Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 – Amrywio Trwydded Safle – The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn hysbysu’r is-bwyllgor Trwyddedu Statudol am sylwadau a gafwyd yng nghyswllt cais am amrywio trwydded safle yn The Venue, Heol y Gymanwlad, Glynebwy er mwyn galluogi’r Is-bwyllgor i benderfynu ar y cais yn unol â Deddf Trwyddedu 2003. Cyflwynwyd y cais ar 20 Ionawr 2022 gan Mr Sunny Singh Sangha ar gyfer amrywio trwydded safle yn The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy. Roedd trwydded bresennol y safle wedi bod ar waith ers 2005 a nododd y Rheolwr Tîm y gweithgareddau trwyddedadwy fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm fod yr amrywiad arfaethedig yn ymwneud â newid i gynllun mewnol The Venue i ddarparu ar gyfer gostwng maint yr ardal drwyddedig. Nodwyd y cytunwyd ar ganiatâd cynllunio ac na fyddai unrhyw newid yn yr oriau gweithredu. Byddai gan y siop a’r clwb fynedfeydd ar wahân ac ni fyddai’r naill na’r llall yn cyfuno i alluogi mynediad o un i’r llall.

 

Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, fel rhan o’r broses ymgynghori, mae’n ddyletswydd ar yr ymgeisydd i anfon copïau o’r cais at Awdurdodau Cyfrifol. Felly cynhaliwyd ymgynghoriad gyda Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yn ychwanegol, mae’r ymgeisydd wedi rhoi hysbysiad am y cais yn y safle am 28 diwrnod i alluogi pobl eraill, h.y. preswylwyr lleol a busnesau, i wneud sylwadau. Rhoddwyd hysbysiad ar wefan yr awdurdod, hefyd cyhoeddwyd hysbysiad yn y Gwent Gazette o fewn 10 diwrnod o ddyddiad derbyn y cais.

 

Nododd Rheolwr y Tîm na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio, Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan Iechyd yr Amgylchedd a fanylir yn yr adroddiad a chafodd hyn ei gytuno gan yr ymgeisydd.

 

Derbyniwyd sylwadau gan ddau o ‘bobl eraill’ fel y cawsant eu clywed yng nghyswllt y cais blaenorol.

 

Wrth ystyried y cais hwn, mae’n rhaid i’r is-bwyllgor roi ystyriaeth i ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003, yn neilltuol, yr amcanion trwyddedu sef:-

 

  •  Atal troseddu ac anrhefn
  • Diogelwch y cyhoedd
  • Atal niwsans cyhoeddus
  • Amddiffyn plant rhag anaf.

 

Mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref dan adran 182 o’r Ddeddf a pholisi trwyddedu y Cyngor wrth ystyried y cais.

 

Cafodd yr opsiynau ar gyfer argymhelliad a fanylir yn yr adroddiad a benderfynir gan yr Is-bwyllgor.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd i gyflwyno ei achos.

 

Nododd cynrychiolydd yr Ymgeisydd y cais a gyflwynwyd i hwyluso’r ailwampio.

 

Roedd y sylwadau a gafwyd gan Mr a Mrs Adlam yn parhau’r un fath â’r rhai a adroddwyd ar gyfer y cais blaenorol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Teimlai Aelod ei bod yn bwysig fod y ddau fusnes yn cael eu cadw ar wahân.

 

Gadawodd yr Ymgeisydd, cynrychiolydd yr Ymgeisydd, gwrthwynebwyr a’r Swyddogion Trwyddedu y cyfarfod ar y pwynt hwn i Aelodau ystyried y cais.

 

Trafododd yr is-bwyllgor y cais yn faith a gwnaed penderfyniad a gwahoddwyd y mynychwyr yn ôl i’r cyfarfod.

 

Amlinellodd Cyfreithiwr yr awdurdod lleol benderfyniad yr Is-bwyllgor.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau ysgrifenedig ar gyfer y cais am AMRYWIO Trwydded Safle Stôr Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan fel y’i cyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog, ynghyd â’r sylwadau llafar a roddwyd yn y gwrandawiad ar ran yr Ymgeisydd a Gwrthwynebwyr.

 

Hysbyswyd yr Is-bwyllgor am y gwrthwynebiadau dechreuol gan Adran Iechyd yr Amgylchedd a gafodd eu dileu pan gytunodd yr Ymgeisydd i’r gwahanol amodau a nodir yn adroddiad y Swyddog.

 

Wrth gyrraedd ei benderfyniad heddiw, mae’r Is-bwyllgor wedi ystyried darpariaethau perthnasol Deddf Trwyddedu 2003 (yn neilltuol Adran 4) a’r canllawiau a roddwyd dan Adran 182 y Ddeddf a Pholisi Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Mae’r Is-bwyllgor wedi ystyried y Cais yng ngoleuni’r pedwar Amcan Trwyddedu:-

  • Atal troseddu ac anrhefn
  • Diogelwch y cyhoedd
  • Atal niwsans cyhoeddus
  • Amddiffyn plant rhag anaf.

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn gwerthfawrogi fod gan y Gwrthwynebwyr bryderon, fodd bynnag yn seiliedig ar yr amodau a amlinellir yn yr Adroddiad y mae’r Ymgeisydd yn fodlon cydymffurfio â nhw, teimlai’r Is-bwyllgor y dylid caniatau’r cais i amrywio’r drwydded bresennol gyda’r amodau a nodir yn adroddiad y Swyddog ac a gytunwyd fel sy’n dilyn:

 

1.         Ar adegau pan roddir adloniant a reoleiddir a/neu y gwneir darpariaeth ar gyfer adloniant o fewn y safle trwyddedig, mae’n rhaid cadw pob agoriad allanol i’r safle trwyddedu ar gau, heblaw ar gyfer mynd i mewn a gadael y safle.

 

 2.        Ni chaniateir unrhyw fath o uchelseinydd neu offer chwyddo sain yn neu’n agos at unrhyw gyntedd, drws, ffenestr neu unrhyw agoriad allanol yn y safle trwyddedig.

 

Hawl Apelio

 

Mae gan bob parti hawl i apelio i’r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o dderbyn y penderfyniad hwn. Mae gan unrhyw awdurdod cyfrifol neu berson arall hawl i ofyn am adolygiad o’r Drwydded.

 

 

Dogfennau ategol: