a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Moeseg a Safonau Ystyried adroddiad y Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2025.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Cael cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw gwestiynau a gyflwynwyd gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Cael cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw gwestiynau a gyflwynwyd gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol. Yn dilyn trafodaeth, fe gytunodd yr Aelodau i ofyn am ddatganiad briffio / datganiad ar y sefyllfa ynghylch statws cyfredol y gwasanaethau sy’n gweithredu o ganlyniad i’r Cytundeb Benthyciad Rheilffyrdd Pedairochrog.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef
- cymeradwyo’r Datganiad Blynyddol ar y Strategaeth Trysorlys a’r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol a’r Datganiad Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026 a’r Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys.
|
|
Strategaeth Gyfalaf 2025/2026 Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol i’w ystyried.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r canlynol:
· Y Strategaeth Gyfalaf 2025/2026 a oedd wedi ei hatodi yn Atodiad 1. · Y Ddogfen Polisi a Gweithdrefn Lesoedd a oedd wedi ei hatodi yn Atodiad A. · Gostyngiad yn y terfyn de minimis ar gyfer gwariant cyfalaf o £50,000 i £10,000 a gymhwysir yn ôl-weithredol o 1 Ebrill 2023 (para 4.1.5 i 4.1.6 o’r Strategaeth Gyfalaf).
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2025/26 Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i’w ystyried.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl 2025/2026.
|
|
Silent Valley Waste Services Ltd – Diddymu’r Cwmni Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol – ar ran Cyfarwyddwyr Silent Valley Waste Services Limited.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol – ar ran Cyfarwyddwyr Silent Valley Waste Services Limited.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi bod Silent Valley Waste Services Ltd yn cael ei ddiddymu.
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymdogaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymdogaeth.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Opsiynau canlynol:
Adolygiad o Daliadau am Fagiau Gwastraff Gwyrdd Opsiwn 1 - Mabwysiadu’r tâl ar drigolion am fagiau ailgylchu gwastraff gwyrdd yn barhaol. Byddai’r tâl o £2 yn cael ei gynnwys ar y gofrestr ffioedd a thaliadau ac yn cynyddu yn unol â pholisi’r Cyngor bob blwyddyn. Byddai’r tâl yn parhau i roi cymorth i weinyddu a darparu’r bagiau gwastraff gwyrdd i drigolion.
Diwrnodau Agor Gostyngol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Opsiwn 1 – Rhoi statws parhaol i’r penderfyniad a roddwyd ar waith ym mis Mehefin 2024 i dreialu cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref am ddiwrnod ychwanegol yn ystod yr wythnos.
|
|
Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ganlynol fel mater o frys, mae’r Aelod Llywyddol wedi cadarnhau y gellir ystyried y mater canlynol dan Ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
RHESWM DROS Y BRYS
Rhoi cymorth i gyflawni gwaith amddiffyn rhag llifogydd / atal llifogydd a fydd yn lleihau i’r eithaf berygl llifogydd ac effaith digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol ar gymunedau bregus ledled Blaenau Gwent.
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.
Cofnodion: Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ganlynol fel mater o frys, fe gadarnhaodd yr Aelod Llywyddol y gellid ystyried y mater canlynol dan Ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a
- nodi a chymeradwyo’r penderfyniad brys a wnaed i ddyfarnu’r contractau ar gyfer gwaith amddiffyn rhag llifogydd; a
- bod y Cyngor wedi cytuno i ariannu’r gwaith, a oedd yn gyfanswm o oddeutu £800,000. Byddai lefel derfynol adnoddau’r Cyngor y byddai eu hangen yn amodol ar ganlyniad trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Moeseg a Safonau Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfio Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cydymffurfio Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro i’w ystyried.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cadarnhau bod y ddyletswydd statudol a osodwyd gan y Ddeddf wedi cael ei chyflawni.
|
|
Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol yr Aelod Llywyddol: Ebrill 2024 - Mawrth 2025 Ystyried yr adroddiad sydd wedi ei atodi.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol yr Aelod Llywyddol.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r gweithgareddau a’r digwyddiadau a fynychwyd gan yr Aelod Llywyddol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.
|
|
Ystyried yr adroddiad sydd wedi ei atodi.
Cofnodion: Panel Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr Awdurdod Lleol
Fe wnaed yr argymhellion canlynol gan y Panel ar 12 Mawrth 2025 i benodi mewn egwyddor:
Gerrin Walters – Ysgol Gyfun Tredegar Sarah Jones – Ysgol Gyfun Ystruth Y Cynghorydd Tommy Smith – Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff Francis Roy Lynch – Ysgol Gynradd Beaufort Hill
Gyda hynny, yn unfrydol,
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r penodiadau uchod.
Silent Valley Waste Services Limited – Bwrdd y Cwmni
Yn dilyn diddymu Silent Valley Waste Services Ltd, nodwyd fod penodiadau’r Cynghorwyr Lisa Winnett a Tommy Smith fel Cyfarwyddwyr enwebedig y Cyngor ar Fwrdd y Cwmni wedi dod i ben bellach.
|
|
Cynnig – Ystâd y Goron yng Nghymru Ystyried y Cynnig sydd wedi ei atodi.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Cynnig a enwir uchod.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD fod y Cyngor:
- yn cefnogi’r ymgyrch i ddatganoli rheolaeth ar Ystâd y Goron a’i hasedau yng Nghymru i Lywodraeth Cymru; ac
- y dylai’r arian a godir gael ei rannu’n deg rhwng Awdurdodau Lleol Cymru i gefnogi anghenion ein cymunedau.
|