Mater - cyfarfodydd

Progress Update: RE:FIT Project

Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwllgor Craffu Adfywio (eitem 7)

7 Diweddariad Cynnydd: Prosiect RE:FIT pdf icon PDF 471 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.  .

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd prosiect RE:FIT i gyflwyno ynni a gaiff ei reoli’n fwy effeithiol  fewn adeiladau’r Cyngor a gostwng costau ynni i’r Cyngor, Ymddiriedolaeth Hamdden ac ysgolion yn y blynyddoedd i ddod.

 

Ystyriwyd yn wreiddiol fod tua 35 adeilad yn rhan o brosiect RE:FIT Blaenau Gwent a chafodd y cynllun dechreuol ei ddatblygu. Cafodd y cam hwn ei rannu ymhellach yn gamau llai i alluogi gwneud gwaith fel y datblygwyd ac y cytunwyd ar gynigion, a rhoddir sylw i’r rhain yn adrannau 2.5 – 2.17 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Swyddog, er y byddai arbedion ynni blynyddol, fod y rhai a ddynodir yn adran 5.8 yr adroddiad yn arbedion ynni crynswth. Defnyddir yr arbedion hyn i wneud yr ad-daliadau dwywaith y flwyddyn o’r benthyciad i Salix. Er mwyn sicrhau arbedion yn y flwyddyn, caiff ad-daliadau’r benthyciad eu hymestyn o 8 mlynedd i 10 mlynedd a byddai hyn yn galluogi adeiladau i fanteisio o rai o’r arbedion a sicrhawyd o gymryd rhan yn y prosiect. Unwaith y bydd yr ad-dalu wedi ei orffen, byddai’r holl adeiladau yn manteisio o’r holl arbedion.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.15 yr adroddiad a gofynnodd os mai hyn oedd cyfanswm ffigur y goleuadau stryd o fewn ardaloedd preswyl Blaenau Gwent.

 

Dywedodd y Swyddog y byddai’n gwirio os mai ffigur preswyl yn unig yw hyn neu os yw’n cynnwys ardaloedd eraill. Fodd bynnag, dywedodd os oedd unrhyw oleuadau ar ôl, y gellid ystyried cam posibl yn y dyfodol ac mae Salix wedi dweud y byddent yn croesawu prosiectau eraill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog y caiff y goleuadau stryd eu gweithredu gan un system rheoli yn y dyfodol fel y manylir yn adran 2.13 yr adroddiad.

 

Yn nhermau prosiectau’r dyfodol, gofynnodd Aelod os y gellid ystyried arwyddion rheoli traffig ffyrdd. Dywedodd y Swyddog y byddai’n cydlynu gyda’r Tîm Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd Aelod arall y gwyddai fod nifer o ysgolion yn bryderus am gymryd rhan yn y prosiect ac os y byddai’r arbedion posibl a sicrheid yn ddigonol ar gyfer ad-dalu’r benthyciadau, a gofynnodd am wybodaeth ar y ffigurau.

 

Dywedodd y Swyddog nad oes unrhyw ffigurau ar gael ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid. Esboniodd y caiff yr arbedion eu cyfrif ar broffil neilltuol ac amcangyfrifon yn seiliedig ar i adeiladau fod yn weithredol. Fodd bynnag, bu’r ysgolion ar gau oherwydd Covid felly byddai hyn yn effeithio ar yr arbedion. Cadarnhaodd y Swyddog y bwriedir cynnwys astudiaethau achos o adeiladau yn yr adroddiad nesaf i’r Pwyllgor yn nhermau’r hyn a gaiff ei osod a’r costau ac arbedion ac yn y blaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi cynnydd y prosiect, ac y caiff adroddiad bellach ar berfformiad ei roi yn y dyfodol.