Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 – Trwydded Safle Newydd – Siop Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Cyflwynwyd yr Ymgeisydd i Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor ac amlinellodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu y broses i’w dilyn yn y cyfarfod.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd dywedodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn hysbysu’r Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol am sylwadau a gafwyd yng nghyswllt cais am drwydded safle newydd yn Siop Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy er mwyn galluogi’r is-bwyllgor i benderfynu’r cais yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm y cyflwynwyd y cais ar 20 Ionawr 2022 gan Mr Sunny Singh Sangha ar gyfer trwydded safle newydd yn safle Siop Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy. Mae’r siop gyfleus tu mewn i adeilad clwb ‘The Venue’ ac mae Tîm Cynllunio y Cyngor wedi rhoi caniatâd i ailwampio tu fewn adeilad presennol y clwb i alluogi ymgorffori’r siop gyfleus.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y cafodd cais i amrywio safle bresennol y safle yng nghyswllt y clwb i ddynodi’r newid hwn ei gyflwyno hefyd i’r Tîm Trwyddedu ar gyfer penderfyniad. Fel canlyniad i’r ailwampio byddai’r clwb presennol yn cadw ei fynedfa wreiddiol ar ochr yr adeilad a byddai gan y siop gyfleus newydd fynedfa newydd ar du blaen yr adeilad. Ni fyddai mynediad i’r naill safle trwyddedig o’r llall.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm fod yr Ymgeisydd yn dymuno darparu gweithgareddau trwyddedadwy, cyflenwi alcohol yn y safle dydd Llun i ddydd Sul rhwng 08.00am – 10.00pm. Oriau agor arfaethedig y safle fyddai dydd Llun i ddydd Sul 08.00am i 10.00pm.

 

Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, fel rhan o’r broses ymgynghori, mae’n ddyletswydd ar yr Ymgeisydd i anfon copïau o’r cais at Awdurdodau Cyfrifol. Felly cynhaliwyd ymgynghoriad gyda Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yn ychwanegol, roedd yr Ymgeisydd wedi gosod hysbysiad o’r cais yn y safle am 28 diwrnod i alluogi pobl eraill h.y. preswylwyr lleol a busnesau, i wneud sylwadau, cafodd hysbysiad hefyd ei roi ar wefan yr awdurdod a’i gyhoeddi yn y Gwent Gazette o fewn 10 diwrnod o ddyddiad derbyn y cais. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio nac Iechyd yr Amgylchedd. Fodd bynnag, nodwyd y derbyniwyd sylwadau gan Heddlu Gwent.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm y cafodd sylwadau Heddlu Gwent eu tynnu’n ôl gan fod yr Ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys yr amodau a argymhellwyd gan Heddlu Gwent fel y manylir yn yr adroddiad.

 

I gloi, dywedodd y Rheolwr Tîm wrth ystyried y cais fod yn rhaid i’r Is-bwyllgor roi ystyriaeth i ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003, yn neilltuol yr amcanion trwyddedu sef:-

·         Atal troseddu ac anrhefn

·         Diogelwch y cyhoedd

·         Atal niwsans cyhoeddus

·         Amddiffyn plant rhag anaf.

 

Rhaid rhoi ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref dan adran 182 y Ddeddf a pholisi trwyddedu y Cyngor wrth ystyried y cais.

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Tîm yr Is-bwyllgor at yr opsiynau ar gyfer argymhellion fel sy’n dilyn:-

·         rhoi’r trwydded gyda’r amodau sy’n gydnaws gyda’r rhestr gweithredu

·         addasu amodau’r drwydded i’r graddau yr ystyrir yn briodol ar gyfer hyrwyddo’r amcanion trwyddedu;

·         eithrio gweithgaredd trwyddedadwy o gwmpas y drwydded;

·         gwrthod nodi person fel goruchwyliwr dynodedig y safle; neu

·         gwrthod y cais.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Tîm am y trosolwg o’r adroddiad a gwahoddodd yr Ymgeisydd i gyflwyno ei achos.

