Mater - cyfarfodydd

Enforcement closed cases between 30th September 2024 and 15th January 2025

Cyfarfod: 06/02/2025 - Pwyllgor Craffu Cynllunio (eitem 10)

Achosion gorfodi a gaewyd rhwng 30 Medi 2024 ac 15 Ionawr 2025

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yngl?n â phrawf budd y cyhoedd, sef at ei gilydd bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.

 

PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag unigolyn penodol a nodi’r wybodaeth ynddo.