4 Dalen Weithredu – 9 Mawrth 2021 PDF 91 KB
Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, yn cynnwys:-
Grantiau a ddyfarnwyd i’r Gyfarwyddiaeth Addysg
Nodwyd, oherwydd camgymeriad, y byddid yn newid Atodiad 2 ar system Modern.Gov yn dilyn y cyfarfod.
Yng nghyswllt cyllid dogn, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y byddai’n cydlynu gyda chydweithwyr cyllid ac yn rhoi diweddariad i Aelodau.
Holodd Aelod pam nad oedd cyllid Grant Amddifadedd Disgyblion wedi ei restru ar Atodiad 2. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg mai dim ond cyllid a dderbyniwyd yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a restrir yn Atodiad 1 yn unol â’r cais gwreiddiol. Caiff y Grant Amddifadedd Disgyblion ei weinyddu drwy EAS.
Teimlai Aelod ei bod yn bwysig cael gwybodaeth ar gyllid Grant Amddifadedd Disgyblion gan y caiff yn awr ei asesu bob 3 blynedd a gallai ysgolion weld gostyngiad sylweddol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y rhoddir gwybodaeth am gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer blynyddoedd 2019/20 a 2020/21 ar gyfer y cyfarfod nesaf drwy’r Ddalen Weithredu a dywedodd eto y caiff ei weinyddu’n rhanbarthol gan EAS. Esboniodd y Cyfarwyddwr mai oherwydd meini prawf y caiff y Grant ei ddosbarthu drwy’r consortia rhanbarthol, fodd bynnag mae EAS yn defnyddio’r wybodaeth a gyflwynir gan y Cyngor yng nghyswllt nifer y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim i benderfynu lefel y Grant i’r Cyngor. Bu cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ac roedd tua 1,700 yn derbyn taliadau uniongyrchol. Caiff y broses ei monitro’n wythnosol a lansiwyd ceisiadau yn unol â dymuniadau ysgolion gan gydlynu’n gyson gyda rheini er mwyn diwallu anghenion teuluoedd.
Holodd Aelod os caiff ffioedd gweinyddiaeth eu tynnu o’r grantiau a roddir. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Llywodraeth Cymru yn cynnig swm bach iawn o gyllid ar gyfer gweinyddu’r grant. Mae cyfanswm y gyllideb a ddirprwywyd a gaiff ei throsglwyddo’n uniongyrchol i ysgolion tua 86%.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Atodiad 1 a chododd bryder am y swm bach o grantiau a dderbynnir ar gyfer prosiectau tebyg i Gwnsela Ysgolion a Phrosiect Gweithgaredd Haf Ysgolion. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y swm hwn yn ychwanegol at y cyllid a dderbyniwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth Cwnsela Ysgolion. Mae’n cydnabod y galw ychwanegol a fu ar y gwasanaeth a byddai’n ategu’r gyllideb a dderbyniwyd eisoes. Yng nghyswllt y £6,000 ar gyfer y Prosiect Gweithgaredd Haf Ysgolion, mae hyn yn gysylltiedig gyda’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol i gefnogi dysgwyr mewn cyfnodau o wyliau ysgol. Byddai’r Rheolwr Trawsnewid Addysg yn rhannu’r adroddiad deilliant o gynllun y llynedd i ddangos peth o’r gwaith a wnaethpwyd.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithgaredd.