10 Adroddiad Canolfan Peirianneg Uwch a MTC PDF 681 KB
Ystyried adroddiad y Rheolwr Datblygu Sgiliau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Datblygu Sgiliau.
Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Sgiliau yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth adroddiad Sgiliau’r Dyfodol Blaenau Gwent a’r cynnig cyllid dilynol a gyflwynwyd i Cymoedd Technoleg ar gyfer ailwampio adeilad Monwell i fod yn Ganolfan Uwch Beirianneg.
Prynodd y Cyngor hen ffatri Monwell yn 2018 a mynd ati i ddatblygu’r safle i wireddu uchelgais i greu safle a fyddai’n cefnogi anghenion sgiliau y diwydiant gweithgynhyrchu ar draws Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn y dyfodol.
Ym mis Rhagfyr 2020 cyhoeddodd MTC Training Services eu canfyddiadau yn seiliedig ar ymchwil ar draws diwydiant Blaenau Gwent ar gyfer argymhellion Sgiliau’r Dyfodol a chyflawni o fewn y ganolfan hyfforddiant arfaethedig, a rhoddir hyn yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhaodd y Swyddog fod hwn yn brosiect ailwampio, yn defnyddio’r strwythur presennol ac adeiladu arno. Byddai maint gwaelod yr adeilad yn aros yr un fath ac mae’r cynlluniau yn cynnwys llawr mezzanine i gynyddu gofod llawr ar gyfer ystafelloedd dosbarth. Darperir parcio y tu allan o fewn y safle.
Dywedodd Aelodau fod hwn yn brosiect cyffrous, gan ddod ag adfywio, addysg a hyfforddiant i gyd dan un to ac yn ogystal â buddsoddi mewn adeilad gwag yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd y Swyddog fod yr amserlen yn dyn gan fod y Coleg yn dymuno mynd ar y safle fis Medi nesaf ac mae Swyddogion yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru yn nhermau cyllid. Dywedodd fod hwn yn gyfle cyffrous a bod gweithgynhyrchwyr yn yr ardal wir eisiau’r math hwn o gyfleuster.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a:
i. Chymeradwyo adroddiad MTC a’r argymhellion cysylltiedig; a
ii. Nodi a chymeradwyo cynnig Cymoedd Technoleg i ailwampio Monwell yn Ganolfan Uwch Beirianneg (Opsiwn 2).