Mater - cyfarfodydd

Statement of Accounts 2019/2020

Cyfarfod: 02/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 8)

8 Datganiad Cyfrifon 2019/2020 pdf icon PDF 759 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Bartner Busnes Cyfrifeg Cyfalaf a Chorfforaethol.

 

Cytunwyd y dylai eitemau rhif 7 a 8 gael eu hystyried ar yr un pryd.

 

Cyflwynodd yr Uwch Bartner Busnes Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2019/20. Dywedodd y cafodd gwasanaethau hanfodol eu blaenoriaethu yn ystod camau cyntaf pandemig Covid 19 gyda staff yn cael eu symud i’r gwasanaethau hanfodol hynny i gefnogi ymateb y Cyngor. Fel canlyniad, cafodd cwblhau’r Datganiad Cyfrifon ei oedi gyda Llywodraeth Cymru yn argymell fod awdurdodau lleol yn paratoi eu drafft gyfrifon erbyn 31 Awst 2020 ac yn cyhoeddi cyfrifon archwiliedig terfynol erbyn 30 Tachwedd 2020.

 

Cafodd drafft Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor ei adrodd i’r Pwyllgor Archwilio ar 29 Medi ac ers hynny dynodwyd nifer o addasiadau a chânt eu hadrodd i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Fel sydd angen dan Adran 11 Rheoliadau 2014 ac Adran 29 Deddf 2004, bydd y Cyfrifon a dogfennau eraill ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio am 20 diwrnod gwaith o ddydd Llun 5 Hydref tan ddydd Gwener 30 Hydref 2020 cynhwysol a ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am wybodaeth neu archwilio yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod Archwilio Cymru bellach wedi cwblhau archwiliad ariannol manwl o’r Cyfrifon ac wedi paratoi ei Adroddiad Archwiliad Statudol o Gyfrifon (Safonau Rhyngwladol ar Archwilio neu adroddiad ISA 260), eitem rhif 8 ar yr agenda.

 

Rhagwelai’r Awdurdod dderbyn barn archwiliad diamod wedi’i lofnodi gan yr Archwilydd Penodedig. Ar y cam hwn, ni all Archwilio Cymru roi tystysgrif am gwblhau archwiliad ar gyfer 2019/2020, nes y caiff archwiliadau eu hardystio yng nghyswllt blynyddoedd ariannol blaenorol.

 

Daeth i ben drwy ddweud, os yw’r Pwyllgor Archwilio yn cytuno, y byddai’r Datganiad Cyfrifon yn cael eu llofnodi gan y Prif Swyddog Adnoddau a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

 

Wedyn cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru adroddiad Archwiliad Cyfrifon Archwilio Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol 2019-20.

 

Dywedodd fod hwn yn gyffredinol yn adroddiad cadarnhaol a chadarnhaodd fod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni. Aeth yn sydyn drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd na all Archwilwyr byth roi sicrwydd llwyr y caiff cyfrifon eu nodi’n gywir a’u bod yn hytrach yn gweithio i lefel o ‘berthnasedd’, a osodir i geisio dynodi ac unioni cam-ddatganiadau a allai fel arall achosi i ddefnyddiwr y cyfrifon gael eu camarwain, a’r lefel perthnasedd yw £2.66m ar gyfer archwiliad eleni. Fodd bynnag mae rhai rhannau o’r cyfrifon a all fod yn fwy pwysig i’r darllenydd, ac yn y cyswllt hwn gosodwyd lefel perthnasedd is ar eu cyfer h.y. tâl Uwch Swyddogion £1,000 a Phartïon Cysylltiedig £100,000.

 

Dywedodd Swyddog Archwilio Cymru y cafodd pandemig Covid effaith sylweddol ar bob agwedd o gymdeithas ac yn parhau i gael hynny ac mae hyn wedi arwain at i’r drafft gyfrifon cael eu cwblhau ar gyfer archwilio erbyn 23 Medi 2020, tua tri mis yn hwyrach na’r amserlen wreiddiol. Fodd bynnag, dywedodd fod Archwilio Cymru yn ddiolchgar i Dîm Cyllid y Cyngor am eu cefnogaeth yn ystod yr archwiliad.

 

Dywedodd fod y pandemig  ...  view the full Cofnodion text for item 8