Mater - cyfarfodydd

Integrated Care Fund (ICF) Update 2019/20

Cyfarfod: 10/12/2020 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 5)

5 Diweddariad Cronfa Gofal Integredig (ICF) 2019/20 pdf icon PDF 514 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi trosolwg ar y dyraniad presennol o gyllid ar gyfer prosiectau a gaiff eu monitro gan yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac a gyllidir drwy Gronfa Gofal Integredig (ICF) Llywodraeth Cymru fel ym mis Tachwedd 2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a hysbysodd Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi diweddariad llafar am ymestyn y gronfa ymhellach ar gyfer y flwyddyn bontio (2021/22), fodd bynnag ni chafwyd cadarnhad swyddogol hyd yma o’r union ddyraniad. Pedwar maes allweddol yr ICF yw:

 

·       Pobl h?n gydag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor yn cynnwys dementia

·       Pobl gydag anableddau dysgu

·       Plant gydag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch

·       Gofalwyr, yn cynnwys gofalwyr ifanc

 

Yng nghyswllt prosiectau a nodwyd fel blaenoriaeth uchel/critigol, holodd y Cadeirydd os yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid rhanbarthol wedi gwneud ymdrechion cadarn i godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru am yr effaith niweidiol y byddai dileu’r cyllid yn ei gael ar y prosiectau hyn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol fel cynrychiolwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi tynnu sylw’n barhaus at y pryderon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae graddiad risg y prosiectau wedi rhoi dealltwriaeth glir o’r effaith o hyn ymlaen a rhoddwyd yr adroddiad terfynol i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar y graddiad risg a’r pwysau ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am sut y gallai effaith staff yn gadael effeithio ar redeg y gwasanaethau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bu hyn yn her drwy gydol y prosiectau ICF, ond gyda sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid am y flwyddyn ychwanegol, nid oedd nifer sylweddol o staff wedi gadael ond mae hyn yn risg uchel yn gysylltiedig ag unrhyw raglen cyllid grant.

 

Yng nghyswllt swyddi, holodd Aelod am y gwahaniaeth rhwng swyddi wte (cyfwerth ag amser cyflawn) a swyddi cyfwerth ag amser llawn. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gwahaniaeth rhwng y ddau; mae nifer o swyddi yn rhai rhan-amser a gall rhai staff sydd â swyddi parhaol rhan-amser o fewn yr awdurdod lleol fod yn gweithio’n llawn-amser drwy wneud yr oriau lan yn defnyddio cyllid ICF.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar yr estyniad a gynigir i T? Augusta, Glynebwy. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bu oedi i ddechrau oherwydd y pandemig ond y cafodd cynlluniau eu hadolygu a’u bod wedi mynd yn ôl i Cynllunio. Mae gwaith ymchwilio yng nghyswllt y gwaith daear eisoes yn mynd rhagddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am ddyraniad cyllid Blaenau Gwent ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gall y broses ddyrannu a chynnig fod yn gymhleth gan fod ffrydiau cyllid refeniw a hefyd gyfalaf o fewn cynllun buddsoddiad yr ICF. Ers 2014 bu cylchoedd cynnig bob blwyddyn, os oedd prosiect oedd yn addas ar gyfer ICF ac yn gydnaws â blaenoriaethau strategol yr awdurdod lleol, yna cyflwynir cynnig i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae rhai prosiectau yn rhanbarthol felly byddai  ...  view the full Cofnodion text for item 5