 

Dywedodd Mr Dixon fod Mr a Mrs Adlam yn berchnogion busnes siop arall yn yr ardal ac felly teimlid eu bod yn gwrthwynebu’r cais er budd eu busnes eu hunain.

 

Amlinellodd Mr Dixon pam fod y cais i gynnwys siop gyfleus ar wahân o fewn y safle presennol. Mr Sangha yw perchennog y safle ac mae wedi rhedeg clwb cymdeithasol am flynyddoedd lawer heb dorri amodau’r drwydded. Felly, dymunai Mr Sangha adnewyddu’r adeilad i gynnwys rhedeg siop ddiodydd fel busnes.

 

Ar y pwynt hwn, gwahoddodd y Cadeirydd y gwrthwynebwyr i annerch yr Is-bwyllgor.

 

Dymunai Mr Adlam ddweud yn gyntaf ei fod yn gwrthwynebu fel rhywun sy’n byw yn Garnlydan ac nid fel perchennog busnes. Wedyn darllenodd y datganiad a gyflwynwyd yn erbyn y cais fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Cododd Mr Adlam, gwrthwynebwr, nifer o faterion a gadarnhaodd y Cadeirydd a Chyfreithiwr yr awdurdod lleol nad oedd yn berthnasol i’r cais ac nad oedd yn cyrraedd yr amcanion trwyddedu.

 

Teimlai Mrs Adlam, gwrthwynebwr, y byddai siop ddiodydd arall o fewn y stad yn cynyddu argaeledd alcohol a gallai ddenu pobl ifanc i’r ardal gyda mwy o risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol a fyddai’n effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd. Ychwanegodd Mrs Adlam ei bod yn aelod gweithgar o gr?p cymunedol lleol a fu’n gweithio gyda Heddlu Gwent a Tai Calon i wella’r ardal.

 

Mae gan Mrs Adlam bryderon mawr am gyflwr yr adeilad a glanweithdra cyffredinol yr ardal o amgylch. Hysbyswyd yr Is-bwyllgor fod rheoli pla wedi ymweld â’r adeilad oherwydd y gwelwyd llygod mawr a bod Mrs Adlam wedi clirio sbwriel o amgylch yr adeilad lawer o weithiau.

 

Teimlai Mrs Adlam fod cyflwr presennol yr adeilad yn dangos diffyg parch llwyr gan yr Ymgeisydd at yr ardal.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan gynrychiolydd yr ymgeisydd, dywedodd Mrs Adlam eto ei bod hi a’i thad yn gwrthwynebu fel pobl sy’n byw yn Garnlydan ac nad oedd yn berchennog y siop gyfleus leol. Dywedodd ei bod yn aelod gweithgar ac angerddol o’r gr?p cymunedol lleol a’i bod eisiau gwella’r ardal.

 

Ychwanegodd Mrs Adlam y cysylltwyd â Nick Smith AS ar y mater hwn a’i fod yn llwyr gefnogi’r gwrthwynebiadau a wnaed.

 

Nid oedd cwestiynau pellach gan y cynrychiolwyr nac aelodau’r is-bwyllgor.

 

Ar y pwynt hwn gofynnwyd i’r rhai oedd yn bresennol yn y cyfarfod i grynhoi eu sylwadau.

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd ei fod yn gwerthfawrogi’r pryderon a godwyd gan y gwrthwynebwyr yng nghyswllt cyflwr yr adeilad a theimlid y gellid trin y pryderon hyn gan y byddai adnewyddu helaeth ar yr adeilad pe cymeradwyid y cais.

 

Nododd Mr a Mrs Adlam sylwadau cynrychiolydd yr Ymgeisydd, fodd bynnag nid oeddent yn hyderus y byddai eu pryderon yn cael eu trin gan y bu Mr Sangha yn berchen yr adeilad am lawer o flynyddoedd ac nad oedd wedi gwneud unrhyw ymgais i adnewyddu’r adeilad neu gadw’r safle yn rhydd o sbwriel.

