10 Adroddiad Cynnydd Pwyllgor Archwilio PDF 504 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.
Cyflwynodd Archwilydd Proffesiynol Archwilio Mewnol yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar gynnydd am y cyfnod 1 Ebrill i 31 Rhagfyr 2020, a chadarnhau’r broses ar gyfer penderfynu ar feysydd blaenoriaeth y cynllun archwilio gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Dywedodd y Swyddog i’r Awdurdod weithredu trefniadau cynllunio argyfwng ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/20 fel canlyniad i bandemig Covid-19. Fel canlyniad, dim ond gwasanaethau critigol oedd yn gweithredu yn ystod y cyfnod clo a chafodd staff archwilio eu hadleoli i gynorthwyo yn y meysydd hyn. Fe wnaeth yr adleoli barhau drwy gydol chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol ac effeithio ar allu yr adran i gwblhau gwaith archwilio. Felly, roedd Cynllun Archwilio Mewnol 2020/21 yn seiliedig ar 9 mis y flwyddyn o fis Gorffennaf 2020 i fis Mawrth 2021.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Swyddog fod camgymeriad teipio yn Atodiad D a chadarnhaodd y dylai’r golofn ddarllen ‘2019/20 Gwirioneddol i fis 9’.
Holodd Aelod am y gost hanesyddol o £33 y dyn a amlygwyd o fewn Cynnal a Chadw Priffyrdd ar Atodiad C, ac os y byddai’r rhain yn effeithio ar y gyllideb cynnal a chadw priffyrdd.
Esboniodd y Swyddog fod Atodiad C yn dangos lle na chafodd archwiliadau dilynol lle dynodwyd gwendidau eu cynnal. Fel yr amlinellwyd, mae’r Swyddog wedi cwrdd gyda’r Adran Cyfrifeg a bydd y gost yn parhau.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a’r Pwyllgor Archwilio:
Pharhau i roi her briodol lle’n berthnasol a chefnogi dewis gweithgareddau archwilio ar gyfer cynllun archwilio gweithredol 2020/21.