Mater - cyfarfodydd

Lime Avenue Business Park and Boxworks Progress Update

Cyfarfod: 28/04/2021 - Pwllgor Craffu Adfywio (eitem 8)

8 Diweddariad Cynnydd Parc Busnes Rhodfa Calch a Boxworks pdf icon PDF 508 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Prosiectau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Prosiectau Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad cynnydd ar Uned Fusnes Rhodfa Calch a chynllun Boxworks ar hen safle’r Gweithfeydd.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod os y gallai’r Cyngor ad-hawlio’r gwariant o gronfa cymorth Covid a hefyd os oes gwarant y bydd y Cyngor yn adennill yr arian a wariwyd yn ystod cyfnod oes 15 mlynedd yr unedau.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y ddau brosiect a chaiff pob opsiwn eu hymchwilio ar ran y gorwariant.

 

Dywedodd Aelod y dylid cynnwys y galw am holl unedau’r Cyngor ar flaen-raglen waith y Pwyllgor Craffu, gan iddi dderbyn cwynion am gyflwr rhai o’r unedau a’r cynnydd mewn rhent.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y caiff portffolio unedau diwydiannol y Cyngor ei gynnwys ar y Flaenraglen Gwaith.

 

Esboniodd yr Arweinydd Tîm, pan gaiff y datblygiadau ar gyfer y ddau brosiect eu cyflwyno, y cynhelir dadansoddiad galw yn yr ardal o ran yr unedau sydd eisoes yn eu lle, y lefel o ddiddordeb a lle gallem ateb y galw. Mae unedau Boxworks yn ddarpariaeth wahanol i unrhyw beth arall yn y Fwrdeistref ac o’r dadansoddiad galw rydym yn rhagweld galw yn seiliedig ar ymholiadau a gawsom ac na fu modd i ni eu diwallu.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at adroddiad y ‘Parc Cyflogaeth’ ar yr agenda blaenorol a chadarnhaodd yr edrychwyd eto ar y dadansoddiad o’r galw fel rhan o’r gwaith hwnnw, a bod tystiolaeth yn dangos galw am unedau llai tebyg i Boxworks.

 

Gofynnodd Aelod arall os sefydlwyd unrhyw gostau rhent a ph’un a fyddai unrhyw derfyn amser ar rent yr unedau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio ei bod yn bwysig i gynnig hyblygrwydd o ran hyd y cyfnod rhentu. Datblygwyd opsiynau o amgylch trefniant trwydded 6 mis ac opsiwn estynedig, a rhagwelir cynnydd yn y galw fel canlyniad i’r newid mewn trefniadau gwaith oherwydd pandemig Covid.

 

Yn nhermau costau rhent ac yn y blaen, dywedodd fod hyn yn seiliedig ar asesiadau cyfradd marchnad ac y byddai’n cynnwys costau parhaus ar gyfer yr unedau.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bwriedir darpariaeth hyblyg ar gyfer yr unedau blwch i alluogi busnesu newydd bach i rentu ar sail tymor byr, ond hefyd i ddatblygu dilyniant a rhoi cefnogaeth i alluogi’r busnesau hynny wrth iddynt dyfu a’u bod angen mwy o ofod, i symud i unedau presennol mwy o fewn y Fwrdeistref.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn r adroddiad a:

 

        i.            Nodi’r cynnydd a wnaethpwyd hyd yma gydag Uned Fusnes Rhodfa Calch a hefyd Boxworks, gyda disgwyl cwblhad terfynol ym Mehefin 2021; a

 

      ii.            Nodi y cyflwynir adroddiad cau manwl i’r Pwyllgor Craffu yn ddiweddarach eleni, hefyd yn cynnwys canfyddiadau o adroddiad ymgynghoriaeth Wavehill, sy’n amod cyllid WEFO.