 

Ar y pwynt hwn, gadawodd yr Ymgeisydd, cynrychiolydd yr Ymgeisydd, y gwrthwynebwyr a’r Swyddog Trwyddedu y cyfarfod er mwyn i’r Is-bwyllgor ystyried y cais.

 

Trafododd y Pwyllgor y cais yn faith a gwnaed penderfyniad a gwahoddwyd y  mynychwyr yn ôl i’r cyfarfod.

 

Wedyn rhoddodd Cyfreithiwr yr awdurdod lleol benderfyniad yr Is-bwyllgor.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau ysgrifenedig ar gyfer y cais am safle trwydded newydd ar gyfer Siop Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, fel y’i cyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog, ynghyd â’r sylwadau llafar a roddwyd yn y gwrandawiad ar ran yr Ymgeisydd a’r Gwrthwynebwyr.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor hefyd eu hysbysu am y gwrthwynebiadau dechreuol gan Heddlu Gwent a gafodd eu tynnu’n ôl pan gytunodd yr Ymgeisydd i’r gwahanol amodau a nodir yn adroddiad y Swyddog.

 

Wrth gyrraedd ei benderfyniad heddiw, mae’r Is-bwyllgor wedi ystyried darpariaethau perthnasol Deddf Trwyddedu 2003 (yn neilltuol Adran 4) a’r canllawiau a gyhoeddwyd dan Adran 182 y Ddeddf a pholisi trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Mae’r Is-bwyllgor wedi ystyried y Cais yng ngoleuni ei bedwar Amcan Trwyddedu:

·         Atal troseddu ac anrhefn

·         Diogelwch y cyhoedd

·         Atal niwsans cyhoeddus

·         Amddiffyn plant rhag anaf.

 

Mae’r Is-bwyllgor hefyd yn gwerthfawrogi fod gan y gwrthwynebwyr bryderon, fodd bynnag yn seiliedig ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad y mae’r Ymgeisydd yn barod i gydymffurfio â nhw, gwnaed y penderfyniad i:-

 

Caniatau’r Drwydded gyda’r amodau dilynol:

 

Cyflenwi Alcohol, dydd Llun – dydd Sul 08.00am – 10.00pm

Oriau Agor, dydd Llun – dydd Sul 08.00am – 10.00pm

CCTV i fod yn gweithredu.

 

Lle caiff system CCTV ei gosod, ei hymestyn neu ei hadnewyddu, rhaid iddi fod o safon priodol fel y cytunwyd gyda’r Awdurdod Trwyddedu mewn ymgynghoriad gyda’r Heddlu. Lle gosodir system CCTV, dylai fod yn llwyr weithredol erbyn adeg dechrau’r drwydded.

 

-       Caiff yr offer CCTV ei gadw mewn cyflwr da a bydd yn recordio yn barhaus pan fo gweithgaredd trwyddedadwy yn digwydd ac am gyfnod o ddwy awr wedyn.

 

-       Bydd deiliad trwydded y safle yn sicrhau y cedwir lluniau  CCTV am gyfnod o 31 diwrnod. Gall yr Awdurdod Trwyddedu adolygu cyfnod adolygu lluniau fel sy’n briodol.

 

-       Rhaid i’r recordiad a’r sgrin delwedd amser real ddangos yr amser a’r dyddiad cywir.

 

-       Os yw’r offer CCTV (yn cynnwys unrhyw unedau symudol a ddefnyddir yn y safle) yn torri, bydd y Deiliad Trwydded y safle yn hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu a’r Heddlu ar lafar cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol. Caiff yr wybodaeth hon ei chofnodi ar yr un pryd yn y gofrestr o adroddiadau digwyddiadau a bydd yn cynnwys am faint o’r gloch, y dyddiad a’r ffordd y gwnaethpwyd hyn ac i bwy y cafodd yr wybodaeth ei rhoi.

