Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Cyfarfod: 06/02/2025 - Pwyllgor Craffu Cynllunio (eitem 5)

5 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 900 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu, ac ar hynny:-

 

Cais Rhif C/2023/0212

Fferm Penrhiwgwaith, Lôn Pen-Rhiw-Gwaith, Llwyncelyn, Y Coed Duon, NP12 0ST

Gosod tyrbin gwynt a seilwaith cysylltiedig gan gynnwys sylfaen tyrbin, llawr caled ar gyfer craen/ardal cadw offer, gwella trac mynediad presennol, cynhwysydd trawsnewidydd a cheblau cysylltiedig

 

Yn dilyn cynnal pleidlais, yr oedd ei chanlyniad yn unfrydol

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd Cynllunio gyda’r amodau a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad a rhoi pwerau dirprwyedig i Swyddogion Cynllunio ddiwygio geiriad yr amodau fel y bo angen.