Mater - cyfarfodydd

Tredegar Townscape Heritage Initiative Progress Report

Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwllgor Craffu Adfywio (eitem 9)

9 Adroddiad Cynnydd Cynllun Treftadaeth Treflun Tredegar pdf icon PDF 402 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J.C. Morgan fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol yng nghyswllt Cynllun Treftadaeth Treflun Tredegar a hefyd giplun o’r prosiectau a gwblhawyd hyd yma.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am brosiect yr NCB, cadarnhaodd y Swyddog fod yr ymgeisydd a’r contractwr yn dal yn ymroddedig i’r prosiect yn dilyn trafodaethau. Fodd bynnag, pe byddai’r ymgeisydd yn penderfynu peidio symud ymlaen, yna byddai’r Cyngor yn ystyried ei sefyllfa yn nhermau’r cyllid a ddarparwyd hyd yma.

 

Dywedodd Aelod y cafodd diweddariad ar brosiect yr NCB ei roi yng nghyfarfod y Bwrdd Ymgynghorol yr wythnos flaenorol a bod y perchennog yn bendant iawn yn dal i fod gyda ni a bod ganddynt bob bwriad o gwblhau’r gwaith.Cafodd Nick Landers ac Amanda Phillips eu canmol gan yr Awdurdod am eu gwaith a chyfraniad ardderchog i’r Cynllun.

 

Soniodd am 10 Y Cylch a dywedodd fod hwn yn brosiect pwysig iawn a bod y Bwrdd Ymgynghorol yn falch tu hwnt o’r gwaith a wnaed a chyfraniad Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, Cymru Creation a’r gymuned. Soniodd y bu Ysgol Gyfun Tredegar hefyd yn ymwneud â datblygu’r adeilad ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol ac y byddai hyn yn denu ysgolion o bob rhan o Dde Cymru. Dywedodd fod creu’r GIG yn rhoi safbwynt cenedlaethol i Dredegar na fyddai wedi digwydd heb brosiect Cynllun Treftadaeth Tredegar.

 

Awgrymodd Aelodau y dylid gwahodd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo i roi cyflwyniad i gyfarfod yn y dyfodol fel rhan o’u gwaith parhaus.

 

Dywedodd Aelod arall fod hwn yn brosiect gwerth chweil iawn a hefyd yn gatalydd ar gyfer gweddill Blaenau Gwent yn neilltuol wrth ddatblygu twristiaeth yn yr ardal.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a:

      i.        Nodi’r estyniad i raglen Cynllun Treftadaeth Tredegar y bwriadwyd ei gau yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020 a’r dyddiad cwblhau newydd o fis Rhagfyr 2021.

 

    ii.        Cydnabod cynnydd a wnaed hyd yma gydag adnewyddu’r adeiladau a amlinellir yn 2.4 a hefyd a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

   iii.        Nodi ymgyfraniad Bwrdd Ymgynghorol Cynllun Treftadaeth Tredegar sy’n gyfrifol am reolaeth barhaus y rhaglen a sicrhau y caiff yr egwyddorion allweddol dilynol eu gweithredu ar gyfer methodoleg cyflenwi’r rhaglen:

·         Cadw’r weledigaeth ar gyfer y craidd hanesyddol

·         Cynorthwyo wrth gynllunio, rhaglennu a chyflwyno digwyddiadau

·         Cynorthwyo gyda’r broses ddethol.

·         Sicrhau fod y cynigion dehongli a mynediad a ddaw i’r amlwg yn cydymffurfio gyda’r weledigaeth sylfaenol ar gyfer y prosiect.

·         Datblygu ymhellach y syniadau dehongli a chysylltiadau gyda chynulleidfaoedd perthnasol

·         Datblygu papurau gwybodaeth manwl pellach ar:

-       Darpariaeth addysgol

-       Ymgyfraniad y gymuned.