Agenda item

Monitro’r Gyllideb Cyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2021/2022 (fel ar 31 Rhagfyr 2021)

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob portffolio o gymharu â chymeradwyaethau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, fel ar 31 Rhagfyr 2021; y rhagolwg o’r sefyllfa ariannol hyd 31 Mawrth 2022 ar draws pob portffolio, a manylion amrywiadau anffafriol/ffafriol sylweddol.

 

Roedd y sefyllfa ariannol gyffredinol fel y’i rhagwelwyd ar 31 Rhagfyr 2021 yn dangos amrywiad anffafriol o £227,852 o gymharu â chyfanswm cyllideb gyfalaf yn y flwyddyn o £20.1m. Dynododd yr adroddiad orwariant sylweddol ar y prosiectau dilynol:

 

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi - £42,752

Mae’r gorwariant yn ymwneud â chynnydd mewn costau oherwydd pandemig Covid-19 a pharatoi’r safle ar gyfer y dyfodol. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda WRAP Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch cyllido’r gwariant ychwanegol.

 

Parc Busnes Rhodfa Calch £185,096

Mae’r cyfrif terfynol diweddaraf a ragwelir yn sôn am golled a hawliad treuliau ar gyfer eitemau yng nghyswllt problemau nas rhagwelwyd a achoswyd gan bandemig Covid-19 o £185,096, gostyngiad o £49,614 o gymharu â rhagolwg Chwarter 2 o £234,710. Roedd swyddogion yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a swyddogion prosiect WEFO i geisio cyllid ychwanegol i liniaru’r gorwariant.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau gyda chyrff cyllido yn gadarnhaol ar hyn o bryd felly ni chynigir ar y cam hwn fod cyllid ar gyfer y cynlluniau hyn yn dod o’r gronfa cyfalaf wrth gefn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog fod y ffigurau a roddwyd ar gyfer yr adeiladau presennol ar Barc Busnes Rhodfa Calch.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at y cais cynllunio ar gyfer cyflenwi 10 uned i dde’r safle a holodd am gyllid ar gyfer y datblygiad.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y rhoddwyd cymeradwyaeth cynllunio yr wythnos ddiwethaf, fodd bynnag nid yw’r Cyngor yn ymwneud â chyflenwi’r prosiect. Caiff y prosiect ei gyllido gan yr ymgeisydd gyda chyllid rhannol gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Aelod arall y deallai fod Cymoedd Technoleg wedi tynnu allan o’r prosiect.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog fod Cymoedd Technoleg yn darparu cyllid ar gyfer unedau dechrau busnes, fodd bynnag mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno cais newydd gyda newid i’r unedau a ddarperir yn y safle. O ran cyllid Cymoedd Technoleg, disgwylir cael gwybod beth yw lefel y cyllid Llywodraeth Cymru i Cymoedd Technoleg ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, ond mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y bydd cyllid yn anodd y flwyddyn nesaf. Dywedodd y Swyddog bod cyllid ar gael ar gyfer datblygiadau, a’i bod yn debygol y byddai’r ymgeisydd yn dechrau ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd Aelod am gostau’r arolwg a gynhaliwyd ar y Ganolfan Ddinesig a dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’n adrodd yn ôl ar y mater hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y trafodaethau ar y datblygiad newydd arfaethedig yn Rhodfa Calch a mynegodd bryder y gallai’r golled bosibl ar gyllid Cymoedd Technoleg effeithio ar brosiectau eraill. Dywedodd fod yr Aelod Gweithrediaeth a hefyd Gyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau cymunedol ill dau yn aelodau o Fwrdd Cymoedd Technoleg a dywedodd y Cadeirydd y byddai’n trafod y mater gyda’r Aelod Gweithrediaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod wedyn at y Gronfa Rhyddhau Tir – Baddonau Pen y Pwll a mynegodd bryder am ymateb yr Aelod Gweithrediaeth i ohebiaeth ar y mater a dywedodd nad oedd Swyddogion yn dal heb roi ymateb i’w gwestiynau am y cyllid. Wedyn gofynnodd pa amodau oedd ar y cyllid o £224,878k ac os oes unrhyw gyfraniad gan Flaenau Gwent.

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Adfywio y byddai’n adrodd yn ôl ar delerau ac amodau’r cyllid.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn:

 

·         Parhau i gefnogi gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor; a

·         Nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb sydd ar waith o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod (Opsiwn 1).

 

Dogfennau ategol: