Mater - cyfarfodydd

Audit Plan Progress Report – January to February 2021

Cyfarfod: 02/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 7)

7 Adroddiad Cynnydd y Cynllun Archwilio – Ionawr i Chwefror 2021 pdf icon PDF 497 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd ar y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2021 i 28 Chwefror 2021. Dangosir gweithgareddau yn ystod y cyfnod yn Atodiad A yr adroddiad ac mae’r fformat yn dangos crynodeb o ganfyddiadau o adroddiadau archwilio a gynhyrchwyd yn y cyfnod, yn cynnwys barn archwilio ffurfiol lle’n briodol. Lle cafodd archwiliadau unigol eu graddio fel Sicrwydd Cyfyngedig neu Dim Sicrwydd, cyflwynwyd Adroddiad Cryno Archwiliad Mewnol yn Atodiad B.

 

Gofynnodd Aelod os yw’r Adran Archwilio ar y targed i gwblhau lefelau cwmpas archwilio digonol i ffurfio barn ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Esboniodd y Swyddog fod yr adroddiad cynnydd a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf yn seiliedig ar waith dros gyfnod o 9 mis a bod yr Adran yn ôl ar y trywydd i gwblhau pob archwiliad ariannol ar gyfer diwedd Mawrth 2021.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y Swyddog y cafodd archwiliadau Dechrau’n Deg a SIMS Ysgolion eu gohirio oherwydd y cafodd gwasanaethau eu hailflaenoriaethu ond bwriedir symud ymlaen gyda nhw’n awr a gobeithir eu gorffen tua diwedd y flwyddyn. Yng nghyswllt yr Adolygiad Thematig, dywedodd y Swyddog fod hwn yn archwiliad peilot yn edrych ar systemau niferus mewn amrywiaeth o feysydd. Gan fod hwn yn faes newydd o waith, nid oes amserlen bendant i gwblhau’r archwiliad gan ei fod yngl?n ag ymchwilio os y byddai’n ychwanegu gwerth ac yn osgoi dyblygu gwaith. Rhoddir adroddiad ar ganlyniadau’r cynllun peilot i gyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod wedyn at Atodiad B Archwiliad Gofal Cymunedol a gofynnodd am eglurhad ar y crynodeb o ganfyddiadau.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod rhoi gofal cymunedol a mesurau rheoli mewnol yn gweithredu’n effeithlon. Mae mwyafrif y canfyddiadau yn dangos gwendidau yng nghyswllt prosesau sicrwydd ansawdd, fodd bynnag cafodd y rhain eu hailgynllunio’n awr fel canlyniad i’r archwiliad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r canfyddiadau o fewn yr Atodiadau a cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2021 i 28 Chwefror 2021.