7 Her Catalydd GovTech PDF 438 KB
Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd prosiect Catalydd GovTech, sy’n gronfa £20m gan Wasanaethau Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio gyda chyflenwyr i ddatrys problemau sector cyhoeddus yn defnyddio technoleg ddigidol flaengar
Cyflwynodd Adran Adfywio y Cyngor nifer o syniadau prosiect i dîm Catalydd GovTech ac yn 2018 gwahoddwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gydweithio ar hyn gyda Chyngor Swydd Durham ar brosiect dan y teitl “Data deallus i drawsnewid darpariaeth gwasanaethau cyngor”. Byddai’r prosiect yn edrych sut y gellid defnyddio asedau presennol, tebyg i gerbydau’r Cyngor, i gefnogi a gwella sut ydym yn darparu ein gwasanaethau.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm y gellid defnyddio’r dechnoleg mewn unrhyw gerbyd, yn cynnwys cerbydau ailgylchu a sbwriel y Cyngor.
Dilynodd trafodaeth fer pan gadarnhaodd y swyddog y byddai cyfle i fireinio’r dechnoleg yn y dyfodol i drin materion eraill.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi cynnydd y prosiect, a darparu adroddiad pellach ar ganlyniad y prosiect.