 

-       Caiff methiannau offer eu trwsio neu eu hadnewyddu cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol a heb oedi diangen. Caiff yr Awdurdod Trwyddedu a’r Heddlu eu hysbysu pan unionir gwallau.

 

-       Bydd deiliad trwydded y safle yn sicrhau bod holl aelodau staff  yn cael eu hyfforddi i fedru atgynhyrchu a lawrlwytho lluniau CCTV i fformat symudadwy ar gais unrhyw swyddog a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu neu gwnstabl.

 

-       Bydd arwyddion clir yn nodi fod yr offer CCTV yn cael ei ddefnyddio ac yn recordio yn y safle.

 

-       Ni chaniateir yfed diodydd alcoholig a brynwyd o’r safle mewn cynwysyddion agored o flaen y safle.

 

-       Pe byddai cwsmeriaid tu allan i’r safle yn achosi tagfa, loetran a/neu yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywedir wrthynt am symud o’r safle.

 

-       Caiff llyfr digwyddiadau ei gadw a’i gynnal a bydd yn y safle ar bob amser a chaiff ei ddangos i swyddog a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu neu gwnstabl yn syth pan wneir cais.  Bydd yn cynnwys manylion yr unigolion dan sylw, disgrifiad o’r digwyddiad, amser a dyddiad, y camau gweithredu a gymerwyd a chanlyniad terfynol y sefyllfa. Caiff y cofnodion hyn eu cadw am o leiaf 12 mis.

 

-       Rhaid dangos hysbysiadau ysgrifenedig clir ar bob allfan o’r safle yn eu cyfarwyddo i barchu anghenion preswylwyr lleol ac i adael y safle a’r ardal yn dawel

 

-       Caiff yr holl staff eu hyfforddi yng nghyswllt gwerthu dan oed, gyda hyfforddiant o’r fath i gael ei ddiweddaru fel sydd angen pan mae deddfwriaeth yn newid a dylai gynnwys hyfforddiant mewn gwerthiant dirprwy a sut i wrthod gwerthiannau i gwsmeriaid anodd. Dylai hyfforddiant diogelu hefyd gael ei gwneud gyda’r holl staff. Dylai hyfforddiant gael ei ddogfennu’n glir, ei lofnodi a’i ddyddio gan yr hyfforddwyr a’r aelod o staff sy’n ei dderbyn. Dylai’r dogfennau hyn fod ar gael i’w archwilio ar gais gan swyddog wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Trwyddedu neu Gwnstabl.

 

-       Caiff cynllun prawf oedran cymeradwy ei fabwysiadu, ei weithredu a’i hysbysebu o fewn y safle tebyg i ‘Her 21’ lle gofynnir am ddull cydnabyddedig o adnabyddiaeth ffotograffig cyn y gwerthir unrhyw alcohol i unrhyw berson sy’n ymddangos i fod dan 21 oed. Bydd prawf derbyniol o oedran yn cynnwys dull adnabod gyda ffotograff y cwsmer, dyddiad geni a marc holograffig integrol neu fesurau diogelwch. Byddai dull addas o adnabod yn cynnwys cerdyn prawf oedran a gymeradwywyd gan PASS, trwydded yrru gyda llun a phasbort.

 

Gan nad oedd gwrthwynebiad gan Awdurdodau cyfrifol nac unrhyw breswylwyr eraill, teimlai’r Pwyllgor mai hwn oedd y penderfyniad cywir.

 

Hawl Apelio

 

Mae gan bob parti hawl i apelio i’r Llys Ynadon o fewn 21 dyddiad o dderbyn y penderfyniad hwn. Mae gan unrhyw awdurdod cyfrifol neu berson arall hawl i ofyn am adolygiad o’r Drwydded.

Dogfennau ategol: