9 Strategaeth Fasnachol PDF 420 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol yr adroddiad ac amlinellodd y themâu hanfodol o fod yn debyg i sefydliad masnachol; canolbwyntio ar brofiad cwsmeriaid ar gyfer gwasanaethau presennol a newydd a gostwng aneffeithlonrwydd yn y system ar gyfer cwsmeriaid; darparu gwasanaethau ansawdd da a sicrhau fod y gadwyn gyflenwi yn gweithio’n effeithlon i helpu rheoli costau a hybu enw da y Cyngor.
O safbwynt masnachol, mae angen ymchwilio cyfleoedd newydd, comisiynu’r gwasanaethau cywir yn y ffordd gywir i sicrhau gwerth am arian a sicrhau deilliannau gwell er budd cymunedau.
Yng nghyswllt trefniadau adolygu a monitro, gwnaeth y Prif Swyddog Masnachol gywiriad i baragraff 2.6 yr adroddiad a chadarnhaodd y cyflwynir adroddiad ar gyflawni’r rhaglen waith i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn chwarterol ac nid yn flynyddol fel y nodir yn yr adroddiad.
Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a dywedodd ei bod yn dda gweld y Strategaeth Fasnachol yn dod i ffrwyth gyda ffocws ar Gyngor effeithlon a llunio’r portffolio buddsoddiad.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar y Strategaeth Fasnachol a’r rhaglen waith gysylltiedig (Opsiwn 1).