Mater - cyfarfodydd

South East Wales Resilient Uplands – Wales Rural Development Programme Sustainable Management Scheme

Cyfarfod: 07/12/2020 - Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol (eitem 9)

9 Ucheldir Cydnerth De Ddwyrain Cymru – Cynllun Rheoli Cynaliadwy Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru pdf icon PDF 563 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Mr Nicholas Alvin, y Swyddog Prosiect, ei groesawu i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Amgylchedd Naturiol yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar brosiect rhanbarthol cyfredol Ucheldir Cydnerth De Ddwyrain Cymru (SEWRU) a gwaith y Cyngor yn cefnogi cyflwyno’r prosiect 3-blynedd (2018-2021).

 

Mae SEWRU yn brosiect ar y cyd, yn cynnwys Cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaethau Heddlu, Tân ac Achub, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. CBS Torfaen yw arweinydd y prosiect a ffocws SEWRU yw cyflawni camau gweithredu blaenoriaeth o’r Cynllun Rheoli Adnoddau Naturiol ar gyfer Ucheldiroedd De Ddwyrain Cymru a gynhyrchwyd yn 2015 a enillodd wobr y Sefydliad Tirlun. Atodir cynlluniau cyflenwi manwl yn Atodiad 2.

 

Dywedodd y Swyddog fod y prosiect hyd yma wedi dynodi a chwblhau nifer o brosiectau adfer tir mawn, wedi cynhyrchu cynlluniau rheoli tir comin (yn cynnwys cynllun rheoli cyrchfan manwl ar gyfer Mynydd Llanhiledd), wedi adfer llawer o gilometrau o ffensys da byw comin, a rheoli rhostir ucheldir pwysig i ostwng risg tân a hwyluso porthi cadwraeth. Mae SEWRU yn gweithio ar hyn o bryd gyda Heddlu Gwent a phartneriaid eraill i ddiweddaru’r Cynllun Rheolaeth a chynhyrchu cynlluniau rheoli troseddau tirlun gyda ffocws ar ucheldir ar gyfer pob comin o fewn y prosiect.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad a gofynnodd os yw Manmoel yn cael ei gynnwys yn y cynllun rheolaeth tir comin. Mynegodd bryder am broblemau parhaus cerbydau all-ffordd yn defnyddio’r comin i fynd i drac beiciau anghyfreithiol, a’r effaith niweidiol ar y tirlun gwarchodedig.

 

Dywedodd y Swyddog ei fod yn gwybod am broblemau gyda cherbydau all-ffordd a’r trac beiciau a oedd  ar dir preifat tu allan i’r comin. Gwnaed gwaith i geisio sicrhau nad oedd y cerbydau’n mynd ar y comin, ond yn anffodus maent yn parhau i ganfod ffyrdd i fynd trwodd. Gan fod y ffordd i bentref Manmoel ar agor i’r cyhoedd ei defnyddio roedd felly’n anodd ceisio gostwng eu gweithgaredd, gan y gallent ddefnyddio’r ffordd i gyrraedd y trac beiciau, ac mae cyfreithlondeb hynny yn cael ei gwestiynu.

 

Esboniodd Mr. Alvin fod y trefniadau cyllid yn seiliedig ar dir comin uwch na 200m, felly yn hytrach na wardiau gwledig cafodd y cyllid ei dargedu ar ardaloedd ucheldir hanfodol Gwent sydd wedi cofrestru fel tir comin ac ardaloedd ymylol o’u hamgylch, yn cynnwys Manmoel.

 

Diolchodd y Cynghorydd Lee Parsons i’r Cadeirydd am estyn gwahoddiad i’r cyfarfod a dywedodd ei fod yn croesawu’r adroddiad. Gofynnodd os oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw awgrym am gynigion ar gyfer fferm wynt ym Mynydd Llanhiledd.

 

Mewn ymateb dywedodd Mr. Alvin na ymgynghorwyd ag ef ar unrhyw gynigion hyd yma, fodd bynnag ni fyddai’n effeithio ar yr hyn mae SEWRU yn ceisio ei wneud, e.e. datblygu cynlluniau rheoli tirlun ar gyfer pob tir comin, yn cynnwys Mynydd Llanhiledd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Amgylchedd Naturiol y cynhelir asesiad effaith gweledol tirlun ar unrhyw gynigion ar fferm wynt. Roedd ynni adnewyddadwy yn fater pwysig i Lywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 9