Agenda item

Gweithgaredd Gorfodaeth Tipio Anghyfreithlon 2021/22

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaehtol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Gorfodaeth Rheng Flaen.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar weithgareddau gorfodaeth yr Awdurdod yng nghyswllt tipio anghyfreithlon a throseddau rheoleiddio gwastraff eraill a lefel y gweithgaredd tipio anghyfreithlon o fewn Blaenau Gwent am y flwyddyn 2021/22. Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol i’r Pwyllgor Gweithredol fel y’u cynhwysir yn yr adroddiad.

 

Croesawodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad cadarnhaol a gafodd ei groesawu gan y Pwyllgor Trosolwg Cymunedol. Bu nifer o sylwadau ffafriol ar waith y Tîm Gorfodaeth.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod hwn yn faes a fu’n ffynhonnell cwynion gan aelodau’r cyhoedd am amser maith, na fyddai wedi bod â chonsyrn am yr ochr weithredol gan fod preswylwyr eisiau gweld gweithredu. Roedd y Tîm Gorfodaeth wedi cyflwyno ffyrdd gwahanol o weithio yn hytrach na dyblygu gwahanol wasanaethau ar draws digwyddiadau tîm yn cael eu trin gyda’i gilydd a chaiff eu camau gweithredu eu hamlinellu yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod y Tîm Gorfodaeth yn gynllun y dymunai ei ddatblygu i symud y Cyngor hwn ymlaen. Mae’n flaenoriaeth bersonol ac yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth ac mae’r adborth gan breswylwyr yn gadarnhaol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Gweithredol ymhellach at Ganolfan Ailgylchu Roseheyworth a nodwyd y system archebu a weithredwyd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, fodd bynnag o heddiw ymlaen byddai system hybrid ar waith yn galluogi preswylwyr i droi lan ar y safle heb wneud apwyntiad. Dewiswyd safle Roseheyworth gan ei fod yn safle mwy sydd hefyd â siop ar y safle ar gyfer preswylwyr i ymweld â hi. Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol hefyd y byddai’r gwaith yn dechrau yn fuan ar Ganolfan Addysg ar y safle a fyddai’n addysgu plant am sbwriel ac ailgylchu.

 

Ategodd yr Aelod Gweithredol fod hwn yn adroddiad da sy’n amlygu gwaith y Tîm Gorfodaeth ar draws y Fwrdeistref.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y weinyddiaeth wedi dymuno gwneud y gwaith hwn am flynyddoedd lawer. Bu oedi oherwydd y pandemig, fodd bynnag mae’r gwaith yn cael ei wneud yn awr ac mae’r cyhoedd wedi cydnabod y newidiadau yn eu hardaloedd. Mae’r Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen yn gwneud gwaith ardderchog ac mae’r gwahaniaeth yn y Fwrdeistref wedi bod yn enfawr. Ychwanegodd yr Arweinydd fod cryn ffordd yn dal i fynd gyda chyfuno’r Tîm Gorfodaeth, fodd bynnag roedd yr Arweinydd wedi dweud y dylem gyflwyno’r hysbysiadau cosb a chadw penderfyniad i gadw Blaenau Gwent yn daclus. Mae’r cynnydd a’r gwaith a wnaed yn glod enfawr i’r Adran gyda chefnogaeth Aelod Gweithredol yr Amgylchedd.

 

I gloi ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod yr adroddiad hwn yn dangos y dechrau cryf, fodd bynnag roedd ffordd bell i fynd gyda’r cynllun ac mae’r Aelod Gweithredol yn hyderus y byddai’r Tîm Gorfodaeth yn parhau i sicrhau’r canlyniadau gorau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn parhau i gefnogi’r gwaith rheoleiddio gwastraff a datblygu’r Gwasanaeth Gorfodaeth Rheng-flaen fel y manylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

 

DIWEDDARIAD LLAFUR – MATERION ADDYSG

 

CYMUNED DDYSGU ABERTYLERI

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, ymddiheurodd yr Aelod Gweithredol Addysg am fod yn hwyr yn adrodd yr wybodaeth hon, fodd bynnag dim ond newydd ddod i law y mae ac mae’n newyddion cadarnhaol i’w rannu yng nghyswllt Cymuned Ddysgu Abertyleri ac felly gofynnodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg roi’r diweddariad perthnasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cynhaliwyd arolwg monitro Estyn yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Chwefror 2022. Mae Estyn wedi cyhoeddi’r canfyddiadau heddiw ac mae’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch i adrodd fod y Gymuned Ddysgu wedi gwneud cynnydd digonol ar y 7 argymhelliad ac wedi ei thynnu o Gategori Gwella Estyn. Mae hyn yn newyddion gwych i’r Gymuned Ddysgu a’r Cyngor yn ogystal â phlant Cymuned Ddysgu Abertyleri.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y datblygwyd datganiad i’r wasg mewn cysylltiad gyda’r Pwyllgor Dysgu a dymunai ddiolch iddynt am eu gweithredu prydlon. Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hwn yn fwy o newyddion da i ddod â’ch cylch presennol o gyfarfodydd i ben.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Addysg fod hyn yn newyddion gwych, yn bennaf oll ar gyfer y plant. Bu’n gymaint o daith i’r Gymuned Ddysgu ac mae’r Aelod Gweithredol yn hynod falch ei fod yn awr mewn lle mor gadarnhaol a byddai’n mynd o nerth i nerth. Mynegodd yr Aelod Gweithredol ei diolch i bawb a gymerodd ran wrth sicrhau’r cynnydd gofynnol a chefnogaeth y Pwyllgor Gweithredol ar y cyd yng nghyswllt penderfyniadau i’w cymryd, ynghyd â’r Tîm Addysg a’r staff ysgol mewn cael yr ysgol i’r sefyllfa hon.

 

Diolchodd yr Arweinydd i bawb am fynychu cyn dod â’r cyfarfod terfynol i ben.

 

Dogfennau ategol: