Mater - penderfyniadau

Cydadroddiad Cyllid a Pherfformiad

03/02/2020 - Cydadroddiad Cyllid a Pherfformiad

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dywedodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant fod yr adroddiad ar y cyd Cyllid a Pherfformiad yn amlinellu chwarteri 1 a 2 sy'n cwmpasu mis Ebrill i fis Medi 2019. Dywedodd y Swyddog y cafodd yr adroddiad ei wella i roi fformat mwy hylaw ac y byddai'n parhau i fod yn ddogfen 'fyw' i roi ystyriaeth i'r adborth a gafwyd.

 

Ar y pwynt hwn aeth y Cadeirydd drwy'r adroddiad a chafodd y cwestiynau/pwyntiau dilynol eu codi.

 

Cyfeiriodd Aelod at alinio'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol a gofynnodd os cafodd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Corfforaethol ei lunio mewn modd priodol i roi'r amserlenni priodol ar gyfer y materion sy'n cael eu hystyried.

 

Dywedodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant y datblygwyd cylch o gyfarfodydd i alinio'r Pwyllgor Craffu gyda rhaglen y cyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhelir yn chwarterol, a bod hyn yn rhoi llwybr adrodd cydlynus. Roedd alinio'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am sut y caiff eu ffrydiau gwaith ei alinio i'r Rhaglen Llesiant Integredig. Roedd hyn yn enghraifft dda o ble gallai dau fwrdd ddod ynghyd a byddai trafodaethau'n mynd rhagddynt drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'u cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu unwaith iddynt gael eu cymeradwyo.

 

Nododd yr Aelod ymhellach y gwaith ar y cyd yn yr adroddiad sy'n cyfeirio at drefniadau cydweithio'r SRS a dywedodd nad dyma'r unig waith ar y cyd a wneir ar draws y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod yr adroddiad yn nodi gwaith ar gyfer chwarteri 1 a 2 ac nad oedd yn dogfennu'r holl waith partneriaeth, dim ond y meysydd lle'r aeth gwaith rhagddo yn y chwarteri penodol. Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod llawer iawn o waith ar y cyd ar draws y Cyngor ac ym mhob gwasanaeth yn cynnwys y Fargen Ddinesig, Cymoedd Technoleg a Thasglu'r Cymoedd. Teimlid y byddai'n fanteisiol i adrodd pob gwaith ar y cyd a gwaith partneriaeth. Fodd bynnag nodwyd y caiff adroddiadau cynnydd ar y Fargen Ddinesig eu cyflwyno'n rheolaidd i'r Pwyllgor Craffu ac y caiff adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 12 Rhagfyr 2019.

 

Yn dilyn cais ar gyfer Sesiwn Wybodaeth Aelodau ar drefniadau gwaith a y cyd a gwaith partneriaeth ar draws y Cyngor, dywedwyd y gellid cynnal sesiwn wybodaeth ar adfywio i aelodau. i drafod gwaith ar y cyd gan y Gyfarwyddiaeth. Gwnaed cais pellach am ddechrau'n hwyr yn y bore a chytunodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant i ddarparu ar gyfer y cais.

 

Nododd Aelod y cynnig cyfalaf a gyflawnwyd ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a gofynnodd os y cyflwynir adroddiad i hysbysu Aelodau ar y prosiect sydd ar y gweill.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y bu'r cynnig cyfalaf am y cynnig gofal plant a dynodwyd ysgolion i weithio gyda nhw yn eu gosodiadau presennol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr amser priodol.

 

Cydnabu Aelod faint o waith da sy'n mynd rhagddo mewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd y Cadeirydd gyda'r sylwadau hyn a mynegodd ddiolch i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol a'r staff am y gwaith a wnaed.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg at absenoliaeth parhaus mewn ysgolion a nododd ei bod yn gadarnhaol fod lefel ysgol gynradd o 1.6% yn is na chyfartaledd Cymru ac yn nhermau ysgolion uwchradd bod 4.1% yr un fath â chyfartaledd Cymru gyfan. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd y cynnydd mewn ysgolion gwyrdd o fewn Blaenau Gwent.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am nifer yr ysgolion coch, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod dwy ysgol goch, fodd bynnag mae'r Awdurdod yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion hyn. Ychwanegodd yr Aelod fod gwaith ar yr ysgolion hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers 2 flynedd ac y bu nifer o benaethiaid yn eu swyddi dros y cyfnod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gan y pennaeth presennol ffocws ac y byddai'n parhau gyda'r gwaith a roddwyd yn ei le. Ychwanegodd y cafwyd trafodaeth dda fel rhan o'r adroddiad Gwella Ysgolion a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Dymunai Aelod ganmol y Cyfarwyddwr Corfforaethol Tai ar ei gwaith. Nododd yr Aelod ei fod wedi gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol ac yn gwybod am ei hymrwymiad i newid mewn Addysg ym Mlaenau Gwent.

 

Gofynnodd yr Aelod ymhellach sut mae Blaenau Gwent yn cymharu gyda'r teulu o ysgolion o fewn ein hardal.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod y system addysg yng Nghymru yn mynd drwy system sylweddol o ddiwygio o amgylch y cwricwlwm a chymwysterau. Cafodd y teulu o ysgolion ei ddatblygu i gymharu data gydag ysgolion tebyg, fodd bynnag nid yw hyn yn cael ei ddefnyddio mwyach ac er y medrid cymharu gwybodaeth perfformiad nid yw mwyach yn dynodi ysgolion. Fodd bynnag, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod ysgolion ym Mlaenau Gwent yn perfformio'n debyg i ysgolion ar draws y rhanbarth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod nifer o grwpiau cymunedol sy'n gweithio mewn ardaloedd penodol sy'n cefnogi cyflawni cymunedau cryf ac amgylcheddol graff yr Awdurdod. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo am yr agenda bioamrywiaeth a charbon isel sydd hefyd yn cysylltu gyda'r cynllun teithio llesol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd am ddefnydd paneli solar, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod rhaglen ailosod £4.1m ar hyn o bryd i osod paneli solar mewn adeiladau newydd ac adeiladau presennol os oes gofod priodol ar gael.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol hefyd at y nifer uwch o fusnesau newydd sy'n dod i Flaenau Gwent sy'n rhoi Blaenau Gwent yn y chwarter uchaf o ran perfformiad yn y maes hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adran Cynigion Rheoleiddio a gofynnodd pam na dderbyniwyd wyth diweddariad/adroddiad.

 

Nododd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant fod yr wybodaeth yn cyfeirio at waith rheoleiddio allanol ac y gallai fod nifer o resymau os cafodd y mater ei gau neu ei ymgorffori mewn cynllunio a gweithgaredd busnes arferol. Fodd bynnag, nododd y pwynt a byddai'n gwneud yn si?r y caiff ei ddiweddaru ar gyfer y chwarter nesaf.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y Gofrestr Risg Gorfforaethol a gyflwynwyd a nododd y ddwy ysgol sy'n derbyn ymyriad y Cyngor ar hyn o bryd sydd wedi methu sicrhau cynnydd am 2 flynedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd hyn ei ddynodi fel risg ac y byddid yn dynodi ac adrodd ar gynnydd yn unol â hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2, sef derbyn yr wybodaeth fel y cafodd ei chyflwyno.