Mater - cyfarfodydd

Use of Consultants

Cyfarfod: 05/03/2021 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 8)

8 Defnydd Ymgynghorwyr pdf icon PDF 495 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i Aelodau yn ymwneud â gwariant a wnaed yn ystod 2018/2019 a 2019/2020 ar ddefnydd ymgynghorwyr i gefnogi, atodi ac ategu gwaith Swyddogion ar draws y Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y cafodd adroddiad ar Ddefnydd Ymgynghorwyr ar gyfer 2018/2019 a 2019/2020 ei gyflwyno a’i dderbyn ym mhob Pwyllgor Craffu ac argymhellodd fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn yn y Pwyllgor hwn.

 

Gofynnodd Arweinydd y Gr?p Lafur am wybodaeth bellach am AMEO Professional Services Cyf. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod AMEO yn ymgynghorwyr y gofynnwyd iddynt am gymorth yn ystod yr adolygiad dechreuol o daliadau trydydd parti. Mae’r ymgynghorwyr wedi helpu i ddatblygu strwythur a fframwaith i adolygu contractau sydd eisoes yn eu lle a dynodi’r contractau hynny y gellid eu hailnegodi gyda’r potensial o sicrhau arbedion neu well gwerth am arian. Mae’r gwaith a wnaethpwyd wedi helpu i gyflawni targedau ar wariant trydydd parti fel rhan o gynigion Pontio’r Bwlch.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at ddiweddaru meddalwedd gan Northgate Public Services. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau mai Northgate yw un o brif ddarparwyr y Cyngor ar gyfer pecynnau meddalwedd ariannol. Defnyddir un o’r pecynnau meddalwedd hynny i weinyddu’r gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau sydd angen diweddaru meddalwedd bob hyn â hyn. Os yw’r meddalwedd yn datblygu unrhyw broblemau mae’r arbenigedd ganddynt i unioni’r problemau hynny a sicrhau fod y feddalwedd yn gweithredu mor effeithlon ag sydd modd. Yn achlysurol, mae angen i gwmnïau gynnal gwaith cynnal a chadw cyffredinol, monitro ac uwchraddio’r system.

 

Cyfeiriodd Aelod at Midland Software Limited a holodd os oedd hyn yn gysylltiedig gyda system iTrent. Cadarnhaodd y Prif Swyddog ei fod wedi cysylltu gyda system iTrent Datblygu Sefydliadol ac y byddai angen i unrhyw uwchraddio neu ddatblygiadau i’r system gael eu gwneud gan yr ymgynghorwyr.

 

Dywedodd Aelod y cafodd yr adroddiad ar ddefnydd ymgynghorwyr ei ystyried gan bob portffolio ac mae’r adroddiad hwn yn rhoi enghraifft dda o sut y gallai defnydd ymgynghorwyr arwain at arbed arian. Teimlai fod nifer o enghreifftiau lle gallai defnydd ymgynghorwyr fod yn fanteisiol.

 

Cytunodd Arweinydd y Gr?p Llafur gyda sylwadau’r Aelod ac ychwanegu fod y weinyddiaeth flaenorol wedi defnyddio ymgynghorwyr PriceWaterhouse Coopers i edrych ar yr holl Awdurdod, a bod hynny wedi arwain at arbedion sylweddol mewn rhai gosodiadau cyllideb anodd. Teimlai mai hon oedd y ffordd iawn a chywir i ddefnyddio ymgynghorwyr.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod achlysuron pan mae defnydd ymgynghorwyr yn fanteisiol oherwydd eu harbenigedd ac mae’r adroddiad hwn yn dangos yr arbedion y gallai’r Awdurdod eu sicrhau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef nodi’r adroddiad ar Ddefnyddio Ymgynghorwyr.